Mae Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas yn falch o gyhoeddi rhestr hir 2021.

Alligator and Other Stories by Dima Alzayat (Picador)

Alligator and Other Stories gan Dima Alzayat (Picador)
Yn y casgliad Alligator and Other Stories, mae Dima Alzayat yn taflu goleuni, mewn modd llachar, ar yr ymdeimlad o fod yn ‘rhywun amgen’: fel Syriad, fel Arabes, fel mewnfudwr ac fel menyw. Mae pob un o'r naw stori'n rhoi cipolwg ar yr achlysuron hynny pan geir amgylchiadau anghyffredin sy'n dangos, a hynny'n sydyn, y gwahaniaeth rhyngom a'n cymdogion, pan fydd ein gwahaniaeth yn amlwg iawn. Yma, gwelwn fenywod peryglus yn tramgwyddo, plant coll yn Efrog Newydd y 1970au, teulu o Syriaid gynt sydd wedi colli eu henw bellach, a menyw ifanc sydd ar fin darganfod gwacter y breuddwyd Americanaidd. Y canolbwynt yw ‘Alligator’: dyma gasgliad anhygoel o ffynonellau gwirioneddol a dychmygol, sy'n twrio yn y llyfrau hanes i ddadorchuddio stori pâr Syriaidd-Americanaidd a lofruddiwyd gan y wladwriaeth. Mae Alzayat yn archwilio profiadau sy'n syfrdanol ac yn wirioneddol, gan gael effaith emosiynol sy'n para'n hir wedyn.

Dima Alzayat

Dima Alzayat, Alligator and Other Stories (Picador)
Cafodd Dima Alzayat ei geni yn Namascus yn Syria a'i magu yn San Jose, Califfornia. Mae hi bellach yn byw ym Manceinion. Enillodd Wobr Ymddiriedolaeth ALCS Tom-Gallon yn 2019, Gwobr Llenorion Gogledd Lloegr yn 2018, Gwobr Straeon Byrion Bryste yn 2017 a Gwobr Bernice Slote yn 2015. Daeth yn ail yng Ngwobr Deborah Rogers ac yng Nghystadleuaeth Zoetrope: All-Story yn 2018, a chafodd gymeradwyaeth uchel yng Ngwobr Bridport yn 2013

Twitter @dimaalzayat

Antiemetic for Homesickness gan Romalyn Ante (Chatto & Windus)

Antiemetic for Homesickness gan Romalyn Ante (Chatto & Windus)
Mae'r cerddi yng nghyfrol gyntaf ddisglair Romalyn Ante yn adeiladu pont rhwng dau fyd: mamwlad a bywyd newydd yn y Deyrnas Unedig. Mae'r cerddi hyn wedi'u trwytho yng nghyfoeth llên gwerin Ffilipinaidd, ac wedi'u britho â Thagalog, ac maent yn trafod ing cymathu a chymhlethdodau perthyn, gan adrodd straeon ymfudwyr sy'n cael eu halltudio drwy gyflogaeth – drwy leisiau'r mamau sy'n gadael a'r plant sy'n aros. Gyda deheurwydd ffurfiol disglair ac ymdeimlad emosiynol, mae'r gyfrol gyntaf ysgubol hon yn cynnig safbwynt unigryw ar bynciau megis teulu, gwladychiaeth, mamwlad a threftadaeth: o'r gwledydd yn ein calonnau, i'r mannau sy'n gartref i ni.

Romalyn Ante (c) S Chadawong, dress by Filip + Inna

Romalyn Ante, Antiemetic for Homesickness (Chatto & Windus)
Cafodd Romalyn Ante ei geni ym 1989 yn Lipa Batangas yn Ynysoedd Pilipinas (Philippines). Roedd hi'n 16 oed pan ddaeth ei mam – nyrs yn y GIG – â'r teulu i'r DU. Enillodd ei phamffled cyntaf, Rice & Rain, Wobr Saboteur am y Pamffled Barddoniaeth Gorau yn 2018. Hi oedd enillydd Gwobr Clore Poetry London yn 2018 ac roedd yn un o gyd-enillwyr Gwobr Barddoniaeth Manceinion yn 2017. Hi oedd derbynnydd y Wobr Platinwm am Farddoniaeth yng Ngwobrau Llenyddol Creative Future yn 2017. Mae hi'n byw ar hyn o bryd yn Wolverhampton yng ngorllewin Canolbarth Lloegr, lle mae'n gweithio fel seicotherapydd a nyrs gofrestredig.

Twitter: @RomalynAnte
[credyd y llun i: S. Chadawong]

If I Had Your Face gan Frances Cha (Viking, Penguin Random House UK)

If I Had Your Face gan Frances Cha (Viking, Penguin Random House UK)
Mae If I Had Your Face yn ein taflu i fyd cyfoes lledrithiol Seoul – lle mae llawdriniaeth gosmetig eithafol mor gyffredin â thorri gwallt, lle mae menywod yn cystadlu am leoedd mewn salonau ystafell dirgel er mwyn diddanu dynion busnes cyfoethog gyda'r hwyr, lle mae sêr K-Pop yn obsesiwn hollgwmpasog, a lle mae pawb dan fawd hierarchaethau cymdeithasol didrugaredd. Yng nghanol y ddinas hynod gystadleuol hon y mae pedair menyw ifanc sy'n goroesi ar y dibyn: Kyuri, menyw eithriadol o hardd sy'n peryglu ei statws haeddiannol mewn salon ystafell dethol iawn o ganlyniad i gamgymeriad byrbwyll yn ymwneud â chleient; y ferch sy'n rhannu fflat â hi, sef Miho, plentyn amddifad sy'n ennill ysgoloriaeth i ysgol gelf uchel ei bri yn Efrog Newydd, lle mae hi'n cymysgu'n drychinebus â disgynyddion tra chyfoethog yr uchelwyr Coreaidd; Wonna, eu cymydog, sy'n disgwyl plentyn heb wybod sut bydd hi a'i gŵr yn gallu fforddio ei magu mewn economi gystadleuol tu hwnt; ac Ara, cynllunydd gwallt sy'n byw i lawr y coridor, sydd wedi gwirioni ar seren K-Pop newydd, gan ei hysgogi i eithafion treisgar.

Frances Cha (c) Story by Mia

Frances Cha, If I Had Your Face (Viking, Penguin Random House UK)
Mae Frances Cha yn gyn-olygydd digidol teithio a diwylliant ar gyfer CNN yn Seoul. Cafodd ei magu yn yr Unol Daleithiau, Hong Kong a De Corea. Graddiodd o Goleg Dartmouth a dilynodd raglen ysgrifennu MFA Prifysgol Columbia. Mae hi wedi ysgrifennu yn The AtlanticThe BelieverYonhap News a chyhoeddiadau eraill, ac mae hi wedi darlithio ym Mhrifysgol Columbia, Prifysgol Ewha, Prifysgol Genedlaethol Seoul a Phrifysgol Yonsei. Mae hi'n byw yn Brooklyn. If I Had Your Face yw ei nofel gyntaf.

Twitter: @Frances_H_Cha | Instagram: @franceschawrites
[credyd y llun i: Story by Mia]

Kingdomtide gan Rye Curtis (HarperCollins, 4th Estate)

Kingdomtide gan Rye Curtis (HarperCollins, 4th Estate)
Mae bywydau dwy fenyw – unig oroeswr cwymp awyren a'r ceidwad parc aflonydd sy'n arwain yr ymgyrch i ddod i'r adwy – yn torri ar draws ei gilydd mewn nofel gyntaf afaelgar llawn gobaith a gwydnwch, ailfeddwl ac ail gyfleoedd. “I no longer pass judgment on any man nor woman. People are people, and I do not believe there is much more to be said on the matter. Twenty years ago I might have been of a different mind about that, but I was a different Cloris Waldrip back then. I might have gone on being that same Cloris Waldrip, the one I had been for seventy-two years, had I not fallen out of the sky in that little airplane on Sunday, August 31, 1986. It does amaze that a woman can reach the tail end of her life and find that she hardly knows herself at all. When seventy-two-year-old Cloris Waldrip finds herself lost and alone in the unforgiving wilderness of the Montana mountains, with only a bible, a sturdy pair of boots, and a couple of candies to keep her alive, it seems her chances of ever getting home to Texas are slim.” Dim ond Debra Lewis, ceidwad parc sydd wedi troi at y ddiod gadarn yn sgil ysgariad blêr, sy'n credu y gall yr hen fenyw fod yn fyw. Wedi ei hysgogi gan ei chenhadaeth newydd sbon i ddod o hyd iddi, mae Lewis yn arwain criw achub brith i ddilyn ôl troed Cloris. Ond, wrth i'r diwrnodau droi'n wythnosau, mae sefyllfa Cloris yn mynd yn fwy simsan byth, ac mae help yn cyrraedd o'r ffynhonnell fwyaf annisgwyl, gan achosi iddi amau'r holl bethau sicr y mae hi wedi adeiladu ei bywyd arnynt. Kingdomtide, sy'n gynhyrfus ac yn goeglyd ac sydd wedi'i hysgrifennu'n hyfryd, yw stori ysbrydoledig dau gymeriad bythgofiadwy, y mae eu dewrder yn ein hatgoffa mai dim ond man cychwyn yw goroesi.

Rye Curtis

Rye Curtis, Kingdomtide (HarperCollins, 4th Estate)
Mae Rye Curtis yn 30 oed ac mae'n dod o Amarillo, Tecsas yn wreiddiol. Mae bellach yn byw yn Brooklyn.

Twitter: @ryecurtis0 | Instagram: @rye.curtis

Exciting Times gan Naoise Dolan (Weidenfeld & Nicolson)

Exciting Times gan Naoise Dolan (Weidenfeld & Nicolson)
Blwyddyn i ffwrdd yw'r disgrifiad a ddefnyddir pan fyddwch yn gadael Iwerddon yn 22 oed er mwyn gwario arian eich rhieni. Nid yw Ava yn gwybod sut i ddisgrifio gadael Iwerddon yn 22 oed er mwyn ennill ei harian ei hun, ond mae'n cynnwys y canlynol: swydd â thâl gwael yn Hong Kong yn addysgu gramadeg Saesneg i blant cyfoethog; Julian, sy'n hoffi gwario arian ar Ava ac sy'n gadael iddi symud i mewn i'w ystafell wely sbâr; Edith, y mae Ava yn cwrdd â hi yn absenoldeb Julian ac sy'n gwrando ar yr hyn y mae hi'n ei ddweud; arian, cariad, sinigiaeth, teimladau nas lleferir a chysylltiadau annhebygol. Mae amser cyffrous yn dilyn.

Naoise Dolan

Naoise Dolan, Exciting Times (Weidenfeld & Nicolson)
Mae Naoise Dolan yn llenor o Iwerddon a gafodd ei geni yn Nulyn. Astudiodd Lenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg Trinity Dulyn ac ym Mhrifysgol Rhydychen. Cafodd rhan o'i nofel gyntaf, Exciting Times, ei chyhoeddi yn The Stinging Fly. 

Twitter: @NaoiseDolan | Instagram: @naoisedolan

 

The Death of Vivek Oji by Akwaeke Emezi (Faber)

The Death of Vivek Oji gan Akwaeke Emezi (Faber)
Gwnaethant losgi'r farchnad ar y diwrnod pan fu farw Vivek Oji. Ryw brynhawn, mae mam yn agor ei drws blaen i weld hyd corff ei mab yn gorwedd ar y feranda, wedi'i lapio mewn clwtyn akwete, a'i ben ar ei mat sychu traed. Mae The Death of Vivek Oji yn mynd â ni i ddiwrnod geni Vivek, y diwrnod pan fu farw Ahunna, ei fam-gu. Dyma stori mam sy'n gwarchod ei phlentyn yn ormodol a thad sy'n ei gadw ar hyd braich, a hanes torcalonnus ymdrech aelodau un teulu i ddeall eu plentyn, ar yr un pryd ag y mae Vivek yn dechrau deall ei hun. Mae'r nofel hon yn llawn cymeriadau bythgofiadwy sydd wedi dod dan ddylanwad enaid addfwyn ac annirnad Vivek, ac mae'n rhannu â ni blentyndod Nigeraidd sy'n herio disgwyliadau. Bydd y ffordd y mae'r nofel yn dathlu diniweidrwydd ac optimistiaeth rhywun ifanc yn cyffwrdd â phawb sy'n ei darllen.

Akwaeke Emezi (c) Kathleen Bomani

Akwaeke Emezi, The Death of Vivek Oji (Faber)
Mae Akwaeke Emezi yn llenor ac yn artist fideo sy'n byw ar y trothwy. Ar ôl bod yn un o enillwyr anrhydedd 5 under 35 y National Book Foundation yn 2018, cyrhaeddodd nofel gyntaf Emezi, Freshwater, y rhestr hir yng nghystadleuaeth ffuglen Ymddiriedolaeth Women's Prize a Gwobr Llyfrau Wellcome. Cyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr PEN/Hemingway, Gwobr Nofel Gyntaf Orau The Center for Fiction, Gwobr Lenyddol Lambda a Gwobr Young Lions Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd, ymysg pethau eraill. Cyrhaeddodd nofel gyntaf Emezi i oedolion ifanc, Pet, rownd derfynol cystadleuaeth Llenyddiaeth Pobl Ifanc y Gwobrau Llyfrau Cenedlaethol. Gwerthodd nofel ddiweddaraf Emezi, The Death of Vivek Oji, ddigon o gopïau i gael ei rhestru gan The New York Times pan y'i cyhoeddwyd yn 2020. Mae gwaith Emezi wedi ymddangos yn T: The New York Times Style Magazine, BuzzFeed a The Cut, ymysg cyhoeddiadau eraill.

[credyd y llun i: Kathleen Bomani]

RENDANG gan Will Harris (Granta)

RENDANG gan Will Harris (Granta)
Yn RENDANG, mae Will Harris yn cymhlethu telyneg ac yn arbrofi â hi mewn ffordd sy'n ei gwthio ymlaen. Yn bybyr ond yn hael, mae RENDANG yn gasgliad sy'n ymdrin yn debyg â phoen ac addewid hunanganfyddiad. Gan dynnu ar ei wreiddiau Eingl-Indonesaidd, mae Harris yn dangos ffyrdd newydd o feddwl am faterion croes hunaniaeth a chof diwylliannol. Mae'n creu cymdeithion sy'n siarad â ni mewn sawl iaith; maent yn eistedd wrth ein hochr ar y bws, yn cyd-gerdded â ni drwy'r dorf ac yn siarad â ni wrth i ni dorri sialóts. Byddant yn gofyn yn ddeheuig i ni ystyried yr hyn rydym yn edrych arno a'r ffordd rydym yn gwneud hynny, yn ogystal â'r hyn nad ydynt yn edrych arno a'r rhesymau dros hynny. Gan chwarae'n wybodus â strwythurau naratif ac yn eu cwestiynu, drwy ddefnyddio'r gerdd hir, delweddau, ekphrasis, a ffurfiau rhwygedig, mae RENDANG yn ffordd drawiadol newydd o ystyried yr hunan, a sut caiff hunaniaeth ei chreu. Mae'n ddeallusol ac yn ddealladwy, yn emosiynol ac yn arbrofol, ac mae'n cyfuno ieithwedd arloesol â gwreiddiau emosiynol dwfn.

