Cyhoeddi Rhestr Hir 2017

Mae hoff lyfrau The New York Times ac enillydd Llyfr y Flwyddyn Waterstones yn 2016 ymysg 12 o lyfrau ar y rhestr hir i ennill Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, sy'n werth £30,000.

Caiff y wobr ei chyflwyno am y gwaith llenyddol gorau a gyhoeddwyd yn Saesneg, gan awdur 39 oed neu iau. Mae wedi'i henwi ar ôl Dylan Thomas, yr awdur a aned yn Abertawe, ac mae'n dathlu 39 mlynedd o greadigrwydd a chynhyrchiant. Mae Dylan Thomas yn enwog yn fyd-eang am fod yn un o awduron mwyaf dylanwadol canol yr ugeinfed ganrif, ac mae'r wobr yn ei goffáu er mwyn cefnogi awduron heddiw a meithrin doniau'r dyfodol.

Lansiwyd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas yn 2006, a hon yw'r wobr lenyddol fwyaf yn y byd ar gyfer awduron ifanc.

Mae rhestr hir eleni o 12 o lyfrau yn cynnwys: chwe nofel, pedwar casgliad o straeon byrion, a dwy gyfrol o farddoniaeth. Mae'r awdur Ghanaidd-Americanaidd, Yaa Gyasi, yn ymuno ag awduron o'r DU, America, Awstralia, Sri Lanca a Jamaica ar y rhestr hir wrth iddynt gystadlu am y wobr o £30,000.

IDTP Longlist 2017

• Anuk Arudpragasam - The Story of a Brief Marriage (Granta)

• Alys Conran - Pigeon (Parthian)

• Jonathan Safran Foer - Here I Am (Farrar, Straus & Giroux)

• Yaa Gyasi - Homegoing (Alfred A Knopf)

• Benjamin Hale - The Fat Artist and Other Stories(Picador)

• Luke Kennard - Cain (Penned in the Margins)

• Hannah Kohler - The Outside Lands (Picador)

 Fiona McFarlane - The High Places (Farrar, Straus & Giroux)

• Helen Oyeyemi - What is Not Yours is Not Yours (Picador)

• Sarah Perry - The Essex Serpent (Serpent's Tail)

• Safiya Sinclair - Cannibal (University of Nebraska Press)

• Callan Wink - Dog Run Moon: Stories (Granta)

Mae nofel gyntaf tri awdur ar y rhestr hir: Pigeon gan yr awdures o ogledd Cymru a'r darlithydd mewn ysgrifennu creadigol, Alys Conran; The Outside Lands gan Hannah Kohler, a The Story of a Brief Marriage gan Anuk Arudpragasam.

Max Porter oedd yr enillydd y llynedd am ei lyfr clodwiw cyntaf, Grief is the Things with Feathers –cyfuniad o nofel fer, chwedl bolyffonig a thraethawd ar ofid. Ers hynny, mae Porter wedi ennill gwobr Awdur Ifanc y Flwyddyn The Sunday Times am yr un llyfr.

Meddai'r Athro John Spurr, Pennaeth Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae'r rhestr hir y llynedd yn dangos ehangder ac addewid y gwaith sy'n cael ei gynhyrchu gan awduron rhyngwladol ifanc mor dalentog. Mae'n cynnwys rhyddiaith a barddoniaeth gan awduron newydd a sefydledig o bedwar ban byd. Mae'n rhestr hir i fod yn falch ohoni. Ar hyn o bryd, yr unig beth sy'n sicr yw y bydd gan y panel beirniaid restr fer eithriadol o gryf o chwe awdur talentog iawn".

Caiff y panel beirniaid eleni ei gadeirio gan yr Athro Dai Smith CBE, Athro Ymchwil Emeritws Raymond Williams yn Hanes Diwylliannol Cymru ym Mhrifysgol Abertawe, a hanesydd ac awdur ar gelf a diwylliant Cymru, ac mae hefyd yn cynnwys: y bardd a'r ysgolhaig, yr Athro Kurt Heinzelman; Alison Hindell, Pennaeth Drama Sain y BBC; y nofelydd a'r Athro Sarah Moss, a'r awdur Prajwal Parajuly.

Caiff y rhestr fer o chwe llyfr ei datgelu ddiwedd mis Mawrth.

Caiff enw'r enillydd ei gyhoeddi ddydd Mercher 10 Mai yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe, yn y cyfnod cyn Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas ar 14 Mai 2017.