gabriella headshot with swansea gower background

Fy Stori

"Ym mis Mawrth 2020, dechreuais i brosiect ‘Meithrin ymatebion cymdeithasol cadarnhaol i bandemig COVID-19’, a fyddai’n cyfuno seicoleg gymdeithasol a gwyddor wleidyddol. Mae llawer o bynciau wedi’u polareiddio yn ôl llinellau pleidiol: mae’r effaith ‘plaid dros bolisi’ yn dangos y bydd dewis plaid wleidyddol rhywun yn ei ysgogi i fod yn fwy parod i gefnogi polisi a gynigir gan y blaid honno na’r un polisi a gynigir gan yr wrthblaid. Gall hyn effeithio’n niweidiol ar barodrwydd y cyhoedd i gydymffurfio, er enghraifft, ag argymhellion i reoli pandemig COVID-19."

"Er enghraifft, yn yr UD o leiaf, bydd pobl yn fwy tebygol o gefnogi polisi ar newid yn yr hinsawdd os caiff ei gynnig gan eu plaid nhw, er y byddai’r polisi o fudd i’r gymdeithas gyfan."

"Y cwestiwn sydd o ddiddordeb i ni yma yw a yw’r cyhoedd yn ymateb i bandemig COVID-19 mewn ffordd bleidiol? A fydd pobl yn fwy parod i gydymffurfio ag argymhellion pan gânt eu cynnig gan wleidyddion maent eisoes yn eu cefnogi, yn hytrach na’r wrthblaid? Ydy’r effaith hon yn deillio o ymddiriedaeth yr unigolyn yn ei grŵp ei hun a diffyg ymddiriedaeth yn y grŵp arall? A sut gall ymdeimlad o hunaniaeth wedi’i rhannu â’r rhai mwyaf agored i COVID-19 gryfhau cydymffurfiaeth?"

"Mae’r prosiect hwn yn ymdrech wych gan grŵp o gydweithwyr o Brifysgol Colorado, Boulder (Leaf Van Boven, Jennifer Cole, Alex Flores), Université Libre de Bruxelles (Olivier Klein), Prifysgol California, Santa Barbara (David Sherman) a Phrifysgol Abertawe (Dion Curry yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau a Fred Boy yn yr Ysgol Reolaeth). Derbyniais i £3,672 gan Gronfa yr Angen Mwyaf Prifysgol Abertawe a ddefnyddiwyd ym mis Ebrill 2020 i dalu cyfranogwyr mewn un arbrawf a gynhaliwyd yn yr UD (N = 2000, Cloud Research Prime Panels) a dwy astudiaeth yn y DU (N = ~1000 yr un, Prolific Academic). Cafodd y protocol, y deunyddiau a’r cynllun dadansoddi data eu cofrestru ymlaen llaw cyn y casglwyd y data a chaiff yr erthygl gyntaf ei chyflwyno i’w hadolygu gan gymheiriaid yn fuan."

"O ganlyniad i’r astudiaeth hon, rwyf bellach yn aelod o dîm rhyngwladol sy’n gweithio ar brosiect croestoriadol eilaidd a ariennir gan yr NSF yn yr UD ($200,000, yr Athro Van Boven yw’r prif ymchwilydd). Rydym yn ymchwilio i’r cwestiwn i ba raddau mae pleidgarwch a hunanholiad yn llywio ymateb y cyhoedd i bandemig COVID-19 drwy astudiaeth hydredol (yr UD) ac astudiaethau croestoriadol (y DU, yr Eidal, Sweden, Israel, Singapôr, De Corea a Brasil) ar y cyd â monitro’r cyfryngau ym mhob un o’r gwledydd hyn. Rydym wedi casglu’r data o gyfnod un yr arolwg ym mis Awst ac yn ei ddadansoddi ar hyn o bryd. Rwyf hefyd yn ysgrifennu cais am gymrodoriaeth ar ymddiriedaeth a fydd yn parhau â’r gwaith hwn y flwyddyn nesaf."

"Roedd y cyllid hwn yn hanfodol i’n galluogi i gasglu data mewn cyfnod mor fyr. Yn gyffredinol, mae’n cymryd llawer o amser, ymdrech ac arian i recriwtio samplau o gyfranogwyr digon mawr. Mae natur frys a newidiol y pandemig hwn wedi rhoi pwysau ychwanegol ar ein gwaith, ac ni allem fod wedi casglu data o ansawdd mor dda heb y cymorth gan Gronfa yr Angen Mwyaf. Yn syml, caniataodd i ni gyflawni llawer mewn amser byr iawn. Mewn byd delfrydol, byddai’r math hwn o gymorth ar gael i bob ymchwilydd i wella gwybodaeth. Rydym yn ddiolchgar yr oedd ar gael i ni y tro hwn."