I ddathlu 15 mlynedd o Wobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn ystod blwyddyn canmlwyddiant Prifysgol Abertawe, cyhoeddodd y Wobr restr hir 2020 yn fyw o Ŵyl Lenyddiaeth Jaipur.

Cynhaliwyd y digwyddiad, a gefnogir gan y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, ar ddydd Gwener 24 Ionawr ac roedd yn cynnwys trafodaeth panel wych gan gynnwys yr enillydd cyntaf erioed, Rachel Trezise a'r enillydd diweddaraf, Guy Gunaratne, ynghyd â Chyfarwyddwr yr Ŵyl ac aelod o'r panel beirniadu Namita Gokhale a Swyddog Gweithredol y Wobr, Elaine Canning.

Wrth ddychwelyd i'r panel beirniadu, meddai Cyfarwyddwr Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur, Namita Gokhale:   "Mae'n bleser gennyf ddychwelyd i banel beirniadu Gwobr llawn ysbrydoliaeth Dylan Thomas Prifysgol Abertawe, sy'n gwobrwyo awduron ifanc mor hael ar gam hollbwysig yn eu datblygiad creadigol."

Ac ar y rhestr hir a gyhoeddwyd yn yr ŵyl, dywedodd Sanjoy K Roy, Rheolwr gyfarwyddwr Teamwork Arts a Chynhyrchydd yr Ŵyl: "Rydym yn falch iawn o gyhoeddi rhestr hir Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe. Mae Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur yn creu llwyfan ar gyfer y gair ysgrifenedig ar draws yr holl genres.”

2019 Prize Winner - Guy Gunaratne

'Rewriting London'

Yn ogystal â chyhoeddi'r rhestr hir, bu Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe'n rhan o gyfres ddiddorol o drafodaethau panel yn ystod Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur.

Bu enillydd gwobr 2019, Guy Gunaratne a'r awdur Ben Judah yn siarad ag Elaine Canning ar y pwnc ‘Rewriting London’ a oedd yn canolbwyntio ar lyfr cyntaf, nodedig Guy ‘In Our Mad and Furious City’ a llyfr nodedig arall gan y gohebydd tramor Ben Judah ‘This is London’.

The Anatomy of a Literary Prize

Bu Swyddog Gweithredol y wobr, Elaine Canning, hefyd yn rhan o drafodaeth panel ar ‘The Anatomy of a Literary Prize’ yn Jaipur BookMark ynghyd â nifer o gyfarwyddwyr ac awduron gwobrau llenyddol fel Aanchal Malhotra, Mita Kapur a Sunny Singh, wedi'i gymedroli gan Arunava Sinha.

Meddai Elaine Canning: "Roedd hi'n anrhydedd i Wobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe fod yn rhan o ŵyl nodedig, fyd-eang sy'n dathlu llenyddiaeth, dialog a syniadau. Diolch yn fawr i Gyfarwyddwyr a Chynhyrchwyr yr Ŵyl, Teamwork Arts a gwirfoddolwyr a wnaeth ein croesawu a'n cefnogi ni."

Jaipure Literature Festival

Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn JLF 2020, gyda chefnogaeth y Cyngor Prydeinig yng Nghymru - Sylw yn y Wasg, India

Y Cyngor Prydeinig yng Nghymru

British Council Logo

Mae'r Cyngor Prydeinig yng Nghymru wedi bod yn cefnogi cydweithrediadau a chyfnewid artistig rhwng pobl greadigol a sefydliadau'r celfyddydau yng Nghymru ac yn India.

Dechreuodd y berthynas ddiwylliannol hirsefydlog rhwng Cymru ac India gyda thymor cydweithrediad artistig #IndiaCymru 2017/2018, a oedd yn nodi Blwyddyn Diwylliant y DU India, a ariannwyd gan y Cyngor Prydeinig a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Dysgwch fwy am weithgareddau'r Cyngor Prydeinig yng Nghymru gyda chronfa wreiddiol #IndiaCymru a llwyddiant Cymru yn Kolkata 2019.

Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur

Jaipur Literature Festival Logo

Disgrifiwyd fel y 'sioe lenyddiaeth orau ar y Ddaear’, mae Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur yn croesawu dros 400,000 o ymwelwyr. Daw'r ŵyl ag amrywiaeth o awduron, meddylwyr, dyngarwyr, gwleidyddion, arweinwyr busnes, sbortsmyn a diddanwyr gorau'r byd ynghyd ar un llwyfan i hyrwyddo rhyddid mynegiant a chynnal trafodaeth a dialog ystyriol. 

Jaipur BookMark

Ynghyd â Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur, mae Jaipur Bookmark yn dod â rhanddeiliaid y byd llyfrau ynghyd o bedwar ban byd - cyhoeddwyr, asiantau llenyddol, awduron, cyfieithwyr, asiantaethau cyfieithu a gwerthwyr llyfrau.