Mae Clinig y Gyfraith Abertawe, yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, wedi cael ei achredu gan Swyddfa'r Comisiynydd Safonau Mewnfudo (OISC) i roi cyngor ar fewnfudo, lloches a diogelwch ar Lefel Un.

Felly Clinig y Gyfraith Abertawe yw'r clinig y gyfraith cyntaf mewn prifysgol yng Nghymru i gael achrediad yr OISC, ac mae’n un o lond llaw o brifysgolion yn y DU i gael yr achrediad hwn, gan adeiladu ar ei statws presennol fel y clinig y gyfraith cyntaf mewn prifysgol yng Nghymru i gael achrediad yr AQS, sef y marc ansawdd cydnabyddedig ar gyfer sefydliadau sy'n rhoi cyngor i’r cyhoedd ar faterion lles cymdeithasol.

Mae'r Athro Richard Owen, Cyfarwyddwr Clinig y Gyfraith Abertawe, wedi cael awdurdod i roi cyngor i gleientiaid y Clinig ar y materion a nodwyd uchod, ac fel rhan o achrediad yr OISC, mae’n gallu goruchwylio'r myfyrwyr sy'n rhan o'r gwaith hwn hefyd. Mae hyn yn ychwanegu haenen arall at yr ystod o gyfleoedd dysgu drwy brofiad ar gynnig yn Ysgol y Gyfraith, ac mae'n galluogi myfyrwyr y gyfraith i elwa ymhellach drwy gymryd rhan yn y Clinig.

Yn trafod yr achrediad, meddai'r Athro Richard Owen:

“Rwyf wrth fy modd bod Clinig y Gyfraith Abertawe wedi derbyn achrediad yr OISC.  Bydd hwn yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr fod yn rhan o waith diddorol a heriol, sy'n bwysig ynddo ei hun ond hefyd bydd yn rhoi sgiliau hollbwysig i'r myfyrwyr a fydd yn drosglwyddadwy i lawer o feysydd eraill.”

Mae rhagor o wybodaeth am Glinig y Gyfraith Abertawe ar gael ar ei wefan.

Rhannu'r stori