Participants on the beach

Cynhaliwyd gweithdy ddydd Iau 13 Mehefin i archwilio amrywiaeth o feysydd sy'n ymwneud â Deallusrwydd Artiffisial, gan gynnwys heriau ar gyfer polisi cyhoeddus, cyfleoedd ar gyfer marchnata a gwerthiannau digidol, cyfyngiadau a gweithredu.

Agorwyd y digwyddiad gan yr Athro Hilary Lappin Scott OBE, Uwch-ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Abertawe, gan groesawu Mr Lee Waters AM, y Dirprwy Weinidog ar gyfer yr Economi a Thrafnidiaeth. Mynegodd y ddau ohonynt yr angen i sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau, yn enwedig ar lefel arweinyddiaeth mewn sefydliadau.

Cymerodd panel o westeion nodedig - o'r sectorau preifat a chyhoeddus - ran yn y sesiynau, gan sbarduno nifer o drafodaethau ardderchog.

Meddai Cyd-gadeirydd y gweithdy, yr Athro Yogesh Dwivedi, "Mae potensial enfawr o hyd gan y maes hwn, a darparodd y digwyddiad nifer o argymhellion ac allbynnau addawol i ni adeiladu arnynt.”

 

Cynhaliwyd y gweithdy gan y Ganolfan Ymchwil i Farchnadoedd Newydd (EMaRC) ac i-Lab (Labordy Arloesi) Abertawe a leolir yn yr Ysgol Reolaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am waith y canolfannau ymchwil hyn, ewch i: https://www.swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/ymchwil/canolfannau-ymchwil/

Rhannu'r stori