Fel myfyriwr ôl-raddedig yn Abertawe, byddwch chi'n rhan o gymuned fywiog mewn prifysgol wedi'i llywio gan ymchwil sydd ymysg y 30 orau yn y Deyrnas Unedig (REF 2014). Bydd gennych gyfle i gydweithio ag academyddion ar brosiectau i ddod o hyd i atebion i'n heriau byd-eang ym meysydd Peirianneg, y Biowyddorau, Cemeg, Cyfrifiadureg, Daearyddiaeth, Mathemateg a Ffiseg.
Mae ein hymchwil yn archwilio ffyrdd o fyw yn iachach ac yn fwy cynaliadwy, gan sicrhau canlyniadau gwell i ddyfodol ein byd. O ddatblygu adeiladau wedi'u pweru gan ynni solar, i warchod ein hamgylcheddau morol; o wella ansawdd bywyd a chadw'n iach, i ddylanwadu ar bolisi drwy wrando ar lais pawb.