Prifysgol Abertawe a phartneriaid ar fin sbarduno arloesedd yng Nghymru

The £132 million Swansea Bay City Deal Campuses project has been approved by the UK Government and Welsh Government.

With £15m secured to develop sites in Morriston and Singleton, this project will promote innovation and business growth in the expanding Medical Technology and Sports Technology sectors.

The project is led by Swansea University, in partnership with Swansea Council, Swansea Bay University Health Board, Hywel Dda University Health Board, A Regional Collaboration for Health (ARCH) Partnership and key private sector partners. It’s planned to generate over 1,000 jobs in the Swansea area and will be worth over £150 million to the regional economy by 2033.

female scientist performing experiment in a lab

Gwyddor bywyd, iechyd a chwaraeon

Gyda ffocws ar y sector gwyddor bywyd, iechyd a llesiant, a chwaraeon, mae’n gydweithrediad perffaith rhwng busnesau, y byd academaidd a’r llywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd i ysgogi twf ac arloesedd. Wedi'i gyflwyno mewn dau gam, mae'r prosiect wedi'i leoli yn Singleton a Threforys yn Abertawe.

Bydd cam un, a fydd yn defnyddio cyllid y Fargen Ddinesig dros y 3 blynedd nesaf, yn darparu 2000m2 o ofod ymchwil ac arloesi pwrpasol ym Mharc Chwaraeon Lôn Sgeti ar Gampws Singleton Prifysgol Abertawe. Bydd hyn yn sefydlu amgylchedd sy'n cefnogi datblygu, profi a gwerthuso technolegau meddygol, iechyd, lles a chwaraeon, yn ogystal â phartneriaethau masnachol. Yn ogystal, bydd cam un hefyd yn cynnwys adnewyddu adeilad presennol yn Ysbyty Rhanbarthol Treforys. Bydd y safle hwn yn creu gofod Sefydliad Gwyddorau Bywyd 700m2 ar gyfer cydweithredu masnachol ac academaidd ochr yn ochr ag ymchwil a datblygu clinigol.

Unwaith y bydd y cam cyntaf wedi'i gwblhau, bydd yn datgloi potensial datblygu ehangu mawr ar y ddau safle dros y 12 mlynedd nesaf. Bydd hyn yn sefydlu'r ardal sydd ar flaen y gad o ran iechyd, chwaraeon a gwyddoniaeth ymhellach, gan ysgogi datblygiad economaidd ac ychwanegu gwerth i'r rhanbarth. Disgwylir i hyn gynnwys Parc Arloesedd 55 erw gyda lle ar gyfer busnesau bach a chanolig a chwmnïau mawr yn y sector Technoleg Chwaraeon a Thechnoleg Feddygol ffyniannus, a fydd yn cydweithio mewn ecosystem gwyddorau bywyd, llesiant ac arloesi chwaraeon.

Ar Gampws Singleton bydd yr ail gam yn caniatáu ar gyfer creu canolfan ragoriaeth o fewn chwaraeon gyda chyfleusterau o safon fyd-eang ar gyfer timau elitaidd, chwaraeon cymunedol, ynghyd â thechnoleg chwaraeon ac ymchwil.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe:

“Bydd prosiect y Campysau yn creu dros 1,000 o swyddi sy’n talu’n dda a fydd yn hybu’r economi tra hefyd yn helpu i ddenu buddsoddiad ychwanegol sylweddol.

“Bydd y prosiect, a arweinir gan Brifysgol Abertawe, yn adeiladu ar arbenigedd rhanbarthol mewn gwyddor bywyd, lles, ac arloesi clinigol a fydd yn helpu i atal afiechyd, tra’n datblygu triniaethau gwell a gwell ansawdd bywyd. Gan fanteisio hefyd ar synergeddau prosiect Pentre Awel, byddant yn creu llwyfan cryf i adeiladu ar iechyd a lles ar draws y ddinas-ranbarth.

“Mae cymeradwyo’r prosiect hwn yn golygu bod holl bortffolio’r Fargen Ddinesig bellach wedi’i gymeradwyo – cyflawniad yr ydym yn hynod falch ohono ac yn garreg filltir bwysig iawn i’r rhanbarth. Gallwn nawr newid ein ffocws i gyflawni er mwyn cyflymu adferiad economaidd ein rhanbarth o’r pandemig a chyflawni ein nod o greu De-orllewin gwell i’w holl drigolion a busnesau”.

Ychwanegodd yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:

“Mae Prifysgol Abertawe wrth ei bodd bod y fenter ranbarthol fawr hon, mewn cydweithrediad â Chyngor Abertawe, ein byrddau iechyd lleol a phartneriaid allweddol yn y sector preifat bellach wedi’i chymeradwyo.

“Gan harneisio’r ecosystem iechyd a gwyddor bywyd ffyniannus yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe, bydd y prosiect hwn yn sefydlu canolfan ryngwladol ar gyfer arloesi mewn gofal iechyd a meddygaeth ym Mharc Chwaraeon Lôn Sgeti ar ein campws hanesyddol yn Singleton, gan greu effaith gadarnhaol ar iechyd y boblogaeth a chefnogi’r datblygu diwydiant Technoleg Chwaraeon arloesol yma yng Nghymru. Bydd yn cefnogi ein prifysgol i wireddu ein huchelgeisiau rhanbarthol ar gyfer chwaraeon, gan ein galluogi i hyrwyddo llesiant ac iechyd ataliol, a chefnogi cyfranogiad y cyhoedd mewn chwaraeon ar hyd oes.

“Mae prosiect Campysau yn enghraifft o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy gydweithio traws-sector effeithiol, ac rydym yn falch o fod yn bartner gyda busnes a’r llywodraeth er budd ehangach ein rhanbarth.”

Dywedodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething:

“Mae gan Lywodraeth Cymru ffocws clir ar greu dyfodol economaidd cryfach, tecach a gwyrddach. Rydym am i Gymru fod yn wlad sydd ar flaen y gad o ran arloesi technolegau newydd a fydd o fudd i bobl yn eu bywydau o ddydd i ddydd. Bydd y buddsoddiad sylweddol rydym yn ei wneud fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe yn gwella rôl arweiniol Cymru ymhellach mewn technolegau meddygol uwch a gwyddoniaeth. Bydd yn cefnogi busnesau i fanteisio ar gysylltiadau â’r byd academaidd, gan ddod ag ymchwil o’r radd flaenaf allan o’r labordai a diwydiant ac i’r gymdeithas, er budd ein pobl a’n heconomi.”

Ychwanegodd Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, David TC Davies:

“Mae hyn yn newyddion gwych i Abertawe, ac mae Llywodraeth y DU yn falch iawn o fod yn ariannu’r prosiect uchelgeisiol hwn. Bydd hyn yn gwneud Prifysgol Abertawe, ynghyd â'u partneriaid, yn arweinwyr ym maes Technoleg Feddygol a Chwaraeon yr 21ain ganrif.

“Yn ogystal â hwb enfawr i swyddi a’r economi leol, bydd y dechnoleg a ddatblygir yn gwella iechyd a lles pobl Abertawe a thu hwnt.”