Will Harris (c) Etienne Gilfillan

Will Harris, RENDANG (Granta)
Mae Will Harris yn ysgrifennwr o dreftadaeth Tsieineaidd, Indonesaidd a Phrydeinig a anwyd yn Llundain ac a leolwyd yno. Mae ei lyfr barddoniaeth cyntaf RENDANG wedi’i gyhoeddi gan Granta yn y Deyrnas Unedig a gan Wesleyan University Press yn yr Unol Daleithiau. Cafodd ei ddewis gan Gymdeithas Llyfrau Barddoniaeth ac enillodd Gwobr Forward ar gyfer Casgliad Cyntaf Gorau 2020.

Twitter: @soshunetwork
[credyd iy llun i: Etienne Gilfillan]

The Wild Laughter gan Caoilinn Hughes (Oneworld)

The Wild Laughter gan Caoilinn Hughes (Oneworld)
Y flwyddyn yw 2008 ac mae'r Teigr Celtaidd wedi gadael adfeilion yn ei sgil. Mae dau frawd, Hart a Cormac Black, yn gweld Iwerddon wahanol iawn – un sy'n ehangu'r agendor rhyngddynt ac yn dod â'u tad annwyl i'w benliniau. Gan wynebu dewis dinistriol sy'n peryglu eu bywoliaeth, os nad eu bywydau, daw'r prif berygl pan nad oes dim byd i'w golli. Mae'r nofel epig fer hon yn rhoi cipolwg miniog ar deulu a chenedl sy'n mynd ar goll yn sydyn, gan archwilio llwfrdra ac aberth, ffydd wedi'i gwobrwyo a'i gollwng, y straeon rydym yn eu hadrodd wrthym ein hunain a'r rhai rydym yn eu gwrthod. Mae The Wild Laughter yn hynod ddoniol, yn ingol ac yn hollol wahanol, gan gadarnhau statws Caoilinn Hughes fel un o lenorion ifanc mwyaf beiddgar, craff a threiddgar Iwerddon.

Caoilinn Hughes (C) Donnla Hughes

Caoilinn Hughes, The Wild Laughter (Oneworld)
Mae Caoilinn Hughes yn llenor o Iwerddon. Enillodd ei nofel gyntaf, Orchid & the Wasp (Oneworld, 2018) Wobr Collyer Bristow yn 2019 a chyrhaeddodd y rhestr fer yng Ngwobrau Big Book Hearst a Gwobr Lenyddol Butler, a'r rhestr hir am Wobr Nofel Gyntaf Orau The Authors' Club a Gwobr Lenyddol Ryngwladol Dulyn. Enillodd ei chasgliad o gerddi Gathering Evidence (Carcanet 2014) Wobr Strong/Shine The Irish Times. Enillodd ei ffuglen fer Wobr Straeon Byrion The Moth yn 2018, Gwobr O. Henry yn 2019 a chystadleuaeth Stori Orau'r Flwyddyn yng Ngwobrau Llyfrau Iwerddon yn 2020. Cyrhaeddodd ei hail nofel, The Wild Laughter (2020), y rhestr fer yng nghategori Nofel Orau'r Flwyddyn yng Ngwobrau Llyfrau Iwerddon An Post, a Gwobr Gwrandawyr RTÉ Radio 1 yn 2020. Hi yw Cymrawd Ysgrifennu Coleg Trinity Dulyn yn 2021.

