Sgip i brif cynnwys Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Menu Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Israddedig Peirianneg
  5. Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, BSc
  • Astudio
    • Mynediad mis Ionawr 2021
      Student Life

      100 o gyrsiau israddedig ar gael.

      Dysgwch mwy
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Rhieni a Gwarcheidwaid
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Clirio ym Abertawe
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Pythefnos y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ymchwil
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Canmlwyddiant 2020
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Iechyd a Ffitrwydd
      • Perfformiad ac Ysgoloriaethau
      • Chwaraeon i fyfyrwyr - Chwaraeon Myfyriwr
      • Rhaglenni a Digwyddiadau
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Llefydd i Fwyta ar Gampws
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Colegau Academaidd
      • Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau
      • Coleg Peirianneg
      • Gwyddorau Dynol ac Iechyd
      • Ysgol y Gyfraith
      • Yr Ysgol Reolaeth
      • Ysgol Feddygaeth
      • Y Coleg Gwyddoniaeth
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
      • Academi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe (SAILS)
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Israddedig Peirianneg
  5. Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, BSc

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, BSc (Hons)

Tudalennau cysylltiedig
  • Colegau Academaidd
  • Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Coleg Y Celfyddydau a'r Dyniaethau
    • Cyrsiau Israddedig Peirianneg
      • Peirianneg Awyrofod
      • Peirianneg Gemegol
      • Peirianneg Sifil
      • Peirianneg Drydanol Ac Electronig
      • Peirianneg Defnyddiau
      • Peirianneg Fecanyddol
      • Peirianneg Feddygol
      • Blwyddyn Sylfaen
      • Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, BSc
      • BEng Peirianneg
    • Cyrsiau Israddedig Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
    • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Y Coleg Gwyddoniaeth
    • Cyrsiau Is-raddedig yn dod yn fuan!
    • Gofynion mynediad
  • Cysylltu â'r tîm derbyn israddedig
  • Diwrnodau Agored Israddedig
  • Llety
  • Sut i wneud cais am gwrs israddedig
  • Chwaraeon
  • Bywyd Myfyriwr
  • Ffioedd a Chyllid
  • Gwnewch Gais am 2021
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Rhithdaith
  • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid
  • Prosbectws Israddedig
  • Pam Astudio yn Abertawe?
  • Beth yw UCAS Extra? Eich canllaw cynhwysfawr
  • Clirio
  • Newidiadau rhaglen israddedig
  • Athrawon ac Ymgynghorwyr
tef gold logo
Ymgeisio

O ble ydych chi'n gwneud cais?

Gwneud cais fel myfyriwr o'r DU neu'r UE?

Dylai pob myfyriwr y DU neu'r UE wneud cais drwy UCAS

Ewch i UCAS

Gwneud cais fel myfyriwr rhyngwladol?

Mae gennym System Gwneud Cais uniongyrchol rhwydd a chyflym i fyfyrwyr rhyngwladol.

Ewch i'r System Gwneud Cais

Gall myfyrwyr rhyngwladol hefyd wneud cais drwy UCAS

Diwrnod Agored
Cadwch Mewn Cysylltiad
Sport science students and equipment

Ymhlith yr 20 orau yn DU ar gyfer Boddhad Cwrs

The Guardian University Guide 2021

Manylion Allweddol y Cwrs

  • D.U.
  • U.E.
  • Rhyngwladol
3 Blynedd Llawn Amser
Côd UCAS
C600
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
AAB-BBB
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 9,000
4 Blynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn Dramor
Côd UCAS
C601
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
AAB-BBB
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 9,000
3 Blynedd Llawn Amser
Côd UCAS
C600
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
AAB-BBB
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 18,500
4 Blynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn Dramor
Côd UCAS
C601
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
AAB-BBB
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 18,500
3 Blynedd Llawn Amser
Côd UCAS
C600
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol
AAB-BBB - Gwybodaeth Rhagor
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 18,500
4 Blynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn Dramor
Côd UCAS
C601
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol
AAB-BBB - Gwybodaeth Rhagor
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 18,500
tef gold logo

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn archwilio'r ffordd y mae'r corff dynol yn perfformio o dan lefelau gwahanol o bwysau. Mae hefyd yn cwmpasu'r materion ehangach sydd dan sylw, o gyfranogiad ehangach mewn chwaraeon ac ymarfer corff, i foeseg, seicoleg chwaraeon a maetheg. 

