Bahaa Abbas changing the active material

Mae cyflawni sero net yn gofyn am newidiadau trawsnewidiol i ddeunyddiau, prosesau gweithgynhyrchu, ac agweddau cymdeithasol tuag at ddefnydd a gwastraff cynnyrch. Yn Sefydliad Ymchwil Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Prifysgol Abertawe, rydym yn pontio rhwng ymchwil sylfaenol a chymhwysol i ysgogi gwaith darganfod ac arloesi yn y meysydd hanfodol hyn.

Ein nod yw cyfrannu at ddarganfyddiadau trawsnewidiol ac arloesiadau i greu newid sylweddol sy'n sicrhau buddion economaidd a chymdeithasol yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang. Drwy ein hymchwil a'n cydweithrediadau o'r radd flaenaf, rydym yn gwella gwybodaeth ac yn datblygu atebion i gefnogi dyfodol cynaliadwy.

Mae ymchwil yn y Sefydliad wedi'i grwpio yn y themâu canlynol:

Themâu