Mae Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas yn falch o gyhoeddi rhestr hir 2022.

A Passage North gan Anuk Arudpragasam

A Passage North gan Anuk Arudpragasam (Granta)
Mae A Passage North  yn dechrau gyda neges annisgwyl: galwad ffôn yn dweud wrth Krishan bod gofalwr ei fam-gu, Rani, wedi marw mewn amgylchiadau annisgwyl - daethpwyd o hyd iddi ar waelod ffynnon yn ei phentref yn y gogledd; torrwyd ei gwddf wrth iddi gwympo. Mae'r newyddion yn cyrraedd yn dilyn e-bost gan Anjum, actifydd angerddol ond oer ei natur y cwympodd Krishan mewn cariad â hi flynyddoedd yn ôl pan oedd yn byw yn Delhi, sy’n ddeffro atgofion a theimladau o fyd mae wedi ei adael ar ei ôl.

Wrth i Krishan wneud y daith hir ar y trên rhwng Colombo a'r rhanbarth gogleddol a ddifethwyd gan ryfel am angladd Rani, mae taith ryfeddol i berfeddion gwlad yn dechrau. Ar yr un pryd yn fyfyrdod pwerus ar absenoldeb a hiraeth, ac yn gofnod cignoeth o effeithiau rhyfel cartref 30 mlynedd Sri Lanka, mae'r orymdaith hon i goelcerth "at the end of the earth" yn dinoethi olion gorffennol ynys, y pellteroedd anghyraeddadwy rhwng pwy ydym ni a'r hyn rydym yn chwilio amdano.

Wedi'i hysgrifennu â manwl gywirdeb a gras, mae nofel feistrolgar Anuk Arudpragasam yn ymgais i ddod i delerau â bywyd yn sgîl distryw, ac yn gofeb ingol i'r rhai a gollwyd a'r rhai sy'n fyw o hyd.

Anuk Arudpragasm llun credyd Ruvin De Silva

Anuk Arudpragasam, A Passage North (Granta)
Ganwyd Anuk Arudpragasam yn Colombo ac mae'n byw ar hyn o bryd rhwng Sri Lanka ac India. Enillodd ei nofel gyntaf, The Story of a Brief Marriage, Wobr DSC ar gyfer Llenyddiaeth o Dde Asia, a chafodd ei chynnwys ar restr fer Gwobr Dylan Thomas a'r Internationaler Literaturpreis. Cafodd ei ail nofel, A Passage North, ei chynnwys ar restr fer y Wobr Booker yn 2021. Derbyniodd Ddoethuriaeth mewn Athroniaeth gan Brifysgol Columbia yn 2019.

[Credyd llun: Ruvin De Silva]

What Noise Against the Cane gan Desiree C. Bailey

What Noise Against The Cane gan Desiree C. Bailey (Yale University Press)
Mae What Noise Against the Cane yn chwiliad telynegol am berthyn a rhyddid, sy'n gwau ynghyd wrthsafiad gwleidyddol, llên gwerin Caribïaidd, mewnfudo a realaeth bywyd pobl dduon yn America. Mae Desiree C. Bailey yn dechrau drwy ailddehongli'r epig mewn naratif cefnforol o gaethiwed a rhyddhad yng nghanol Chwyldro Haiti. Mae'r cerddi’n ymdrin â gwasgariad pobl dduon heddiw, gan archwilio mytholegau cartref, cred, cenedl a benywdod. Noda beirniad y gyfres, Carl Phillips, fod "cerddi Bailey yn dadlau dros obaith a ffydd i'r un graddau... Dyma gerddi pwerus iawn, ac maent yn llunio dadl ddarbwyllol dros bwerau trawsnewidiol gwrthsafiad cyson."

Desiree C. Bailey llun credyd Wilton Schereka

Desiree C. Bailey, What Noise Against the Cane (Yale University Press)
Desiree C. Bailey yw awdur y llyfryn ffuglen, In Dirt or Saltwater, ac mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn Best American Poetry, Academy of American Poets, Calalloo, ac mewn cyfnodolion a chasgliadau eraill. Cafodd ei geni yn Trinidad a Thobago a'i magu yn Queens, Efrog Newydd. 

Twitter: @DesireeCBailey
[Credyd llun : Wilton Shereka]

Keeping the House gan Tice Cin

Keeping the House gan Tice Cin (And Other Stories Publishing)
Cabaetsh. . . Mae'r math Twrcaidd gyda'u blagur dail mawr yn werthfawr iawn, dyna le rydyn ni'n rhoi'r heroin. . .

Mae celc o herion yn aros i gael ei fewnforio a does neb yn ymddangos yn siŵr beth i'w wneud ag ef. . . Ond garddwr yw Ayla, ac mae ganddi gynllun.

Gan gynnig cipolwg ffres a doniol ar beirianwaith y fasnach heroin yng ngogledd Llundain, mae Keeping the House yn tynnu'r llen ar fyd cudd sy’n ffynnu ychydig o dan arwyneb pethau: nid yn unig yn y ciwiau yn McDonald's ac mewn clybiau nos i ddynion, ond mewn ystafelloedd byw dilychwyn a cheginau llawn sibrydion. Gan rychwantu tair cenhedlaeth, dyma stori'r menywod sy'n cadw eu teuluoedd - a busnes eu teuluoedd - i fynd, gan jyglo popeth o oruchwyliaeth gan yr heddlu i gwestiynau mwy anodd o gymuned, perthyn a chariad.

Tice Cin llun credyd Dillon Kalyabe

Tice Cin, Keeping the House (And Other Stories Publishing)
Artist rhyngddisgyblaethol yw Tice Cin ac mae'n hanu o ogledd Llundain. A hithau'n un o enillwyr Gwobr Ysgrifenwyr Llundain, mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi mewn amrywiaeth o gylchgronau, gan gynnwys Extra Teeth a Skin Deep, ac mae wedi cael ei chomisiynu gan sefydliadau megis Canolfan y Celfyddydau Battersea ac Eglwys Gadeiriol San Paul. Ar ôl cymryd rhan yn rhaglen Beirdd Ifanc y Barbican, mae hi bellach yn creu celf ddigidol fel aelod o Design Yourself - grŵp cydweithredol yng Nghanolfan y Barbican - gan archwilio beth yw ystyr bod yn ddynol mewn cyfnod o newid technolegol mawr. Yn gynhyrchydd ac yn DJ, mae hi wedi rhyddhau EP, Keeping the House, i gyd-fynd â'i nofel gyntaf.

Twitter: @ticecin | Instagram: @tice.cin
[Credyd llun: Dillon Kalyabe]

Auguries of a Minor God gan Nidhi Zak/Aria Eipe

Auguries of a Minor God gan Nidhi Zak/Aria Eipe (Faber)
Mae casgliad cyntaf o farddoniaeth gyfareddol Nidhi Zak/Aria Eipe yn archwilio cariad a'r clwyfi mae'n eu gwneud. Mae ei hanner cyntaf wedi'i rannu'n bum adran sy'n cyfateb i bum saeth Kama, Duw Cariad, Chwant a Chof Hindŵaeth. O 'syfrdanu' a 'pharlysu' i 'ladd' a 'dinistrio' mae gan bob saeth ei heffaith ar ryw gorff, corff cyfoes go iawn - a'i thaith cariad benodol.

Mae'r ail hanner yn cynnwys cerdd hir sy'n adrodd stori, 'A is for [Arabs]', sy'n dilyn math gwahanol o daith: teulu o ffoaduriaid sydd wedi ffoi i'r Gorllewin o wrthdaro mewn gwlad nad yw'n cael ei henwi yn y Dwyrain Canol. Gyda'i strwythur eithriadol sy'n cyfuno dilyniannau yn nhrefn yr wyddor a dilyniannau Fibonacci, mae'n stori fedrus ac agos atoch o fudo ac alltud, o gartref a pherthyn.

Nidhi Zak/Aria Eipe llun credyd Angela Isaac Panat

Nidhi Zak/Aria Eipe, Auguries of a Minor God (Faber)
Mae Nidhi Zak/Aria Eipe yn fardd, yn heddychwr ac yn chwedleuwr. Cafodd ei geni yn India a'i magu ledled y Dwyrain Canol, Ewrop a gogledd America, cyn ymgartrefu yn Iwerddon. Yn sefydlydd y Cymrodoriaethau Play It Forward, mae hi'n olygydd barddoniaeth yn Skein Press a Fallow Media, yn olygydd cyfrannol The Stinging Fly ac yn aelod o fwrdd ymgynghorol Ledbury Poetry Critics, Iwerddon. Dyfarnwyd Gwobr Artist y Genhedlaeth Nesaf mewn Llenyddiaeth iddi gan Gyngor Celfyddydau Iwerddon a hi oedd enillydd cyntaf Gwobr i Fyfyriwr Cadair Barddoniaeth Iwerddon.

