Ysbryd cymunedol wrth wraidd popeth

Defnyddiwyd yr arian a roddwyd  er mwyn cynorthwyo myfyrwyr o nifer o grwpiau gwahanol ag ystod eang o amgylchiadau unigol yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt y tu hwnt i’r hyn a gynigir fel arfer trwy ein dyraniad cronfa galedi.

Y nod cyffredinol oedd adnabod y myfyrwyr hynny a oedd yn fwy tebygol o brofi caledi ariannol sylweddol o ganlyniad i fregusrwydd blaenorol a oedd yn debygol o gael ei waethygu gan yr argyfwng iechyd cyhoeddus a’r cyfnod cyfyngiadau symud cysylltiedig. 

Meysydd rydyn ni wedi'u cefnogi

Datganiadau ynghylch dyfarniadau ariannu a oedd yn bosib oherwydd rhoddion:

Myfyriwr blwyddyn gyntaf sy’n gadael gofal

"Rwy’n gwneud yn dda iawn. Mae’r taliadau ychwanegol wedi fy helpu yn fawr iawn. Mae fy sefyllfa ariannol yn un peth yn llai i mi orfod poeni amdano. Roeddwn i’n ansicr iawn ynghylch sut y gallwn i ymdopi oherwydd byddai dod o hyd i swydd yn ystod misoedd yr haf yn anodd. Fodd bynnag, rwyf bellach yn gallu talu’r biliau, prynu bwyd a phrynu pethau angenrheidiol eraill. Rwy’n hynod o ddiolchgar ac ni allaf ddweud diolch digon o weithiau am y cymorth ychwanegol."

Myfyriwr Nyrsio 2il flwyddyn Myfyriwr blwyddyn olaf sydd wedi’i ymddieithrio Myfyriwr sydd wedi’i ymddieithrio’n gynharach eleni Myfyriwr ail flwyddyn sydd wedi’i ymddieithrio Myfyriwr sy’n rhiant

“Mae’r swm a godwyd yn arddangos yn amlwg y tosturi a’r caredigrwydd sy’n nodweddu cymuned ein myfyrwyr a’n staff ac, ar ran tîm Arian@BywydCampws a’r llawer o fyfyrwyr y bydd eich rhodd yn eu helpu, hoffwn ddiolch i chi am ein helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Mae eich cymorth elusennol yn annog ein hymrwymiad parhaus i gefnogi myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Diolch i chi eto am eich haelioni a’ch ystyrioldeb."

- Alison Maguire, Rheolwr Arian@Bywydcampws

Eich Cefnogaeth. Ein Prifysgol.
Cefnogwch ymchwil ac COVID-19
ym Mhrifysgol Abertawe.