Mae Clinig y Gyfraith Abertawe yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton wedi cael achrediad gyda'r Safon Ansawdd Cyngor (AQS), sef y nod ansawdd cydnabyddedig i sefydliadau sy'n darparu cyngor i'r cyhoedd ar faterion sy'n ymwneud â llesiant cymdeithasol.

Gymdeithas Gwasanaethau Cyngor sy'n berchen ar y Safon Ansawdd Cyngor, ac mae'n gorff ymbarél ar gyfer y sector cyngor. Archwilwyr annibynnol sy'n cynnal y broses achredu, ac yn achos Clinig y Gyfraith, nodwyd bod un ar ddeg maes o arfer gorau wedi'u gwasgaru ar draws yr holl gategorïau archwiliol.

Er mwyn cyflawni a chynnal y safon, mae angen i ddarparwyr cyngor ddangos bod ganddynt wasanaeth a reolir yn dda, sicrhau bod gan eu staff wybodaeth berthnasol a chyfoes a bod ansawdd y cyngor a ddarperir yn parhau i fod yn uchel. Caiff yr holl elfennau hyn eu harchwilio'n annibynnol.

Mae hyn yn rhoi statws breintiedig iawn i Glinig y Gyfraith Abertawe, a dim ond tri chlinig cyfreithiol arall  mewn prifysgolion yn y DU sy’n meddu ar yr achrediad AQS ar hyn o bryd. Abertawe yw'r unig un gyda'r achrediad hwn yng Nghymru.

Yn unol â Chynllun Gweithredu Cyngor a Gwybodaeth Llywodraeth Cymru (2016), datblygwyd fframwaith sicrhau ansawdd ar gyfer gwybodaeth a chyngor, sef Fframwaith Ansawdd Gwybodaeth a Chyngor Cymru (IAQF) ac mae'n bolisi'r llywodraeth y dylai darparwyr cyngor feddu ar achrediad yr IAQF.

Mae cyllido cyngor llesiant cymdeithasol yng Nghymru gan gyrff cyhoeddus yn dibynnu ar achrediad IAQF. Caiff deiliaid yr AQS eu cymeradwyo'n awtomatig ar gyfer achrediad yr IAQF, ac ar hyn o bryd, yr AQS yw'r unig safon ansawdd y gall Clinig y Gyfraith Abertawe wneud cais amdani sydd hefyd wedi'i chydnabod gan yr IAQF.

Golyga hyn fod ein Hymgynghorwyr Myfyrwyr, sy'n rhoi o'u hamser i'r Clinig, wedi profi eu bod yn gweithio i'r un safon â phobl sydd wedi'u cyflogi yn y sector cyngor ym marn archwilydd annibynnol.

Yn trafod yr achrediad, meddai'r Athro Richard Owen:

“'Rwyf wrth fy modd bod Clinig y Gyfraith Abertawe wedi derbyn y gydnabyddiaeth hon. Mae'n dystiolaeth o'r gwaith caled a'r agwedd broffesiynol mae ein Hymgynghorwyr Myfyrwyr wedi eu rhoi i'r gweithgareddau rhoi cyngor i'r cyhoedd.”

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Glinig y Gyfraith Abertawe wrth fynd i wefan y Clinig.

Rhannu'r stori