Twitter: @AriaEipe 
[Credyd Llun: Angela Isaac Panat]

The Sweetness of Water gan Nathan Harris

The Sweetness of Water gan Nathan Harris (Tinder Press / Headline)
Dau frawd a aned i gaethwasiaeth yw Landry a Prentiss a chânt eu rhyddhau o'r diwedd wrth i Ryfel Cartref America ddirwyn i'w ben chwerw. Wedi'u taflu allan i'r byd heb ddime goch, eu hunig obaith yw dod o hyd i waith mewn cymdeithas sy'n edrych arnynt o hyd â dirmyg yn unig.

Mae'r ffermwr George Walker a'i wraig Isabelle mewn sioc yn dilyn colled sydd wedi'u hysgwyd hyd at fêr eu hesgyrn. Ar ôl cyfarfod ar hap, maent yn cytuno i gyflogi'r brodyr ar eu tir ac, yn araf, mae ymddiriedaeth yn dechrau blodeuo rhwng y dieithriaid.

Ond byw ar fin y gyllell y mae'r noddfa hon, a chyn hir mae trasiedi'n achosi i drigolion y dref gyfagos droi eu drwgdybiaeth i gyfeiriad y cyfeillgarwch newydd hwn, â chanlyniadau dinistriol.

Nathan Harris llun credyd Laurel Sager

Nathan Harris, The Sweetness of Water (Tinder Press / Headline) 
Mae Nathan Harris yn gymrawd Michener ym Mhrifysgol Tecsas. Enillodd y Wobr Kidd a ddyfarnwyd gan Anthony Doerr ac roedd ar restr fer Gwobr Ffuglen Tennessee Williams. The Sweetness of Water yw ei nofel gyntaf. Mae'n byw yn Austin, Tecsas.

[Credyd llun: Laurel Sager]

 

No One Is Talking About This gan Patricia Lockwood

No One Is Talking About This gan Patricia Lockwood (Bloomsbury Circus, Bloomsbury Publishing)
Dyma stori am fywyd sy'n cael ei fyw mewn dau hanner.

Mae'n sôn am yr hyn sy'n digwydd pan fydd bywyd go iawn yn gwrthdaro â gwiriondeb cynyddol byd a brofir drwy sgrîn.

Mae am fyw mewn byd sy'n cynnwys digonedd o brawf bod daioni, empathi a chyfiawnder i'w cael yn y bydysawd, ac wmbredd o dystiolaeth i'r gwrthwyneb.

 Myfyrdod ydyw am gariad, iaith a chysylltiad dynol gan un o leisiau mwyaf gwreiddiol ein hoes.

Patricia Lockwood

Patricia Lockwood, No One Is Talking About This (Bloomsbury Circus / Bloomsbury Publishing)
Mae Patricia Lockwood yn awdur pedwar llyfr, gan gynnwys y nofel a gyhoeddwyd yn 2021, No One is Talking About This, llyfr sydd wedi bod yn boblogaidd iawn ledled y byd ac a gafodd ei gynnwys ar restr fer y Wobr Booker a Gwobr y Menywod am Ffuglen, a'i gyfieithu i 20 iaith. Enillodd ei hunangofiant, Priestdaddy, a gyhoeddwyd yn 2017, Wobr Thurber am ysgrifennu doniol a chafodd ei gynnwys ar restr The Guardian o 100 llyfr gorau'r 21ain ganrif. Mae hi wedi ysgrifennu dau gasgliad o farddoniaeth hefyd, Motherland Fatherland Homelandsexuals (2014) a Balloon Pop Outlaw Black (2012). Mae gwaith Lockwood wedi cael ei gyhoeddi yn The New York Times, The New Yorker a London Review of Books, lle mae hi'n olygydd cyfrannol. Mae hi'n byw yn Savannah, Georgia.

Twitter: @TriciaLockwood

Milk Blood Heat gan Dantiel W. Moniz

Milk Blood Heat gan Dantiel W. Moniz (Atlantic Books)
Mae merch 13 oed yn gwylio wrth i'w ffrind gorau sy'n wyn gerdded yn simsan ar hyd ymyl to adeilad; mae menyw a gollodd ei phlentyn yn ystod tri mis cyntaf ei beichiogwrydd yn dod o hyd i empathi ac arswyd yn nyfroedd acwariwm mewn dinas; mae mam yn diogelu ei merch yn ei harddegau rhag darpar garwr ysglyfaethus drwy ddial dros swper Ffrengig go iawn; ac mae brawd a chwaer sydd wedi'u dieithrio yn mynd ar daith gyda llwch eu tad marw - gan ailddarganfod ei gilydd a delio â'r holl ffyrdd y gall ymddiriedaeth gael ei bradychu a chariad ei achub.

