Dr Angharad Davies

Fy Stori

Rwyf yn ficrobiolegydd academydd clinigol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae pandemig COVID-19 wedi achosi nifer o heriau ar gyfer fy mhwnc arbenigol ac yma byddaf yn adfyfyrio ar rywfaint o’r gwaith yr wyf wedi bod yn rhan ohono dros y misoedd diwethaf.

Yn gynnar yn ystod y pandemig yn y Deyrnas Unedig daeth yn amlwg bod aelodau staff y GIG o gefndir BAME mewn perygl penodol o ran profi canlyniadau andwyol gan bandemig COVID-19. Rwyf yn aelod o Bwyllgor Staff Academaidd Meddygaeth a Grŵp Ymgynghorol COVID-19 Cymdeithas Feddygol Prydain. Roedd aelodau’r ddau grŵp wedi’u brawychu’n fawr gan effaith y clefyd hwn ar aelodau staff BAME. Ar y cyd â rhai o’m cydweithwyr o Gymdeithas Feddygol Prydain, cyfrannais at y gwaith o ddatblygu teclyn asesu ar gyfer proses haeniad risg ymhlith aelodau o staff er mwyn adleoli’r bobl fwyaf bregus rhag gweithio ar weithgareddau clinigol risg uchel na gweithio mewn lleoliadau clinigol risg uchel. Cymeradwyir y teclyn haeniad risg hwn gymdeithas Feddygol Prydain a hefyd gafodd ei ddefnyddio er mwyn hysbysu ymagwedd Llywodraeth Cymru:

Rwyf hefyd yn gweithredu fel Arweinydd Arbenigol ym maes Heintiau gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Gallwn ni fod yn falch bod Byrddau Iechyd Cymru, wedi’u cefnogi gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi recriwtio miloedd o gleifion ar gyfer treialon clinigol er mwyn mynd i’r afael â phandemig COVID-19. Un o’r treialon hyn oedd treial UK RECOVERY, sef y treial COVID-19 mwyaf yn y byd hyd yn hyn. Mae RECOVERY wedi recriwtio dros 11,000 o gleifion y GIG, gan gynnwys cannoedd o Gymru ac o Abertawe.

Canlyniad mawr treial RECOVERY oedd dangos, erbyn canol mis Mehefin, fuddion sylweddol y cyffur dexamethasone ar gyfer trin cleifion â  COVID-19 difrifol. Hefyd llwyddodd i ddangos nad yw opsiynau penodol eraill megis hydroxychloroquine yn effeithiol sef canlyniadau sy’n pwysleisio pa mor hanfodol bwysig yw treialon ar raddfa fawr er mwyn ateb cwestiynau clinigol. Nid yw dexamethasone yn ddrud ac mae ar gael yn helaeth felly mae gan y canfyddiad hwn y potensial i achub nifer fawr o fywydau yn fyd-eang yn ystod y pandemig. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru bellach wedi sefydlu Tasglu Brechlyn ac rydym yn gweithio i greu cymorth er mwyn hwyluso treialu’r brechlyn yng Nghymru.