Astudiaeth o nanotechnoleg mewn lleoliad gofal iechyd a gwyddor bywyd yw Nanomeddygaeth, gan weithio gyda mater a pheiriannau a'r raddfa nano o 1-100 nanometr (Biliwnfed o fetr). Mae'n ymwneud â chymhwyso biotechnoleg a pheirianneg uwch i feddygaeth.
Bydd ein MSc mewn Nanomeddygaeth yn eich galluogi i ddeall hanfodion nanotechnoleg a'i chymhwysiad i ofal iechyd. Mae’r canllaw cyflym hwn wedi’i gynllunio i roi blas i chi o’r byd hwn a’r llwybrau cyffrous y bydd ein MSc yn eu rhoi i chi eu harchwilio, gan wella eich sgiliau labordy a’ch cyflogadwyedd hirdymor.
Ein Straeon myfyrwyr
Mae’r cynllun GIG yn amlygu’r llwybr i drawsnewid cyflenwi gwasanaethau a bodloni anghenion iechyd lleol yn well. Bydd astudio Nanofeddyginiaeth yn Abertawe yn rhoi’r sgiliau a’r hyder i chi ym maes arweinyddiaeth, rheoli, addysg ac ymchwil, tri o bedwar conglfaen o uwch ymarfer clinigol.
Bydd ein hymchwilwyr a'n hathrawon sy'n arwain y byd yn eich amlygu i ffarmacoleg, cynllunio cyffuriau, rheoli cleifion, bioddiogelwch yng nghyd-destun anatomeg a ffisioleg, clefydon dirywiol ac uwch beirianneg ar ffurf diagnosteg a delweddu.
Mae trosi llwyddiannus o nanoddeunyddiaeth i gymhwyso clinigol, llwybrau rheoleiddiol clir a dulliau arbrofi yn hanfodol o ran safon, diogelwch ac asesiadau effeithiolrwydd. Mae sbectrwm cyfan o randdeiliaid yn y diwydiant wedi arddel dulliau o’r fath, sy’n amlwg yn gydnaws a’n cwricwlwm MSc mewn Nanofeddygaeth. Felly, mae’r set sgiliau y mae’r cwrs yn ei ddysgu i chi yn ganolog i ragolygon cyflogadwyedd yn y sectorau biotech, cynllunio meddyginiaethau, dadansoddeg data a sefydliadau contract ymchwil a’r diwydiant fferyllol.
Y Dyfodol ym maes Nanofeddygaeth a Nanotechnolegau
Mae egwyddorion Nanofeddygaeth wedi’u hymwreiddio mewn ymarfer presennol a bydd at y dyfodol. Mae pob agwedd ar ddarpariaeth gofal iechyd yn ddibynnol ar dechnoleg, o ddiagnosteg a delweddu, a ddarparu gwybodaeth sy’n hanfodol i strategaethau rheoli cleifion, i’r technolegau fydd yn seilwaith i ddatblygiad a chyflenwi.
Bydd yr MSc yn darparu gwybodaeth ddofn ledled spectrwm Nanofeddygaeth, a’i swyddogaeth yn narpariaeth gofal iechyd at y dyfodol, ac yn rhoi’r sail i chi wella eich gyrfa at y dyfodol.
Gyrfaoedd Nanofeddygaeth
Mae nanotechnoleg a meddygaeth yn cael effaith gynyddol ar sawl agwedd ar ein bywydau bob dydd, gan ehangu cyfleoedd gyrfa mewn gwyddor bwyd, meddygol a pheirianneg. Mae ein cwricwlwm MSc Nanomeddygaeth sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant yn galluogi ein graddedigion i ennill y sgiliau labordy trosglwyddadwy, beirniadol a meddal mewn cyfathrebu gwyddoniaeth sy'n angenrheidiol i ddilyn gyrfa ymchwil wyddonol neu glinigol. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd llwyddiannus mewn diwydiant (biofferyllol a biotechnoleg), academia (PhDs) a galwedigaethau proffesiynol, fel y rhaglenni Meddygaeth Mynediad i Raddedigion ac Astudiaethau Cydymaith Meddygol.
Os ydych chi'n chwilio am ffordd i fynd â'ch gradd mewn biolegol, gwyddorau bywyd, peirianneg neu ffiseg i'r lefel nesaf i wella'ch sgiliau labordy a'ch rhagolygon gyrfa, gallai ein MSc mewn Nanomeddygaeth fod yr hyn rydych chi'n edrych amdano.