Wedi'i leoli ym maestrefi a dinasoedd y byd modern, ond gan ymdrin â hanfodion hynafol pwy ydym ni a beth ydym ni, mae Milk Blood Heat yn gasgliad am gariad a rhyw, genedigaeth a marwolaeth. Drwy straeon cymeriadau cyffredin sy'n gorfod wynebu eu gorffennol drwy brofiadau treisgar ond hardd yn aml, mae Dantiel W. Moniz yn myfyrio ar gysylltiad dynol, hil, benywdod, etifeddiaeth a'r tywyllwch elfennaidd sydd ynom i gyd. Yn ddoeth ac yn wyrdroadol, yn ysbrydol ac yn gyfareddol, mae Milk Blood Heat yn dangos bod y byd lle'r ydym yn byw yn gallu bod yn lle llawn rhwystrau a thorcalon..ond hefyd yn un sy'n llawn gras ac ysblander.

Dantiel W. Moniz llun credyd Marissa Pilolli

Dantiel W. Moniz, Milk Blood Heat (Atlantic Books)
Dantiel W. Monitz yw derbynnydd Gwobr Alice Hoffman ar gyfer Ffuglen, Gwobr Ysgrifennwr Addawol Cecelia Joyce Johnson, a ddyfernir gan Seminarau Llenyddol Key West, ac Ysgoloriaeth Tin House. Mae ei ffuglen wedi cael ei chyhoeddi, neu mae ar fin cael ei chyhoeddi yn the Paris Review, Tin HousePloughshares, American Short Fiction, Yale Review, One Story, McSweeney's Quarterly Concern ac mewn cyfnodolion a chasgliadau eraill. Milk Blood Heat yw ei llyfr cyntaf. Mae ei chartref yng ngogledd-ddwyrain Florida.

Twitter: @dantielwmoniz | Instagram: deezybotpress
[Credyd llun: EMarissa Pilolli]

Hot Stew gan Fiona Mozley

Hot Stew gan Fiona Mozley (John Murray Press)
Wyddech chi mai i'r de i'r afon yn Southwark y lleolid pob puteindy yn oes y Tuduriaid a dim ond oesoedd wedi hynny y gwnaethant symud i Soho. 'Stews' roeddent yn eu galw ar y pryd.

Soho - lle drewllyd, chwilboeth ac anniwall; yr unig ran o Lundain nad yw wir byth yn cysgu. Twristiaid yn loetran, dihirod yn llechian, cyffurgwn yn llusgo'u traed, gweithwyr rhyw yn gorymdeithio, pyntwyr yn prowlan, dynion busnes yn brasgamu, y digartref a'r colledigion. I lawr Wardour Street, yn neidio i mewn i Dean Street, yn ysgubo i mewn i l'Escargot, yn gwibio i lawr aleau cefn tawel, yn osgoi biniau a meddwon, gan ddod allan i brif ffyrdd swnllyd, sy'n byrlymu ag egni, twrw a bywyd.

Ar gornel, saif tŷ tref mawr, yr union un peth â'i holl gymdogion. Ond mae'r adeilad hwn yn gartref i haid fywiog o gyfoethogion a thlodion, yn llawn o'r islawr yr holl ffordd i deras y to. Mae'r lloriau uchaf yn gartref i Precious a Tabitha ond mae eu cartref dan fygythiad; mae'r perchennog, y biliwnydd Agatha, am daflu'r menywod allan i adeiladu bwytai drud a fflatiau moethus. Bydd rhaid i ddynion fel Robert, sy'n ymweld â'r puteindy, fynd i rywle arall. Bydd y rhai fel Cheryl, sy'n cysgu yn yr islawr, yn gorfod dod o hyd i rywle arall i guddio ar ôl iddi nosi. Ond ni fydd y menywod yn gadael yn dawel. Soho yw eu milltir sgwâr ac maen nhw'n barod am frwydr.

