A person working on machinery

Mae Sefydliad Ymchwil Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Prifysgol Abertawe (M2RI) yn dwyn ynghyd grwpiau ymchwil o'r radd flaenaf, cyfleusterau cyfrifiadurol ac arbrofol blaengar, a chanolfannau ymchwil sefydledig a ariennir gan UKRI i feithrin cydweithrediadau ar lefelau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Ein gweledigaeth:

Arloesi'r broses o ddarganfod deunyddiau newydd a thechnolegau prosesu glanach, gan alluogi gwell cynhyrchion a phrosesau wrth ddeall eu heffeithiau cymdeithasol.

Ein Cenhadaeth:

  • meithrin cymuned gynhwysol, pontio ymchwil sylfaenol a chymhwysol ar draws disgyblaethau
  • galluogi ymchwil ac arloesi amlddisgyblaethol trawsnewidiol ac effeithiol mewn deunyddiau a gweithgynhyrchu i fynd i'r afael â heriau mawr gydag effaith fyd-eang
  • darparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu i'r holl aelodau, gan feithrin y bobl a'r timau medrus sy'n hanfodol ar gyfer gweithlu Ymchwil a Datblygu y dyfodol

Gyda'n gilydd, rydym yn gyrru ymchwil ac effaith o'r radd flaenaf mewn deunyddiau a gweithgynhyrchu, gan hyrwyddo gwybodaeth ac arloesedd i gefnogi dyfodol cynaliadwy.

Themâu Ymchwil

Mae'r themâu wedi cael eu dewis ar ôl ymgynghoriad cymunedol yn ein digwyddiad cymunedol cyntaf. Mae'r themâu yn cyd-fynd yn fras â blaenoriaethau ariannu EPSRC, ac wrth i RCUK esblygu eu blaenoriaethau, bydd ein prif themâu hefyd yn esblygu. Bydd hyrwyddwyr thema yn arwain gweithgareddau yn y thema ymchwil berthnasol a byddant yn rhan o fwrdd rheoli'r sefydliad.