Solar covering on an active building

Arloesi digidol a chlyfar ar gyfer gweithgynhyrchu cynaliadwy

Mae'r thema Dylunio a Gweithgynhyrchu Clyfar a Chynaliadwy yn pwysleisio egwyddorion dylunio deallus a phrosesau gweithgynhyrchu cynaliadwy i leihau effaith amgylcheddol a gwella effeithlonrwydd.

Mae ein hymchwil yn ceisio cyflymu mabwysiadu Technolegau Digidol Diwydiannol i ysgogi arloesedd gweithgynhyrchu mewn dylunio, gweithgynhyrchu a'r gadwyn gyflenwi. Ein nodau a rennir yw cynyddu cystadleurwydd, effeithlonrwydd a gwydnwch diwydiannau gweithgynhyrchu a'r gadwyn gyflenwi i alluogi cynhyrchu a defnyddio cyfrifol.

Drwy gyfuno profi arbrofol, technolegau synwyryddion a Data Mawr, rydym yn datblygu dulliau newydd i wella galluoedd rhagfynegol mewn dylunio, cynhyrchu a pherfformiad drwy fywyd i alluogi deunyddiau a chydrannau sy'n gywir y tro cyntaf a gweithgynhyrchu dolen gaeedig.

Mewn partneriaeth agos â rhanddeiliaid diwydiannol, rydym yn cymryd ymagwedd system gyfan at drawsnewid prosesau gweithgynhyrchu a lleihau eu heffaith amgylcheddol, gan leihau'r defnydd o adnoddau, wrth wella bywyd gwaith ac amodau gwaith.

Mae arbenigedd yn cynnwys dylunio ar sail efelychu, Roboteg ac Awtomeiddio, Dadansoddi Data a Deallusrwydd Artiffisial, y rhyngwyneb rhwng pobl a pheiriannau, a Modelu Cyfrifiadurol Amlraddfa.

Dr Eifion Jewell

Athro Cyswllt, Mechanical Engineering
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig