Cronfa Ymateb Covid-19 Prifysgol Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe wedi chwarae rôl allweddol wrth ymateb i COVID-19 gyda chymorth ein cymuned anhygoel yn Abertawe. Ers i’r achosion ddechrau, rydyn ni wedi ariannu’n llwyddiannus nifer o brosiectau ymchwil unigryw i’r pandemig ar lefel y Brifysgol ac yna mewn cydweithrediad â sefydliadau yn fyd-eang. Rydyn ni hefyd wedi helpu ein myfyrwyr ar adeg pan roedd ei angen arnyn nhw yn ogystal â chefnogi ein gweithwyr rheng flaen drwy ddarparu cyfarpar diogelu personol (PPE) a diheintyddion ar gyfer y dwylo.

Bydd rhoddion i gronfa ymateb i Covid-19 yn ein helpu i ddarparu’r amodau mwyaf cefnogol a gofalgar ag sy’n bosibl i’n myfyrwyr, gan gynnwys y sawl sy’n dioddef yn ariannol a’r rheiny y mae’r achosion wedi effeithio’n uniongyrchol ar eu teuluoedd a’u ffrindiau. Drwy ychwanegu at yr arian sydd ar gael i’n gwasanaethau caledi a lles, byddwn ni mewn sefyllfa ddelfrydol i gefnogi ein myfyrwyr gorau y gallwn ni rhwng nawr a’r dyfodol sy’n destun pryder. Mae’r Brifysgol wedi cynyddu ei chyfraniad yn y maes hwn yn sylweddol ac mae wedi derbyn cefnogaeth aruthrol gan gyn-fyfyrwyr a chyfeillion, ond mae’r galw ar y gwasanaeth na welwyd mo’i debyg o’r blaen yn parhau i fod yn fwy na’r hyn rydyn ni’n gallu’i roi.

Ni allai’r caredigrwydd na’r ewyllys da yr ydyn ni’n ei drysori yn ein cymuned yma ym Mhrifysgol Abertawe fod wedi bod yn bwysicach nag yn ystod y misoedd diwethaf. Mae’r arian a godwyd hyd yn hyn wedi ein galluogi ni i gefnogi llawer o’n myfyrwyr – ac mae llawer ohonyn nhw sy’n parhau i ddioddef o effaith ariannol negyddol Covid-19.

“Mae’r bwrsariaethau a’r arian ychwanegol wedi fy nghaniatáu i gadw blaendal ar gyfer rhywle i’w rentu gan fy mod i’n symud yn fuan i ddechrau fy ngyrfa newydd. Mae hyn wedi golygu nad oedd rhaid imi bryderu am fod yn ddigartref ar ôl i’r brifysgol ddod i ben, gan fod hyn wedi bod yn bryder ofnadwy o fawr imi.”

Mae eich cefnogaeth chi wedi sicrhau bod darpariaeth y bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr sy’n gadael gofal a’r rheiny sy’n ofalwyr wedi cynyddu ar gyfer 2020/21, ac mae ein Bwrsariaeth ar gyfer Myfyrwyr sydd wedi’u Hymddieithrio yn rhoi cefnogaeth ariannol sydd mawr ei hangen i’r myfyrwyr hynny sydd wedi’u hymddieithrio oddi wrth eu teuluoedd mewn ffordd anadferadwy. Er ein bod yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi y bydd yr argyfwng wedi effeithio ar lawer ohonoch chi, rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n cefnogi ni os gallwch chi wneud hynny. Os nad ydych chi’n gallu cynnig rhodd, gallwch chi ein helpu ni o hyd drwy rannu’r dudalen hon ar y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â’i rhannu â’ch ffrindiau a’ch teulu fel y gallwn ni gyrraedd cynifer o bobl ag sy’n bosibl. Hoffem ni ddiolch yn fawr iawn i’r holl bobl hynny sydd wedi dangos y fath haelioni wrth gefnogi ein myfyrwyr.

- Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar am eich cefnogaeth!