Troi Dealltwriaeth O Imiwnedd Er Budd Clinigol

Mae'r system imiwnedd yn amddiffyn yn erbyn pathogenau megis feirysau a bacteria, ac mae'n sail i amrywiaeth eang o glefydau anhrosglwyddadwy, o alergeddau i ganser. Mae system imiwnedd sy'n gweithio'n iawn, felly, yn hanfodol i iechyd a llesiant unigolion. Ein dull gweithredu yw datblygu'r wyddoniaeth sylfaenol sy'n ymwneud ag imiwnedd a throi hon er budd clinigol. Gwneir hyn drwy gynnal ymchwil er mwyn deall yn well y prosesau cellol a moleciwlaidd sydd wrth wraidd y ffordd y mae celloedd imiwn yn gweithio, a nodi sut y gall y llwybrau hyn ddechrau camymddwyn mewn cysylltiad â chlefyd. Ar yr un pryd, rydym yn chwilio am ddiagnosteg a therapiwteg well yn seiliedig ar y ddealltwriaeth hon a thrwy gydweithio rhyngddisgyblaethol er mwyn gwella iechyd.

Researcher looking at genes

Canolbwynt Ymchwil Imiwnobioleg Ac Imiwnopatholeg

Mae is-thema Imiwnobioleg ac Imiwnopatholeg yn canolbwyntio ar nifer o feysydd sy'n gysylltiedig ag imiwnedd, gan ymchwilio i'r newidiadau yn y ffordd y mae imiwnedd yn gweithio yn ystod beichiogrwydd, a phrosesau ail-raglennu metabolig ac osgoi'r system imiwnedd a welir mewn Canser.

Yn gysylltiedig â'n gwaith ar ddiagnosteg newydd ym maes obstetreg, ein nod yw sicrhau bod unrhyw brofion rydym yn eu datblygu ar gael i fenywod mewn gwledydd incwm isel a chanolig, ac yn gymwys i gael eu defnyddio ganddynt. Mae hyn yn golygu gweithio'n agos gyda gwledydd megis Uganda a Fiet-nam i ddatblygu a phrofi ein technolegau ac i adeiladu'r fioleg sydd wrth wraidd y gwahaniaethau o ran cyffredinrwydd clefydau a welir mewn menywod beichiog o wahanol ethnigrwydd. Mae ein hymdrechion yn cydweddu â dyheadau Nod 3 Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, sef hybu iechyd a llesiant da i bobl o bob oedran.

Canlyniadau Ymchwil

Rydym wedi nodi'n ddiweddar bod y siwgr ffrwctos yn cefnogi llid uwch gan boblogaeth allweddol o gelloedd a elwir yn fonocytau. Mae gan y celloedd hyn rôl bwysig i'w chwarae yn ein hymateb imiwnyddol cynnar i bathogenau, ac maent yn gysylltiedig â chyflwr mwy llidiol a welir ymhlith pobl ordew, ac â chlefydau sy'n gysylltiedig â gordewdra. Gwelsom hefyd fod modd lladd y celloedd hyperlidiol hyn yn haws, ac rydym wrthi bellach yn ymchwilio i'r posibilrwydd o fanteisio ar hyn fel therapi ar gyfer COVID-19.

Researcher looking at sample
Fructose Image

Effaith Ffrwctos Ar Y System Imiwnedd

Ceir ffrwctos yn aml mewn diodydd llawn siwgr, losin a bwydydd wedi'u prosesu, ac fe'i defnyddir yn aml yn y diwydiant cynhyrchu bwyd. Fodd bynnag, mae'r ddealltwriaeth o effaith ffrwctos ar system imiwnedd y bobl sy'n bwyta neu'n yfed llawer ohono wedi bod yn gyfyngedig hyd yn hyn. Rydym yn dangos bod ffrwctos yn achosi i'r system imiwnedd fynd yn llidus, a bod y broses yn creu mwy o foleciwlau ymatebol sy'n gysylltiedig â llid. Mae'r ymchwil hefyd yn darparu dealltwriaeth well o'r ffordd y gall ffrwctos fod yn gysylltiedig â diabetes a gordewdra, am fod lefelau isel o lid yn gysylltiedig â gordewdra'n aml.

Bacteria Cells

Amddiffyn Meinweoedd Yn Erbyn Bacteria

Mae niwed i feinweoedd yn digwydd yn aml mewn clefydau bacteriol. Mae sawl rhywogaeth o facteria pathogenig yn cynhyrchu tocsinau sy'n creu tyllau ym mhilenni celloedd, a all arwain at farwolaeth celloedd. Fodd bynnag, mae celloedd meinweoedd yn amrywio yn eu gallu i amddiffyn eu hunain rhag y tocsinau hyn. Rydym yn datgelu'r prosesau a ddefnyddir gan gelloedd i atal niwed.

Rydym wedi dod o hyd i hormonau a chyffuriau sy'n gwella gallu pilenni celloedd i wrthsefyll y tocsinau. Ein bwriad yw datblygu dulliau newydd o amddiffyn celloedd meinweoedd yn erbyn tocsinau bacteriol er mwyn trin ac atal clefydau.