Mae'r cwrs gradd hwn yn darparu craidd cadarn o ddysgu modern a pherthnasol, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa sy'n llawn boddhad ym maes Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, beth bynnag fo'ch dewis arbenigedd.

Pam Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Abertawe?

  • Adran Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff ymhlith yr 20 orau yn y Deyrnas Unedig (Times Good University Guide 2021)
  • Ymhlith yr 20 orau yn Deyrnas Unedig ar gyfer Boddhad Cwrs (The Guardian University Guide 2021)
  • O fewn chwe mis i raddio, mae 100% o raddedigion Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn gyflogedig neu'n ymgymryd ag astudiaethau pellach (16/17 DLHE).

Mae yna opsiwn i dreulio BLWYDDYN YN ASTUDIO DRAMOR (UCAS C601) mewn prifysgol bartner i gyfoethogi'ch gradd, gan roi profiad diwylliannol gwerthfawr a all ehangu'ch gorwelion wrth geisio cael gwaith.

Eich Profiad Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Byddwch yn gwneud defnydd helaeth o'n Labordy Biomecaneg pwrpasol, sy'n cynnwys system dadansoddi mudiant o'r radd flaenaf. 

Drwy gydol eich amser ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch hefyd yn gweithio'n agos yn y Labordy Ffisioleg Ymarfer Corff. Mae'r labordy hwn yn cynnwys amrywiaeth o ergomedrau ymarfer corff a chyfarpar ar gyfer asesu gweithrediad yr ysgyfaint, dadansoddi gwaed a phrofi gweithrediad y cyhyrau.

Wrth i chi fynd yn eich blaen drwy'r cwrs, bydd y diddordebau a'r galluoedd y byddwch yn eu datblygu yn cyfuno â phrofiad ymarferol o ddefnyddio cyfarpar soffistigedig, gan feithrin sgiliau sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth.

I ganfod mwy am y cwrs, gwnaethom gyfweld â Dr Jo Hudson, ein Hathro Cyswllt mewn Gwyddor Chwaraeon gyda rhai cwestiynau cyffredin.

Gweler cyrsiau cysylltiedig: BSc Mathemateg a Gwyddor Chwaraeon

Cyfleoedd Cyflogaeth Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Mae graddedigion Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Abertawe yn cael eu rhoi ar ben y ffordd i gael amrywiaeth o gyfleoedd ysgogol. Gallai eich dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol. 

  • Gwyddonydd Chwaraeon a Pherfformiad
  • Ymarferydd Cryfder a Chyflyru
  • Ffisiolegydd Cardiaidd
  • Dadansoddwr Perfformiad
  • Swyddog Hybu Iechyd
  • Gwyddonydd Iechyd y Cyhoedd

Mae gan yr Ysgol Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff gysylltiadau agos â sefydliadau gan gynnwys Diabetes UK, Ymddiriedolaeth GIG Abertawe, UK Sport, Chwaraeon Cymru ac Undeb Rygbi Cymru.

Ymwadiad Rhaglen

Prosbectws Israddedig

Darganfyddwch eich prifysgol

Ewch ar rithdaith

virtual tour

Cynnig wedi'i warantu ar gyfer 2020*

Astudio trwy’r Gymraeg

welsh medium

Manyleb Rhaglen

Gofynion Mynediad

Y gofynion mynediad ar gyfer cwrs BSc Chwaraeon ac Ymarfer Corff yw:

AAB - BBB ar lefel A Mae'r pynciau a argymhellir yn cynnwys:

  • Mathemateg
  • Bioleg
  • Ffiseg
  • Cemeg
  • Addysg Gorfforol
  • Seicoleg

Fodd bynnag, bydd proffiliau unigol yn cael eu hystyried yn unigol.

Mae cynigion amrywiol yn cael eu gwneud yn dibynnu ar y pynciau a astudir a chaiff pob cais ei ystyried yn unigol, gyda graddau TGAU, pynciau a graddau Lefel AS, profiad gwaith, geirda a datganiad personol yn cael eu hystyried. 

Mae cynigion amrywiol yn cael eu gwneud yn dibynnu ar y pynciau a astudir a chaiff pob cais ei ystyried yn unigol, gyda graddau TGAU, pynciau a graddau Lefel UG, profiad gwaith, cyfeiriadau a datganiad personol yn cael eu hystyried.

