Crynodeb o'r Newyddion

dwylo ag arthritis gwynegol

Astudiaeth newydd: gallai cyffur ar gyfer diabetes math 2 drin anhwylderau awtoi

Mae academyddion yng Nghyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd y Brifysgol wedi canfod y gellid defnyddio'r cyffur, sef canagliflozin (a adwaenir fel Invokana hefyd), i drin anhwylderau awtoimiwnedd megis arthritis gwynegol ac erythematosus lwpws systemig gan ei fod yn targedu celloedd T, sy'n rhan hanfodol o'r system imiwnedd.

Darllen mwy
Plant yn chwarae pêl-droed

Arbenigwyr yn archwilio sut mae gweithgarwch corfforol yn newid bywydau

Mae effeithiolrwydd chwaraeon fel ffordd o fynd i'r afael â throseddau ieuenctid wedi cael ei ddadansoddi gan academyddion o Gymru yn Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS) a bydd eu canfyddiadau bellach yn cael eu defnyddio er mwyn helpu i lywio arweinwyr yr heddlu.

Darllen mwy
Rhew yn toddi yn antarctica

Fideo i ysgolion ar doddi iâ a lefel y môr yn codi'n ennill gwobr nodedig

Mae ffilm i ddisgyblion ysgol am doddi iâ yn Antarctica a lefel y môr yn codi, a wnaed gan dîm sy’n cynnwys arbenigwr pegynol yr Athro Adrian Luckman o Brifysgol Abertawe, wedi ennill Gwobr Arian nodedig The Geographical Association (GA).

Darllen mwy
Yr Athro Jason Webber

Ymchwil y Brifysgol i ganser y prostad yn cael hwb gwerth £400,000

Mae Dr Jason Webber, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, wedi derbyn cyllid gwerth mwy na £400,000 ar gyfer ymchwil a fydd yn ceisio creu math newydd o brawf gwaed anfewnwthiol ar gyfer canser y prostad, er mwyn helpu i ganfod canser y prostad yn gynharach yn ogystal ag osgoi biopsïau diangen a allai fod yn niweidiol.

Darllen mwy

Uchafbwyntiau Ymchwil

Aelodau'r prosiect

Rhaglen ar gyfer Gwella Sgiliau Digidol ac Iaith

Drwy ddarparu hyfforddiant datblygu sgiliau digidol ar gyfer unigolion a sefydliadau yn Abertawe, mae prosiect PEDALS dan arweiniad yr Athro David Turner yn mynd i'r afael â'r heriau a wynebir gan bobl ar y cyrion yn y gymuned ac yn gwella bywydau pobl sy'n byw ac yn gweithio yn y ddinas.

 

Darllen mwy
Logo awtistiaeth

Gwella Gofal Iechyd i Bobl Awtistig

Mae Dr Aimee Grant, academydd awtistig, ar y cyd ag ymchwilwyr yn LIFT (Centre for Lactation, Infant Feeding and Translational Research), Autistic UK a Thriniaeth Deg i Fenywod Cymru, wedi bod yn gweithio gyda phobl awtistig i ddeall y gwahaniaethau ym mhrofiadau gofal iechyd pobl awtistig, gan gynnwys mewn perthynas â beichiogrwydd, colli beichiogrwydd a bwydo ar y fron.

Darllen mwy
Offer meddygol

Datblygu Gwasanaeth Iechyd Gwladol cynaliadwy

Mae'r Athro Nick Rich, yr Athro Gareth Davies a Dr Gary Walpole o Brifysgol Abertawe'n cydweithio ar bortffolio uchelgeisiol o ymchwil ym maes rheoli gweithrediadau, arloesi sefydliadol a'r gadwyn gyflenwi er mwyn creu gwasanaeth iechyd a gofal economaidd sy'n gynaliadwy'n amgylcheddol i'r gymuned.

Darllen mwy

Barn Arbenigwyr

Logo Archwilio Problemau Byd-eang

A Fydd Adrodd Am Faterion Gwleidyddol Yn Helpu Dinasyddion?

Yn y bennod hon o Archwilio Problemau Byd-eang, mae Dr Matt Wall, Dr Richard Thomas, a'r Athro Jonathan Bradbury yn trafod eu gwaith ar ymgysylltu gwleidyddol, y rhyngrwyd a barn y cyhoedd, datganoli, ac a yw adrodd am faterion gwleidyddol yn helpu dinasyddion i wneud dewisiadau gwybodus wrth y blwch pleidleisio.