Fiona Mozley

Fiona Mozley, Hot Stew (John Murray Press)
Cafodd Fiona Mozley ei magu yn Efrog ac mae hi'n byw yng Nghaeredin. Enillodd ei nofel gyntaf, Elmet, Wobr Somerset Maugham a'r Wobr Polari. Cafodd ei chynnwys ar restr fer y Wobr Man Booker a Gwobr Ondaatje y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol, ac ar restrau hir y Wobr am Ffuglen gan Fenywod, Gwobr Lenyddol Dulyn a Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas. Yn 2018, cafodd Fiona Mozley ei chynnwys ar restr fer Gwobr Ysgrifennwr Ifanc y Flwyddyn The Sunday Times/PFD.

Twitter: @FJMoz | Instagram: fionamozley

Open Water gan Caleb Azumah Nelson

Open Water gan Caleb Azumah Nelson (Viking / Penguin General)
Mae dau berson ifanc yn cwrdd mewn tafarn yn ne-ddwyrain Llundain. Mae'r ddau'n Brydeinig ac yn ddu, enillodd y ddau ysgoloriaethau i ysgolion preifat lle bu'n anodd iddynt ymgartrefu a pherthyn, mae'r ddau bellach yn artistiaid - ffotograffydd yw ef a dawnsiwr yw hi - sy'n ceisio llwyddo mewn dinas sydd un funud yn eu dathlu, wedyn yn eu gwrthod. Yn betrusgar, yn dyner, maent yn cwympo mewn cariad. Ond hyd yn oed os ymddengys fod ffawd am i ddau berson fod gyda'i gilydd, gall ofn a thrais eu gwahanu o hyd.

Ar yr un pryd yn stori cariad ingol a hyfryd ac yn fewnwelediad treiddiol i hil a gwrywdod, mae Open Water yn gofyn beth mae'n ei olygu i fyw mewn byd sydd yn eich gweld fel corff Du yn unig, o fod yn ddiamddiffyn pan fydd pobl yn eich parchu am eich nerth yn unig, i ddod o hyd i ddiogelwch drwy gariad, dim ond i'w golli. Gydag angerdd hyfryd a theimladwy, mae Caleb Azumah Nelson wedi ysgrifennu nofel gyntaf Brydeinig bwysicaf y blynyddoedd diweddar.

Caleb Azumah Nelson llun credyd Stuart Simpson, Penguin Books

Caleb Azumah Nelson, Open Water (Viking / Penguin General)
Mae Caleb Azumah Nelson yn ysgrifennwr ac yn ffotograffydd 27 oed sy'n byw yn ne-ddwyrain Llundain. Mae ei ffotograffiaeth wedi cael ei chynnwys ar restr fer y Wobr Palm Photo ac enillodd wobr Dewis y Bobl. Cafodd ei stori fer, PRAY, ei chynnwys ar restr fer Gwobr Stori Fer Genedlaethol y BBC yn 2020. Enillodd ei nofel gyntaf, Open Water, Wobr Nofel Gyntaf Costa a Gwobr Llyfr y Flwyddyn Bad Form, cafodd ei chynnwys ar restr fer Llyfr y Flwyddyn Waterstones, ac ar restrau hir Gwobr Dylan Thomas, Gwobr Gordon Burn a Gwobr Desmond Elliott. Cafodd ei ddewis ar gyfer anrhydedd '5 under 35' Sefydliad Cenedlaethol y Llyfr gan Brit Bennett yn 2021.

Twitter: @CalebANelson | Instagram: caleb_anelson
[Credyd llun: Stuart Simpson, Penguin Books]

Acts of Desperation gan Megan Nolan

Acts of Desperation gan Megan Nolan (Jonathan Cape)
Mae hi'n 23 oed ac mewn cariad â chariad. Mae ef yn hŷn, a'r dyn harddaf a welodd hi erioed. Daw'r cariad rhyngddynt yn hollysol yn gyflym.

Ond mae'r berthynas hon yn ansicr, ac mae golwg berffaith y dyn yn cuddio natur greulon. Mae hi'n benderfynol o'i newid, ond nid yw'r naill na’r llall yn bodloni delfrydau'r llall. Mae ef yn mynnu e-bostio ei gyn-gariad sy’n denau ac yn hardd o hyd, ac mae hi'n dechrau ildio i'w hysfeydd cywilyddus ei hun. Mae'r chwiliad am wefr yn orffwyll ac yn troi i gyfeiriad peryglus...