Fel arfer, byddwn yn gofyn am DDD mewn disgyblaeth wyddonol (sy'n cynnwys Gwyddor Ymarfer Corff a Gwyddor Chwaraeon, ond yn eithrio Astudiaethau Chwaraeon) gan fyfyrwyr sy'n astudio ar gyfer Diploma Cenedlaethol BTEC. Yn achos myfyrwyr sy'n astudio AVCE, byddwn yn derbyn dyfarniadau dwbl yn rhan o'r proffil cyfan. Bydd y penderfyniad a dybir bod y cymhwyster hwn yn bwnc gwyddonol ai peidio yn dibynnu ar gynnwys yr AVCE a astudir.

Dysgwch fwy am y gofynion mynediad ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol

Caiff myfyrwyr sydd â phrofiad a chymwysterau diwydiannol eu hystyried ar sail unigol.

Os ydych chi'n gwneud cais am fynediad i Lefel Dau (ail flwyddyn), er mwyn cael ei ystyried, bydd angen i chi fod eisoes wedi ymdrin â'r pynciau a gynigir yn Abertawe ar Lefel Un (blwyddyn gyntaf) mewn cymhwyster ardystiedig fel HND, gyda sgôr uchel (ee - graddau rhagoriaeth D, D, D ar lefel HND).

Sut byddwch chi'n cael eich dysgu

Mae bloc addysgu un (TB1) yn rhedeg o fis Medi tan fis Ionawr ac yn ystod y bloc hwn, am eleni, bydd y cwrs hwn yn cael ei ddysgu mewn ffordd ‘gymysg’. Mae hyn yn golygu y bydd rhywfaint o addysgu'n cael ei wneud ar-lein a bydd rhywfaint ar y campws. Gall yr addysgu ar-lein, lle byddwch chi ar wahân yn gorfforol i'ch darlithydd, fod yn 'fyw' gyda'ch darlithydd yn bresennol a lle byddwch chi'n gallu rhyngweithio. Gall peth ohono fod yn hunangyfeiriedig sy'n golygu y gallwch gyrchu'r deunyddiau dysgu ar y tro sy'n addas i chi.

 

YN FYW

HYNAN GYFEIRIEDIG

AR-LEIN

  • Darlithoedd wedi’u Ffrydio’n Fyw
  • Dosbarthiadau Enghreiffiau
  • Dosbarthiadau yn y Labordy Cyfrifiaduron
  • Cyfarfodydd Prosiect Unigol
  • Cyfarfodydd Grŵp Dylunio
  • Cyfarfodydd Mentora Unigol
  • Awr Swyddfa ar gyfer pob Modiwl
  • Rhaglen Dysgu dan Gyfarwyddyd
  • Darllen Paratoadol
  • Darlithoedd Cryno wedi’u Recordio
  • Enghreifftiau Gorffenedig wedi’u Recordio
  • Sesiynau Ymarferol wedi’u Recordio
  • Profion ac Enghreifftiau Ffurfiannol
  • Gwaith Prosiect Unigol

AR-CAMPWS

  • Dosbarthiadau Ymarferol
  • Darlithoedd Confensiynol
  • Dosbarthiadau Enghreifftiau
  • Dosbarthiadau yn y Labordy Cyfrifiaduron
  • Sesiwn Ymarferol/Gwaith Cyfrifiadurol Ymarferol
  • Seminarau pwnc
  • Astudio Annibynnol yn y Llyfrgell
  • Astudio Annibynnol mewn Labordai Cyfrifiaduron
  • Cyfarfodydd Grŵp Dylunio

Darpariaeth Gymraeg

Mae hawl gennych i ysgrifennu a chyflwyno eich gwaith cwrs ac i sefyll eich arholiadau yn y Gymraeg, hyd yn oed os ydych wedi dewis dilyn modiwlau cyfrwng Saesneg. Hefyd mae’n bosib i chi ddewis cael cyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg wrth ymgeisio am le.

Darperir rhai elfennau o’r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg ond nid oes digon o ddarpariaeth eto i gyrraedd 40 credyd ym mhob blwyddyn. Bydd parhau i astudio trwy’r Gymraeg wedi i chi adael yr ysgol neu’r coleg yn ddatblygiad naturiol i chi ac yn fodd o sicrhau eich cyfle i gael yr addysg orau. Bydd hefyd yn ychwanegiad gwerthfawr i’ch CV a’ch datblygiad gyrfaol. Mae cyfleoedd ar gael i fyfyrwyr sy’n rhugl ac yn hyderus yn yr iaith yn ogystal ag i’r rhai sy’n llai hyderus neu sy’n ddysgwyr. Mae’n bosibl hefyd ddewis dosbarthiadau seminar a thiwtorial cyfrwng Cymraeg ar gyfer modiwlau sy’n cael eu dysgu yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg.

