DIGWYDDIADAU DIWEDDAR

CYFARFOD CONSORTIWM M2RI

Yn ddiweddar, ariannodd y Sefydliad Ymchwil Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2RI) gyfarfod hollbwysig o gonsortiwm NEURONE, gan gynnwys partneriaid o UKAEA, Prifysgol Abertawe, Coleg Imperial Llundain, y Sefydliad Prosesu Deunyddiau, Sheffield Forgemasters a Phrifysgolion Birmingham, Rhydychen, Manceinion, a Sheffield.

 

Mae NEURONE yn fenter gwerth £10m, a ariennir gan raglen UK Fusion Futures, i ddatblygu dur uwch ar raddfa ddiwydiannol dros y 5 mlynedd nesaf i'w ddefnyddio yn y sector ymasiad masnachol. Mae'r consortiwm yn cynrychioli cryn ehangder ar draws y raddfa TRL gyfan, o fodelu atomaidd a thomograffeg chwiliedydd atom ar un ochr, drwy brototeipio aloi a phrofion arbelydru, hyd at gynhyrchwyr dur mawr ar yr ochr arall. Mae'r arbenigedd amrywiol yn y consortiwm yn sicrhau dull cynhwysfawr o fynd i'r afael â'r heriau sylweddol sy'n gysylltiedig â datblygu dur uwch ar raddfa ddiwydiannol ar gyfer cymwysiadau ymasiad.

M2RI Consortium meeting

Ym Mhrifysgol Abertawe, bydd yr Athro Nicholas Lavery a Dr Stephen Jones o MACH1, sy'n cynnal y digwyddiad, yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddylunio a phrototeipio aloion newydd, gan ddefnyddio cyfleusterau sydd wedi'u huwchraddio'n ddiweddar diolch i arian gan grant Arbenigedd Clyfar Llywodraeth Cymru. Bydd y Sefydliad Deunyddiau Strwythurol (ISM) yn cynnal profion mecanyddol uwch ac yn cyfrannu at gymhwyso terfynol hanfodol yr aloi.

Meddai Dr David Bowden, Arweinydd y Grŵp Deunyddiau yn UKAEA ac arweinydd rhaglen NEURONE: "Mae swm y cynnydd a wnaed hyd yma wedi bod yn drawiadol, ac roedd yn wych gweld brwdfrydedd yr holl bartneriaid wrth i ni fynd i'r afael â'r her aruthrol hon. Mae'r galluoedd a sefydlwyd ym Mhrifysgol Abertawe mewn sefyllfa dda i gefnogi'r rhaglen NEURONE i ddarparu'r genhedlaeth nesaf o ddur ar gyfer sector ymasiad y DU."

Yn ystod y digwyddiad deuddydd, daeth 35 o gynrychiolwyr o'r sefydliadau partner i gyflwyniadau technegol a oedd yn disgrifio'r gwaith sylweddol a wnaed eisoes a gwnaethant gymryd rhan mewn gweithdai i ddatblygu'r cynllun ar gyfer pedair blynedd nesaf y rhaglen. Un o ganlyniadau sylweddol y digwyddiad oedd yr ymrwymiad i strategaeth a rennir, a oedd yn gadael pob mynychwr gydag ymdeimlad clir o raddfa'r her sydd o'u blaenau a'r tasgau angenrheidiol i gyflawni amcanion y rhaglen. O ganlyniad i lwyddiant y rhaglen NEURONE bydd camau sylweddol yn natblygiad duroedd uwch, a fydd yn golygu y bydd gan y DU rôl allweddol yn y sector ymasiad masnachol, a bydd yn cyfrannu at y gwaith arloesi deunyddiau y mae ei angen ar gyfer dyfodol ynni glân.