Megan Nolan llun credyd Lynn Rothwell

Megan Nolan, Acts of Desperation (Jonathan Cape)
Mae Megan Nolan yn byw yn Llundain a chafodd ei geni ym 1990 yn Waterford, Iwerddon. Cyhoeddwyd ei thraethodau, ei ffuglen a'i hadolygiadau yn The New York Times, The White Review, The Sunday Times, The Village Voice, The Guardian ac yn yr antholeg lenyddol, Winter Papers. Mae hi'n ysgrifennu colofn yn y New Statesman bob pythefnos. Hon yw ei nofel gyntaf.

Twitter: @mmegannnolan | Instagram: mmegannolan
[Credit llun: Lynn Rothwell]

Peaces gan Helen Oyeyemi

Peaces gan Helen Oyeyemi (Faber)
Mae Peaces yn adrodd stori Otto a Xavier Shin, pâr sy'n dechrau ar daith drên ddirgel sy'n mynd â nhw ymhell y tu hwnt i unrhyw gyrchfan y gallent fod wedi'i ragweld. Wrth i'r daith fynd yn ei blaen, maent yn darganfod bod pob man yn fwy rhyfedd a diddorol na'r un diwethaf, ac ymgollant yn y trên rhyfedd hwn a'i ddirgelwch. Pwy yw Ava Kapoor, unig breswylydd amser llawn y trên, a beth yw ei pherthynas â dyn o'r enw Prem? Ai teithwyr neu garcharorion ydynt? Rydym yn darganfod pwy drefnodd y daith, gan eu hyrddio i gyd i'w gorffennol am gliwiau.

Helen Oyeyemi llun credyd Tereza Linhartová

Helen Oyeyemi, Peaces (Faber)
Helen Oyeyemi yw awdur The Icarus Girl, The Opposite House, White is for Witching (a enillodd Wobr Somerset Maugham), Mr Fox, Boy, Snow, Bird, Gingerbread  a'r casgliad o straeon byrion, What is Not Yours is Not Yours. Yn 2013, cafodd Helen ei chynnwys ar restr Granta o Nofelwyr Ifanc Gorau Prydain.

[Credyd llun: Tereza Linhartová]

Filthy Animals gan Brandon Taylor

Filthy Animals gan Brandon Taylor (Daunt Books Publishing)
Yn y gyfres o straeon cysylltiedig sydd wrth wraidd Filthy Animals, mae dyn ifanc yn cymryd camau petrusgar i ymwneud â'r byd eto. Wedi cael ei ryddhau o'r ysbyty'n ddiweddar, mae Lionel yn cwrdd â dau fyfyriwr dawns mewn parti. Mae'r berthynas rhwng Charles a Sophie yn anodd ei dehongli ond mae Lionel yn cael ei ddenu at y ddau ohonynt. Wrth iddo ymdrin â'u cyfarfodydd llawn tensiwn rhywiol, mae'n gorfod cydbwyso ei wendidau â'i unigrwydd - ac ystyried ei ddychweliad at fywyd. Yn rhywle arall, mae merch fach yn rhedeg yn wyllt er pryder ei gofalwr; mae anghydfodau cuddiedig rhwng grŵp o bobl ifanc yn dod i'r arwyneb mewn ffordd greulon yn ystod un noson o aeaf; ac mae menyw'n llawn ofn cyn oed gyntaf, dim ond i sylweddoli bod rhywbeth wedi'i dorri ar agor.

Yr hyn sy'n cysylltu'r straeon hyn yw'r tensiwn rhwng arwyneb pethau a dwyster ein bydoedd mewnol. Gydag empathi treiddgar, mae Brandon Taylor yn dangos er bod trais yn hofran wrth ymyl sawl cyfarfod, y ceir tynerwch a chariad hefyd.

Brandon Taylor llun credyd Bill Adams

Brandon Taylor, Filthy Animals (Daunt Books Publishing)
Brandon Taylor yw awdur y nofel uchel ei bri, Real Life, a gafodd ei chynnwys ar restr fer y Wobr Booker, ar restr hir Wobr Nofel Gyntaf y Ganolfan Ffuglen a'i henwi'n Ddewis Golygyddion The New York Times Book Review ac yn Llyfr Ffuglen y Flwyddyn Foyles. Graddiodd o Weithdy Ysgrifenwyr Iowa, lle bu'n Gymrawd y Celfyddydau Iowa mewn ffuglen.

Twitter: @blgtylr
[Credyd llun: Bill Adams]