Twitter: @caoilinnhughes | Instagram: caoilinn_hughes
[credyd y llun i: Donnla Hughes]

Who They Was gan Gabriel Krauze (HarperCollins, 4th Estate)

Who They Was gan Gabriel Krauze (HarperCollins, 4th Estate)
“This life is like being in an ocean. Some people keep swimming towards the bottom. Some people touch the bottom with one foot, or even both, and then push themselves off it to get back up to the top, where you can breathe. Others get to the bottom and decide they want to stay there. I don’t want to get to the bottom because I’m already drowning.” Yn y stori hon, byddwch yn gweld Llundain sy'n wahanol iawn i'r hyn a geir yn y tywyslyfrau. Yn y stori hon, byddwch yn darllen am yr ymdeimlad o fodoli yn y man a'r lle, am ddau fechgyn sy'n rhy eiddgar i fod yn ddynion, sy'n tyfu i fyny ym mharthau treisgar cudd dinasoedd mawr – a'r merched sy'n ceisio torri eu cwys eu hunain. Yn y stori hon, byddwch yn gweld pobl sy'n ennill statws ac yn ei golli, trais a dial – pobl nad ydynt byth yn ystyried y canlyniadau. Yn y stori hon, ceir tyrau concrid a ffenestri gwag, nosweithiau diddiwedd mewn gorsafoedd heddlu a chelloedd, brawdgarwch a brad. Yn y stori hon, ceir y diflastod, y wefr, yr anobaith, yr ofn a'r gobaith. Yn y stori hon, byddwch yn gweld yr hyn sy'n weddill.

Gabriel Krauze (c) Steve Turvey

Gabriel Krauze, Who They Was (HarperCollins, 4th Estate)
Cafodd Gabriel Krauze ei fagu yn Llundain mewn teulu Pwylaidd ac yn gynnar yn ei oes cafodd ei ddenu i fyd troseddu a throseddwyr. Ac yntau yn ei dridegau erbyn hyn, mae wedi ffarwelio â'r byd hwnnw ac mae'n ailafael yn ei fywyd drwy ysgrifennu. Mae ef wedi cyhoeddi straeon byrion yn Vice. Who They Was yw ei nofel gyntaf.

Twitter: @Gabriel_Krauze | Instagram: @gabriel.krauze
[credyd y llun i Steve Turvey]

Pew gan Catherine Lacey (Granta)

Pew gan Catherine Lacey (Granta)
Ar ôl ffoi rhag gorffennol sydd bellach yn angof, mae Pew yn deffro ar fainc eglwys, yn wynebu dieithriaid chwilfrydig ym mhob man. Mae enw Pew yn angof. Nid yw Pew yn gwybod a yw'n fachgen neu'n ferch, yn blentyn neu'n oedolyn ifanc. A yw Pew yn amddifad, neu'n rhywbeth gwaeth? A pha helynt sydd wedi achosi i Pew ffoi? Ni fydd Pew yn siarad, ond mae dynion a menywod y dref fach grefyddol yn gofyn llawer o gwestiynau. Wrth i'r diwrnodau fynd rhagddynt, bydd eu clebran taer yn cynyddu o fod yn furmur i fod yn floedd, wrth i ddistawrwydd Pew andwyo'r euog a'r dieuog fel ei gilydd.

Catherine Lacey (c) Willy Somma

Catherine Lacey, Pew (Granta)
Catherine Lacey yw awdur y nofelau The Answers a Nobody Is Ever Missing, a'r casgliad o straeon Certain American States. Yn ogystal ag ennill Gwobr Whiting, cyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr Ffuglen Young Lions Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd a chafodd ei henwi'n un o nofelwyr ifanc gorau America gan Granta. Mae ei llyfrau wedi cael eu cyfieithu i Ffrangeg, Eidaleg, Sbaeneg, Iseldireg ac Almaeneg. Cafodd ei geni yn nhalaith Mississippi ac mae hi'n byw yn Chicago.