Achrediad Corff Proffesiynol

Mae gradd BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Abertawe yn Gwrs Ardystiedig Israddedig BASES.

Mae Cymdeithas Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BASES) yn sefydliad aelodaeth proffesiynol Prydeinig sy'n ardystio cyrsiau israddedig gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff.  Lansiwyd cynllun ardystio'r gymdeithas yn 2005, a heddiw dyma'r safon gydnabyddedig ar gyfer holl raglenni gradd israddedig gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff.

Mae meini prawf asesu trwyadl BASES yn sicrhau mai cyrsiau o'r ansawdd uchaf yn unig sy'n derbyn ei dyfarniad ardystio. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cynllun Ardystio Israddedig (BUES) BASES.

Cwrdd â'ch Darlithwyr

Bydd y staff academaidd canlynol yn addysgu ar eich gradd Chwaraeon ac Ymarfer Corff:

  • Dr Richard Bracken
  • Dr Lowrie Edwards
  • Dr Andrew Harvey
  • Dr Denise Hill
  • Dr Jo Hudson
  • Professor Liam Kilduff
  • Dr Camilla Knight
  • Professor Michael Lewis
  • Dr Tom Love
  • Dr Kelly Mackintosh
  • Dr Laura Mason
  • Professor Michael McNamee
  • Dr Melitta McNarry
  • Dr Richard Metcalfe
  • Nick Owen
  • Professor Gareth Stratton

 

Ffioedd Dysgu

3 Blynedd Llawn Amser

Dyddiad Dechrau D.U. U.E. Rhyngwladol
Medi 2020 £ 9,000 £ 9,000 £ 17,950
Medi 2021 £ 9,000 £ 18,500 £ 18,500

4 Blynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn Dramor

Dyddiad Dechrau D.U. U.E. Rhyngwladol
Medi 2020 £ 9,000 £ 9,000 £ 17,950
Medi 2021 £ 9,000 £ 18,500 £ 18,500

Gellir codi ffioedd myfyrwyr Israddedig y DU llawn amser yn chwyddiannol mewn blynyddoedd astudio i ddod. Penderfynir ar y swm gan Lywodraeth Cymru.

Bydd ffioedd ar gyfer myfyrwyr UE/Rhyngwladol Israddedig yn cynyddu 3% ar gyfer pob blwyddyn ddilynol o astudio.

Yn ystod blwyddyn ryngol (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn dramor neu flwyddyn lleoliad), bydd ffi is yn gymwys. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalen ffioedd dysgu.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Ariannu ac Ysgoloriaethau

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.

I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi

Costau Ychwanegol

Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.

Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Teithio i'r campws ac oddi yno
  • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
  • Prynu llyfrau neu werslyfrau
  • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio

Nid yw'r ffioedd dysgu yn cwmpasu costau a dynnir yn bersonol gan y myfyriwr, megis prynu llyfrau neu gostau papur, argraffu neu gopïo.

Mae gwerslyfrau a argymhellir ar gyfer y cwrs hwn ar gael yn y llyfrgell. Mae'r holl feddalwedd sydd ei angen ar gyfer y cwrs ar gael ar y rhwydwaith Peirianneg, i'w ddefnyddio yn ein hystafelloedd PC ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae mynediad di-wifr i'r rhyngrwyd ar gael ar draws campws a neuaddau preswyl y Brifysgol.

Gall y myfyrwyr brynu crysau hoody a / neu dîm 'Chwaraeon ac Ymarfer Corff' - bydd y rhain yn ddefnyddiol i gymryd rhan mewn dosbarthiadau ymarferol labordy ac i'ch helpu i nodi'ch cyd-fyfyrwyr Gwyddoniaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff ar ddechrau'r rhaglen.

Gallwch eu prynu ar-lein yn Siop Kit Ar-lein Chwaraeon ac Ymarfer Corff, a fydd yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir. Gellir prynu eitemau dillad chwaraeon eraill eraill fel extras.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.

Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
  • Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
  • Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa
  • Cyngor ac arweiniad ar astudio a chyllid i fyfyrwyr ôl-raddedig.
  • Ariannu i gefnogi cyfleoedd interniaethau myfyrwyr a digwyddiadau Cymdeithasau/Clybiau Myfyrwyr

Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.

Yma yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, rydym yn falch iawn o ragolygon gyrfa rhagorol ein graddedigion. Rydym yn ymdrechu'n barhaus i wella cyflogadwyedd ein myfyrwyr, trwy feithrin perthynas gref â chyflogwyr graddedig a thrwy sicrhau bod ein myfyrwyr mor barod ag y gallant fod ar gyfer byd gwaith. Dysgwch fwy am ein gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn yr Ysgol Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

 

Cymorth Academaidd

Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch mentor academaidd personol, mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn meysydd fel:

  • Ysgrifennu academaidd
  • Mathemateg ac ystadegau
  • Meddwl critigol
  • Rheoli amser
  • Sgiliau digidol
  • Sgiliau cyflwyno
  • Cymryd nodiadau
  • Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
  • Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)

Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Cyfleoedd Astudio Tramor a Byd-eang

Nid yw cofrestru ar raglen sy'n cynnwys semester/blwyddyn dramor yn gwarantu lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor yn awtomatig. Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael ac yn amodol ar broses ddethol gystadleuol. Os na fyddwch chi'n llwyddo i ennill lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor, cewch chi eich trosglwyddo i gwrs safonol eich cynllun gradd heb semester neu flwyddyn dramor. I ddysgu mwy am astudio dramor, ewch i'n tudalennau gwe Go Global.

Mae rhaglenni rhyngwladol yr haf ar agor i fyfyrwyr o bob coleg. Fel arfer, mae rhaglenni'n para o 2 i 6 wythnos, ar draws cyrchfannau megis Tsieina, Sambia, De Corea, Siapan, Canada a ledled Ewrop. Am ragor o wybodaeth ynghylch rhaglenni a chymhwysedd, ewch i'n tudalennau gwe Haf Dramor.

Sut i wneud cais

Gwnewch gais nawr - myfyrwyr y DU, UE a rhyngwladol.

Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n tudalen ar sut i wneud cais

Cyfarfod â'n cyn-fyfyrwyr Will Sparkes

Pan oeddwn yn astudio yn Abertawe, roeddwn yn mwynhau’r sesiynau labordy niferus yn y rhan fwyaf o’r modiwlau. Mae hi wastad yn bwysig i allu gweithredu’r egwyddorion damcaniaethol yn ymarferol, ac rydw i’n meddwl fod hyn yn eich paratoi chi wrth i chi fynd ymlaen i draethawd hir neu leoliad cymhwyso ar ôl y Brifysgol.

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff gyda Blwyddyn Dramor

  • Colegau Academaidd
  • Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Coleg Y Celfyddydau a'r Dyniaethau
    • Cyrsiau Israddedig Peirianneg
      • Peirianneg Awyrofod
      • Peirianneg Gemegol
      • Peirianneg Sifil
      • Peirianneg Drydanol Ac Electronig
      • Peirianneg Defnyddiau
      • Peirianneg Fecanyddol
      • Peirianneg Feddygol
      • Blwyddyn Sylfaen
      • Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, BSc
      • BEng Peirianneg
    • Cyrsiau Israddedig Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
    • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Y Coleg Gwyddoniaeth
    • Cyrsiau Is-raddedig yn dod yn fuan!
    • Gofynion mynediad
  • Cysylltu â'r tîm derbyn israddedig
  • Diwrnodau Agored Israddedig
  • Llety
  • Sut i wneud cais am gwrs israddedig
  • Chwaraeon
  • Bywyd Myfyriwr
  • Ffioedd a Chyllid
  • Gwnewch Gais am 2021
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Rhithdaith
  • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid
  • Prosbectws Israddedig
  • Pam Astudio yn Abertawe?
  • Beth yw UCAS Extra? Eich canllaw cynhwysfawr
  • Clirio
  • Newidiadau rhaglen israddedig
  • Athrawon ac Ymgynghorwyr
Ymgeisio

O ble ydych chi'n gwneud cais?

Gwneud cais fel myfyriwr o'r DU neu'r UE?

Dylai pob myfyriwr y DU neu'r UE wneud cais drwy UCAS

Ewch i UCAS

Gwneud cais fel myfyriwr rhyngwladol?

Mae gennym System Gwneud Cais uniongyrchol rhwydd a chyflym i fyfyrwyr rhyngwladol.

Ewch i'r System Gwneud Cais

Gall myfyrwyr rhyngwladol hefyd wneud cais drwy UCAS

Diwrnod Agored Gofynnwch gwestiwn i ni
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Colegau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342