Rhestr hir 2022

Cyhoeddir y rhestr hir ryngwladol ar gyfer un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd ar gyfer llenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe heddiw, dydd Iau 3 Chwefror. O Sri Lanka i Trinidad, Tecsas, ac Iwerddon drwy'r Dwyrain Canol, mae'r rhestr hir eleni'n cynnwys casgliad pwerus o lenorion rhyngwladol sy'n rhoi llais i rai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae'r rhestr hir eleni'n dathlu lleisiau benywaidd o bedwar ban byd ac yn cynnwys: Keeping the House, y nofel gyntaf galed gan Tice Cin, yr artist rhyngddisgyblaethol o Lundain; No One is Talking About This, myfyrdodau Patricia Lockwood, y nofelydd o America, ar gariad, iaith a chysylltiadau rhwng pobl; Milk Blood Heat, casgliad cyntaf Dantiel W. Moniz o straeon byrion am genedlaethau gwahanol sy'n myfyrio ar gysylltiadau rhwng pobl, hil, benywdod, etifeddiaeth, a'r tywyllwch elfennaidd ynom ni oll; Hot Stew, comedi ddinesig Fiona Mozley, yr awdures o Brydain; Acts of Desperation, nofel gyntaf llawn digrifwch tywyll Megan Nolan, un o sêr newydd llenyddiaeth Iwerddon; a Peaces, ymdrech Helen Oyeyemi, a anwyd ym Mhrydain ond sy'n byw ym Mhrag, i archwilio ystyr cael eich gweld gan rywun arall.

Mae dau fardd benywaidd yn y ras am y wobr sy'n werth £20,000, sef Desiree Bailey, am ei chwiliad telynegol am ymdeimlad o berthyn a rhyddid yn What Noise Against the Cane wrth iddi alw ar ei hunaniaeth ddiwylliannol a'i magwraeth yn Trinidad a Tobago, yn ogystal â Nidhi Zak/Aria Eipe, a anwyd yn India, y mae ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth, Auguries of a Minor God, yn dilyn dwy daith wahanol, yr un gyntaf yn ymwneud â chariad a'r clwyfau y mae'n eu hachosi, a'r ail yn dilyn teulu o ffoaduriaid sydd wedi ffoi i'r gorllewin rhag gwrthdaro arfog mewn gwlad amhenodol yn y Dwyrain Canol.

Mae'r rhestr o gyfrolau gan nofelwyr newydd hefyd yn cynnwys The Sweetness of Water gan Nathan Harris, sy'n cyfuno ffuglen hanesyddol â gwirionedd cymhleth y gymdeithas sydd ohoni, ac Open Water, y stori serch boenus o odidog (sy'n cael ei gwerthu mewn 13 o diriogaethau ym mhedwar ban byd bellach) gan Caleb Azumah Nelson, y llenor 25 oed o gefndir Prydeinig-Ghanaidd, sy'n taflu goleuni ar hil a gwrywdod. Mae rhestr hir 2022 o 12 o gyfrolau hefyd yn cynnwys A Passage North, nofel feistrolgar Anuk Arudpragasam, y llenor o Sri Lanka, sy'n archwilio henaint ac ieuenctid, colli a goroesi yn dilyn dinistr y rhyfel cartref 30 mlynedd yn Sri Lanka, a Filthy Animals gan Brandon Taylor, sy'n tynnu ynghyd straeon cynnil o druenus am bobl sy'n ymdopi â thrais a chwant wrth hiraethu am agosatrwydd.

Gyda'r awdures arobryn Namita Gokhale, sylfaenydd a chyfarwyddwr Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur yn cadeirio, dewisir rhestr fer o chwe chyfrol gan banel clodwiw o feirniaid, gan gynnwys Rachel Trezise, nofelydd, dramodydd ac enillydd Gwobr Dylan Thomas yn 2006; Luke Kennard, y bardd a'r nofelydd uchel ei fri a enillodd wobr Forward am farddoniaeth yn ddiweddar; Alan Bilton, y nofelydd sy'n darlithio ym Mhrifysgol Abertawe; ac Irenosen Okojie, yr awdures o Brydain a anwyd yn Nigeria ac a enillodd MBE am wasanaethau i lenyddiaeth yn 2021.

Drwy themâu hunaniaeth, gwrthdaro arfog a chariad, mae'r rhestr hir eleni'n cynnwys wyth nofel, dau gasgliad o farddoniaeth a dau gasgliad o straeon byrion:

  • A Passage North – Anuk Arudpragasam (Granta)
  • What Noise Against the Cane – Desiree Bailey (Yale University Press)
  • Keeping the House – Tice Cin (And Other Stories)
  • Auguries of a Minor God – Nidhi Zak/Aria Eipe (Faber)
  • The Sweetness of Water – Nathan Harris (Tinder Press/Headline)
  • No One is Talking About This – Patricia Lockwood (Bloomsbury Circus)
  • Milk Blood Heat – Dantiel W. Moniz (Atlantic Books)
  • Hot Stew – Fiona Mozley (John Murray Press)
  • Open Water – Caleb Azumah Nelson (Viking, Penguin General)
  • Acts of Desperation – Megan Nolan (Jonathan Cape)
  • Peaces - Helen Oyeyemi (Faber)
  • Filthy Animals – Brandon Taylor (Daunt Books Publishing)

Mae'r wobr, sy'n werth £20,000, yn un o'r gwobrau llenyddol mwyaf clodfawr yn y DU a hi yw'r wobr lenyddol fwyaf yn y byd ar gyfer llenorion ifanc. Dyfernir y wobr am y gwaith llenyddol cyhoeddedig gorau yn Saesneg gan awdur 39 oed neu'n iau. Mae'n dathlu ffuglen ryngwladol o bob math, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a dramâu.

Ar dderbyn y wobr yn 2021 am Luster, ei nofel gyntaf feiddgar, meddai Raven Leilani: ‘Yn gynnar iawn yn fy mywyd, roedd gwaith Dylan Thomas yn destun cysur mawr ac ysbrydoliaeth i mi, felly dyma anrhydedd a chadarnhad anhygoel. Des i ar draws ei waith am y tro cyntaf pan oeddwn tua 12 oed. Roeddwn newydd ddechrau ysgrifennu ac rwy'n cofio mynd ag un o'i gasgliadau adref o'r llyfrgell a cheisio efelychu ei rythm. Mae dyddiaduron llawn ymdrechion o'r fath yn fy meddiant o hyd, ac rwyf am ddiolch i'r beirniaid, y darllenwyr, fy nheulu a'm ffrindiau, a'm cydweithwyr gwych yn Picador a Trident, am eu cefnogaeth. Mae'n werth y byd i mi.’

Cyhoeddir y rhestr fer ar 31 Mawrth a chynhelir y seremoni wobrwyo yn Abertawe ar 12 Mai, ddau ddiwrnod cyn Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas.

Rhannu'r stori