Diolch I Chi!

Hoffem gymryd eiliad i gamu'n ôl a gwerthfawrogi'r gefnogaeth aruthrol gan ein cyn-fyfyrwyr, staff, myfyrwyr, partneriaid a chyfeillion sydd wedi gwneud cyfraniadau mor hael tuag at ein Cronfa Ymateb COVID-19. Rydyn ni wedi cael ein syfrdanu gan yr ymateb ac wrth ein bodd gyda'r ymrwymiad rydych chi wedi'i ddangos i ymchwil Covid-19 a chaledi myfyrwyr yn Abertawe.Diolch i’r haelioni hwn, mae'r gronfa eisoes yn gwneud gwahaniaeth enfawr, gan helpu'r rhai mwyaf anghenus, yn ystod argyfwng sydd eisoes wedi gweld cannoedd o fyfyrwyr yn ymgeisio am gymorth ariannol brys ac yn darparu'r gallu i'n hacademyddion i wneud ymchwil hanfodol gan archwilio sawl maes sy'n ymwneud â Covid-19.

Gobeithiwn y bydd teulu Abertawe yn parhau i dynnu at ei gilydd wrth i ni ymladd yn erbyn y clefyd.