Rydym yn Addasu

Ers i'r achosion o COVID-19 ddechrau, mae ymchwilwyr Prifysgol Abertawe wedi bod yn gweithio'n galed i ddatrys y materion sy'n ein hwynebu yn y DU, a ledled y byd. Rydym wedi ymrwymo i gynnal ymchwil sy’n gwneud budd yn y byd go iawn. Rydym yn hyrwyddo ymchwil ryngddisgyblaethol ar draws sawl maes; dull sy'n annog gwaith meddwl gwreiddiol a chydweithio i greu canlyniadau arloesol.

Dewch i gael blas o'r hyn y mae ein hymchwilwyr byd-enwog wedi'i archwilio ynglŷn â COVID-19 isod, a sut y gallwch chi ddylanwadu ar brosiectau sydd ar y gweill.