Coronafeirws: y diweddaraf
Dr Charlotte Eve Davies, prif ymchwilydd y prosiect, gyda chimwch

Dr Charlotte Eve Davies, prif ymchwilydd y prosiect, gyda chimwch Panulirus argus

Mae'n ymddangos bod lefelau heintio â feirws ymysg cimychiaid yn gysylltiedig â chynefinoedd a rhywogaethau eraill, yn ôl dwy astudiaeth newydd o ardaloedd morol gwarchodedig yn y Caribî.

Bydd y canfyddiadau'n cefnogi ymdrechion i ddiogelu cimychiaid coch y Caribî, sy'n ffynhonnell allweddol bwyd ar gyfer cymunedau ledled yr ardal a'r byd. Maent hefyd yn hybu ein dealltwriaeth o'r ffordd y mae feirysau'n lledaenu – dynameg clefydau – ac o ecoleg amgylcheddau bregus megis morlynnoedd cwrel trofannol ac ecosystemau morwellt.

Gellir dod o hyd i gimychiaid coch, sy'n dwyn yr enw gwyddonol Panulirus argus, ledled y Caribî. Mae cynefinoedd arfordirol megis gweunwellt arfor a gwelyau algâu yn gweithredu fel meithrinfeydd i'r ifanc cyn iddynt symud i'r riffiau cwrel pan fyddant yn eu llawn dwf.

Cynhaliwyd y gwaith ymchwil, dan arweiniad Dr Charlotte Davies, sydd bellach o Brifysgol Abertawe, gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Ymreolaethol Genedlaethol Uned Systemau Riffiau Mecsico. Gwnaethant ganolbwyntio ar fygythiad Panulirus argus: feirws 1 (PaV1) i'r rhywogaeth hon. PaV1, a gafodd ei ddarganfod yn 2000, yw'r feirws hysbys cyntaf sy'n digwydd yn naturiol mewn cimychiaid.

Mae'r feirws yn achosi bygythiad arbennig i gimychiaid iau, felly mae'n hollbwysig mynd i'r afael ag ef er mwyn diogelu'r rhywogaeth.

Archwiliodd y tîm gimychiaid mewn dwy ardal forol warchodedig yn y rhan Fecsicanaidd o'r Caribî: Gwarchodfa Biosffer Sian Ka'an a Pharc Rîff Cenedlaethol Puerto Morelos, lle mae'r feirws wedi bod yn bresennol ers 2001.

Cynhaliwyd asesiadau systematig o fynychder y feirws ar draws y ddau safle, unwaith y flwyddyn am ddwy flynedd yn Sian Ka’an a phob tymor dros bedair blynedd yn Puerto Morelos. Cafodd y ddau safle eu gwahanu'n barthau â nodweddion gwahanol megis dyfnder y dŵr, gwaddolion a graddau tyfiant.

Roedd ymchwil flaenorol wedi awgrymu y gall fod cysylltiad rhwng mynychder feirysau a chynefinoedd, felly roedd ymchwilio i hyn yn fanylach wrth wraidd yr ymchwil, yn ogystal ag ystyried bioamrywiaeth cymunedau di-asgwrn-cefn cyfagos (bwyd cimychiaid).

Daeth y tîm i'r casgliadau canlynol:

  • Roedd y gyfradd heintio uchaf ymysg cimychiaid ifanc llai, gan gadarnhau canfyddiadau astudiaethau blaenorol, a gallai'r mynychder go iawn fod mor uchel â 32% ar draws poblogaethau
  • Yn Sian Ka’an, gwelwyd bod llawer mwy o gimychiaid â PaV1 yn byw yn y gweunwellt arfor â llawer o dyfiant nag yn y riffiau cwrel – gan awgrymu y gall fod rhywbeth yn y morwellt sy'n atal y feirws rhag lledaenu. Mae ymchwil ddiweddar o fannau eraill wedi dangos y gall gweunwellt arfor ddal rhai pathogenau, gan leihau'n sylweddol y nifer a all gyrraedd y cefnfor agored, er budd pobl a bywyd morol. 
  • Fodd bynnag, yn Puerto Morelos, lle mae'r cimychiaid yn llai a lle mae'r ecosystem yn wahanol iawn, nid oedd amrywiadau o ran cynefinoedd yn y morlyn yn dylanwadu'n sylweddol ar fynychder y feirws, gan ddangos y gall canlyniadau fod yn benodol i safle.

Meddai Dr Charlotte Eve Davies o Brifysgol Abertawe, prif ymchwilydd y prosiect:

“Beth sy'n dylanwadu ar ymlediad feirws? Ein cwestiwn oedd a yw cynefinoedd neu rywogaethau bwyd yn berthnasol, mewn cysylltiad â chimychiaid coch y Caribî.

“Dangosodd ein hastudiaethau fod y cynefin cyffredinol – cyffiniau ffisegol a rhywogaethau eraill – yn gallu dylanwadu'n sylweddol ar fynychder y feirws hwn, gan ddibynnu ar y lleoliad a'r ecosystem.

“Gall ein canfyddiadau helpu i ddiogelu'r adnodd bwyd hwn sy'n bwysig i gymunedau'r Caribî. Maent hefyd yn gwella ein dealltwriaeth o'r feirws hwn ac yn rhoi darlun gwell i ni o ecosystem ehangach yr amgylchedd bregus hwn.”

Eich Cefnogaeth. Ein Prifysgol.
Cefnogwch ymchwil ac addysg
ym Mhrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori