Bydd poblogaeth y byd yn fwy na 9 biliwn erbyn 2050, gan effeithio ar ansawdd bywyd, yn enwedig mewn gwledydd sy'n datblygu. Bydd dirywiad adnoddau, newid yn yr hinsawdd, trefoli a phwysau gofal iechyd i gyd yn heriau i gymdeithas yn y dyfodol.
Mae'r thema hon yn ceisio lliniaru materion o'r fath drwy wyddor deunyddiau a datblygiadau mewn technoleg, o electroneg newydd i gludiant effeithlon, drwy ddulliau meddygol newydd, i heriau amgylcheddol a thechnolegau ynni.
Mae'r priodweddau a'r perfformiad gorau posibl yn gofyn am nodweddu, syntheseiddio a phrosesu arloesol, ac fe fyddwn yn datblygu'r rheini wrth i'r thema hon esblygu.