Twitter: @_catherinelacey
[credyd y llun i: Willy Somma]

Luster gan Raven Leilani (Farrar, Straus and Giroux/Picador)

Luster gan Raven Leilani (Farrar, Straus and Giroux/Picador)
Dim ond ceisio goroesi y mae Edie. Mae hi'n gwneud llanastr yn ei swydd weinyddol heb ddyfodol yn ei swyddfa wen i gyd, mae hi'n cysgu gyda'r dynion anghywir i gyd, ac mae hi wedi methu gwneud yr unig beth a oedd yn golygu unrhyw beth iddi, sef paentio. Nid oes ots gan neb am y ffaith nad oes syniad ganddi beth mae hi'n ei wneud yn ei bywyd y tu hwnt i'w hantur rywiol nesaf.  Yna mae hi'n cwrdd ag Eric, archifydd gwyn, canol oed â theulu maestrefol, gan gynnwys gwraig sydd wedi cytuno, ar ryw ffurf, i gael priodas agored a merch ddu fabwysiedig nad yw'n gallu dibynnu ar neb yn ei bywyd i ddangos iddi sut i dacluso ei gwallt.  Ar ben ymdopi ag amgylchiadau newidiol gwleidyddiaeth rhyw a hil fel menyw ddu ifanc, sy'n ddigon anodd, mae Edie yn ymuno, a hynny'n fyrbwyll, â theulu Eric yn ei gartref pan nad oes ganddi un man arall i fynd iddo. Yn ogystal â bod yn finiog iawn, yn bryfoclyd o afaelgar ac yn annisgwyl o deimladwy, mae Luster yn nofel gyntaf hynod ddoniol gan Raven Leilani sy'n ymdrin ag ystyr bod yn ifanc yn y byd sydd ohoni.

Raven Leilani (c) Nina Subin

Raven Leilani, Luster (Farrar, Straus and Giroux/Picador)
Mae gwaith Raven Leilani wedi cael ei gyhoeddi yn Granta, The Yale Review, McSweeney’s Quarterly Concern, Conjunctions, The Cut, a New England Review, ymysg cyhoeddiadau eraill. Enillodd MFA o Brifysgol Efrog Newydd a bu'n llenor preswyl Ymddiriedolaeth Axinn. Luster yw ei nofel gyntaf.

Twitter @RavenLeilani 
[credyd y llun i: Nina Subin]

My Dark Vanessa gan Kate Elizabeth Russell (HarperCollins, 4th Estate)

My Dark Vanessa gan Kate Elizabeth Russell (HarperCollins, 4th Estate)
Roedd Vanessa Wye yn 15 oed pan gafodd hi ryw â'i hathro Saesneg am y tro cyntaf. Mae hi bellach yn 32 oed ac, yng nghanol y llu o honiadau yn erbyn dynion pwerus yn 2017, mae cyn-fyfyrwraig arall wedi cyhuddo ei hathro, Jacob Strane, o'i cham-drin yn rhywiol. Mae'r newyddion hyn yn rhoi braw i Vanessa gan ei bod yn hollol sicr nad oedd Strane wedi ei cham-drin. Cariad oedd eu perthynas.  Mae hi'n siŵr am hynny. Mae Vanessa yn gorfod ailfeddwl ei gorffennol, ailystyried popeth a ddigwyddodd ac ailddiffinio stori cariad mawr ei bywyd – ei deffroad rhywiol mawr – fel trais. Nawr, mae'n rhaid iddi ymdopi â'r posibilrwydd ei bod hi'n un o lawer o ddioddefwyr. Mae My Dark Vanessa yn graff, yn anghyfforddus, yn ddewr ac yn bwerus, gan dreiddio i ddyfnderoedd rhai o faterion mwyaf cymhleth ein hoes.

Kate Elizabeth Russell

Kate Elizabeth Russell, My Dark Vanessa (HarperCollins, 4th Estate)
Mae Kate Elizabeth Russell yn dod o ddwyrain Maine yn wreiddiol. Mae hi wedi ennill PhD mewn ysgrifennu creadigol o Brifysgol Kansas ac MFA o Brifysgol Indiana. My Dark Vanessa yw ei nofel gyntaf.

Instagram: @kateelizabethrussell