 

Gwrandewch nawr
Perovskite

Mae technoleg newydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer celloedd solar rhad a helaeth

Yn yr erthygl hon o The Conversation, mae’r Uwch-swyddog Ymchwil David Beynon yn esbonio sut mae’r tîm yn Abertawe wedi datblygu’r gell solar rholio ac argraffadwy gyntaf yn y byd; math newydd o dechnoleg solar sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer celloedd toreithiog, rhad ac argraffadwy.

Darllen mwy

Dan y chwyddwydr...

Dr Jing Shao

Ymchwilydd Gyrfa Gynnar

Darlithydd Economeg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Abertawe yw Dr Jing Shao. Mae hi'n arbenigo mewn Economeg Llafur ac Economeg Iechyd, yn benodol micro-economeg empirig ac econometreg gymhwysol, gan roi pwyslais penodol ar economeg ynni, economeg iechyd ac economeg llafur.

Darllen mwy
Nathan Ellmer

Ymchwilydd Ôl-raddedig

Mae Nathan Ellmer yn fyfyriwr PhD Peirianneg Sifil yng Nghanolfan Peirianneg Gyfrifiadol Zienkiewicz (ZCCE) yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Mae ei waith ymchwil yn cynnwys datblygu fframwaith cyfrifiadol i efelychu anffurfiadau enfawr o bolymerau meddal iawn.

Nathan Ellmer
Logo sefydliad dur a deunyddiau

Canolfan Ymchwil

Mae'r Sefydliad Dur a Metelau (SAMI) yn ganolfan ragoriaeth mynediad agored sy'n canolbwyntio ar arloesedd dur drwy gyflwyno atebion ymarferol i ddiwydiant. Mae gan y Sefydliad amrywiaeth o gyfarpar sy'n ymchwilio i ddatgarboneiddio, synthesis aloiau, efelychu proses, profi mecanyddol a nodweddu deunyddiau.

Darllen mwy

Cydweithrediadau Ymchwil

Dyn yn cael gwirio ei lygaid

Cenhadaeth tîm arbenigol i helpu pobl â diabetes ar ynys Bermuda

Mae arbenigwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol y Frenhines Belfast wedi helpu i ddarparu gofal llygaid sy'n newid bywydau pobl â diabetes ar ynys Bermuda. Roedd yr Athro David Owens a Dr Becky Thomas, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn rhan o'r tîm arbenigol, ynghyd â Catherine Jamison o Brifysgol y Frenhines, a deithiodd i brifddinas Bermuda, Hamilton, i sgrinio llygaid pobl am ddiabetes am ddim am wythnos.

Darllen mwy
Babi ym mreichiau eu mam

Y Brifysgol yn helpu i greu ap realiti rhithwir newydd

Mae cydweithrediad ymchwil newydd sydd â'r nod o sbarduno galluoedd a gwella ymchwil i iechyd mamau a babanod wedi derbyn hwb ariannol gwerth £1.4m. Mae'r Cyngor Ymchwil Feddygol wedi dyfarnu'r grant i bartneriaeth MIREDA (Dadansoddi Data Electronig Ymchwil i Famau a Babanod), dan arweiniad y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe.

Darllen mwy
Eog mewn afon

Adroddiad newydd yn rhybuddio am fygythiad i boblogaethau bach o eogiaid

Mae adroddiad newydd a gomisiynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys rhai canfyddiadau syfrdanol ynghylch dyfodol poblogaethau eogiaid. Mae’r adroddiad tystiolaeth gan yr Athro Carlos Garcia de Leaniz o Ysgol y Biowyddorau yn amlygu'r risg uchel bod eogiaid yr Iwerydd ar eu ffordd i ddifodiant yng Nghymru.

Darllen mwy

Cofrestrwch i dderbyn y rhifyn diweddaraf o MOMENTUM yn syth i'ch mewnflwch

Drwy lenwi'r ffurflen hon rydych yn cydsynio i dderbyn MOMENTUM drwy e-bost. Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd trwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio ar waelod e-bost. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein polisi preifatrwydd.