Goleuni yn y tywyllwch.

Mewn adegau o argyfwng, rydyn ni'n dod yn fwyfwy dibynnol ar ein gilydd. O'ch teulu a'ch ffrindiau, gweithwyr gofal iechyd a gwasanaethau brys i'ch archfarchnadoedd a'ch cludwyr nwyddau lleol. Mae'r pandemig byd-eang parhaus, i lawer, wedi ailffocysu ein blaenoriaethau a'n hymddygiad i sicrhau bod gennym y gallu a'r wybodaeth i guro'r firws a dychwelyd i normalrwydd cyn gynted â phosibl. Ers i'r achosion ddechrau, mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r argyfwng yn uniongyrchol ac yn darparu cyfleoedd, ar draws y sefydliad, i bobl ymuno â ni yn y frwydr o'n blaenau. Fe wnaethom ymateb yn gyflym gyda mesurau ymarferol ar unwaith fel cynhyrchu PPE, diheintydd a pheiriannau anadlu, ac rydym wedi ymgyrchu'n gynyddol am gymorth ariannol brys i'n myfyrwyr mwyaf bregus, a rhoi'r cyllid sydd ei angen ar yr ymchwilwyr o safon byd eang i gloddio dan wyneb pandemig byd-eang.

Rydym wedi ein syfrdanu gan gefnogaeth barhaus ac anhygoel ein cymuned unedig yn Abertawe. Rydych chi wedi bod yn ganhwyllau yn y gwyll, a gyda'n gilydd, gallwn ddisgleirio'n llachar yn ystod y dyddiau tywyll hyn.