Diolch I Chi

Oherwydd pryderon a goblygiadau cynyddol ofidus y pandemig byd-eang newydd, ar Ebrill 3ydd nodwyd dechrau Ymgyrch Ymateb COVID-19 ym Mhrifysgol Abertawe; gan adnabod dau faes allweddol a oedd angen cymorth ariannol ar unwaith.

Yn gyntaf, gan ddefnyddio platfform cyllido torfol y Brifysgol TON, aethom ati i gefnogi’r Gronfa Galedi Myfyrwyr, a oedd wedi derbyn nifer fawr o geisiadau gan y rhai mwyaf bregus yng nghymuned ein myfyrwyr a gafodd eu heffeithio waethaf gan y cyfnod clo ledled y wlad. Mae'r Brifysgol wedi cynyddu ei chyfraniad yn y maes hwn yn ddramatig ac wedi derbyn cefnogaeth aruthrol gan ein cyn-fyfyrwyr a'n ffrindiau. Cawsom ein syfrdanu gan yr ymateb i’r ymgyrch gychwynnol hon gan godi dros £12k mewn pedair wythnos yn unig. Ychydig wythnosau'n ddiweddarach, ehangwyd ein hymgyrch i roi cyllid hanfodol i mewn i brosiectau ymchwil COVID-19 cynyddol bwysig. Ers hynny rydym wedi symud ein hymgyrch i blatfform newydd sy'n caniatáu inni ddefnyddio rhoddion at ddefnydd da ar unwaith!

Mae'r gefnogaeth a ddangoswyd i'r gronfa wedi datblygu'n rhyfeddol ac ni allem ddiolch digon i chi am ein helpu yn y cyfnod anodd hwn.

CRONFA GALEDI MYFYRWYR

Ein hymgyrch Cronfa Ymateb COVID-19

“Mae’r swm a godwyd yn arddangos yn amlwg y tosturi a’r caredigrwydd sy’n nodweddu cymuned ein myfyrwyr a’n staff ac, ar ran tîm Arian@BywydCampws a’r llawer o fyfyrwyr y bydd eich rhodd yn eu helpu, hoffwn ddiolch i chi am ein helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Mae eich cymorth elusennol yn annog ein hymrwymiad parhaus i gefnogi myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Diolch i chi eto am eich haelioni a’ch ystyrioldeb."

- Alison Maguire, Rheolwr Arian@BywydCampws