Researcher in a lab with petri dish

Ailystyried ac ailddiffinio ein deunyddiau ar gyfer economi gylchol sero net

O lefel systemau i'r nanoraddfa, mae'n rhaid i'n cymdeithas ailystyried ac ailddiffinio ein ffynonellau deunydd crai a'n cadwyni cyflenwi, ein gwaith rheoli gwastraff, a'n deunyddiau a'n gwaith dylunio cynnyrch.

Mae'r trawsnewid hwn yn gymhleth iawn, ac mae'n rhaid ystyried yr holl randdeiliaid gwahanol, gan gynnwys llunwyr polisi, buddsoddwyr, gweithgynhyrchwyr, addysgwyr, ymchwilwyr, peirianwyr a defnyddwyr.

Mae'r thema ymchwil hon yn mynd i'r afael â'r her hon drwy hwyluso trafodaethau â rhanddeiliaid perthnasol, a thrwy ddatblygu strategaethau sy'n newid y ffordd rydym yn defnyddio ac yn gwerthfawrogi deunyddiau mewn cymdeithas.

Mae'n integreiddio datblygu deunyddiau newydd ar gyfer dyfodol sero net, yn ogystal â chynnwys unrhyw strategaethau ar gyfer economi gylchol, gwastraff i ddeunyddiau, adfer ac ailddefnyddio deunyddiau trefol, defnyddio deunyddiau nad ydynt yn hanfodol, pasbortau deunydd digidol, a defnyddio deallusrwydd artiffisial/data mawr/cyfrifiadura i alluogi'r newid i ddeunyddiau mwy cynaliadwy.

Dr Francisco Martin-Martinez

Uwch-ddarlithydd, Chemistry
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig