Crynodeb o'r Newyddion

Planhigyn, celloedd a testiwbiau

Abertawe i arwain y ffordd yn y DU wrth arloesi cynhyrchion naturiol

Bydd Abertawe yn arwain y ffordd yn y DU yn y sector ymchwil a menter o ran cynhyrchion naturiol, gan fod y Brifysgol wedi llwyddo mewn cais am gyllid gwerth £587,000 i greu canolfan newydd a adwaenir fel y BioHYB. Nod y BioHYB Cynhyrchion Naturiol yw annog defnydd mwy helaeth o gynhyrchion naturiol yn y diwydiannau amaethyddol, fferyllol a gweithgynhyrchu er mwyn helpu'r ddinas a'r rhanbarth i fod yn fwy iach, gwyrdd a chynaliadwy.

Darllen mwy
Galwad am welliannau brys ar ôl i astudiaeth ddatgelu diffygion yn y Pasbort Iechyd Awtistiaeth

Galwad am welliannau brys ar ôl i astudiaeth ddatgelu diffygion yn y Pasbort Iec

Mae ymchwilwyr wrthi'n galw am ymagweddau newydd at leihau anghydraddoldebau gofal iechyd ar gyfer pobl awtistig pan fydd angen triniaeth feddygol arnynt ar ôl i ddiffygion difrifol ddod i'r amlwg yn y pasbortau iechyd a argymhellir gan NICE.

Darllen mwy
Datgelu cyfrinachau arferion teithio anifeiliaid: sut mae nodweddion rhywogaethau wedi dylanwadu ar eu teithiau ar draws y byd

Datgelu cyfrinachau arferion teithio anifeiliaid: sut mae nodweddion rhywogaetha

Mae gallu anifeiliaid i deithio ar draws rhwystrau mawr, megis cefnforoedd neu gadwyni mynyddoedd, wedi bod o ddiddordeb mawr i wyddonwyr ers amser maith oherwydd ei ddylanwad ar fioamrywiaeth y Ddaear. Mae astudiaeth newydd ym Mhrifysgol Abertawe wedi datgelu gwybodaeth sy'n torri tir newydd am y broses hon, gan ddangos sut mae nodweddion, megis maint corff a hanes bywyd, yn gallu dylanwadu ar ymlediad anifeiliaid dros y byd.

Darllen mwy
Tîm meddygol o Brifysgol Abertawe’n rhannu ei arbenigedd mewn efelychu clinigol â Zambia

Tîm meddygol o Brifysgol Abertawe’n rhannu ei arbenigedd mewn efelychu clinigol

Mae tîm o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi ymweld â Zambia er mwyn hyfforddi meddygon, nyrsys a bydwragedd sy'n addysgu yn y wlad honno i ddefnyddio efelychu clinigol, sy'n galluogi myfyrwyr i ddysgu sgiliau newydd heb roi cleifion mewn perygl. Roedd yr ymweliad hefyd yn gyfle i'r tîm ddysgu gan eu cydweithwyr yn Zambia a thrafod partneriaethau ymchwil a chyfleoedd i fyfyrwyr yn y dyfodol.

Darllen mwy
Cloc ffynnon atomig yn ceisio datrys dirgelion gwrthfater

Cloc ffynnon atomig yn ceisio datrys dirgelion gwrthfater

Gallai dyfais sy'n cynhyrchu ffynnon o atomau cesiwm hybu dealltwriaeth o'r bydysawd drwy fesur amledd y golau sy'n cael ei amsugno gan wrthfater. Mae'r ddyfais, a adeiladwyd yn y DU gyda chefnogaeth gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), bellach wedi cael ei gosod yng nghyfleuster eiconig y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear (CERN) i gynorthwyo arbrawf gwrthfater arloesol ALPHA (Cyfarpar Ffiseg Laser Gwrth-hydrogen).

Darllen mwy

Uchafbwyntiau Ymchwil

Gwella mesur polisi rheoli cyffuriau a throseddau effeithiol

Gwella mesur polisi rheoli cyffuriau a throseddau effeithiol

Drwy ei ymchwil, mae’r Athro David Bewley-Taylor wedi canolbwyntio ar ailgalibradu sut mae llywodraethau, asiantaethau’r CU a sefydliadau rhyngwladol anllywodraethol yn mesur effeithiolrwydd polisïau rheoli cyffuriau a throseddu

Darllen mwy
Rhwydwaith Strategol Prifysgolion i Weddnewid Ynni Rhyngwladol o'r Hau

Prosiect SUNRISE

Mae pŵer solar yn ateb delfrydol ar gyfer rhannau anghysbell o'r byd lle mae cysylltiad â'r grid yn wael neu nad oes cysylltiad o gwbl ac mae digon o heulwen. Yng ngoleuni hyn, cydweithrediad rhyngwladol SUNRISE, dan arweiniad yr Athro Dave Worsley a Dr Ian Mabbett, ei ffurfio i ddylunio a defnyddio technoleg pŵer solar oddi ar y grid i ddarparu ynni fforddiadwy, dibynadwy a chynaliadwy i gymunedau anghysbell.

Darllen mwy
Gwneud hanes a chyfraniadau menywod o leiafrifoedd ethnig yn fwy gweladwy

Gwneud hanes a chyfraniadau menywod o leiafrifoedd ethnig yn fwy gweladwy

Yn ei hymchwil gyfredol, mae'r Athro Jasmine Donahaye yn canolbwyntio ar brofiad menywod a phobl a chanddynt liw o gael eu hallgáu o fyd natur, ac ar ymyleiddio menywod ym maes ysgrifennu am natur.

Darllen mwy

Ffocws Abertawe

Treiglo celloedd

Podlediad: 'Can we protect ourselves from cancer causing chemicals?'

Yn y bennod hon o Archwilio Problemau Byd-eang, Tymor 3, mae’r Athro Gareth Jenkins yn trafod sut gall y cemegau o’n cwmpas, ein dewisiadau ffordd o fyw a’n harferion gynyddu neu ostwng y tebygolrwydd y bydd ein DNA yn mwtadu ac yn datblygu i fod yn ganser.

Darllen mwy
Megalodon

'The truth about the extinct megalodon shark'

Yn yr erthygl hon o The Conversation, mae Dr Jack Cooper yn archwilio'r gwirionedd am y meglodon Otodus sydd wedi darfod, a oedd y siarc mwyaf erioed, a pham y gallai'r ffilm wirion hon ysbrydoli paleontolegwyr y dyfodol.

Darllen mwy

Dan y chwyddwydr...

Dr Sara Sharifzadeh

Ymchwilydd Gyrfa Gynnar

Mae Dr Sara Sharifzadeh yn Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg. Mae ei phif feysydd ymchwil yn cynnwys dysgu peirianyddol, deallusrwydd artiffisial, dadansoddi data amlamryweb a’i ddefnyddio wrth ddadansoddi signalau/delweddau, iechyd digidol, dadansoddi delweddau lloeren a dadansoddi data cwmwl pwynt 3D a geir o synwyryddion sganiwr laser ar robotiaid.

Darllen mwy
Dafydd Cotterell

Ymchwilydd ôl-raddedig

Mae Dafydd Cotterell yn fyfyriwr PhD yn yr Ysgol Reolaeth sy'n gwerthuso gwydnwch trefniadol yng nghyd-destun y diwydiant manwerthu yn ystod pandemig Covid-19.

Darllen mwy
MASI logo

Sefydliad Ymchwil

Mae Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (MASI) yn canolbwyntio ar ddod â phobl at ei gilydd i gynnal ymchwil ryngddisgyblaethol a newid y byd er gwell trwy ddarganfod ac arloesi prosesau, deunyddiau, technolegau, damcaniaethau, cysyniadau, polisïau ac arferion.

Read more

Cydweithrediadau Ymchwil

Ystafell ysbyty Realiti Rhithwir

Arbenigwyr Rhith-realiti yn ymuno i greu hyfforddiant iechyd arloesol

Mae cwmni rhith-realiti o Gymru wedi ymuno â Phrifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddarparu hyfforddiant gofal iechyd arloesol. Mae'r Brifysgol a'r bwrdd iechyd wedi dewis Rescape, cwmni o Gaerdydd, i gyflwyno cyfres o fodiwlau hyfforddi Rith-realiti pwrpasol yn y Gymraeg a’r Saesneg fel rhan o brosiect £900,000 Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru 'Virtual Reality a Welsh Reality.'

Darllen mwy
Arweinwyr o brifysgol yn Wcráin yn ymweld ag Abertawe i gryfhau cysylltiadau ymchwil

Arweinwyr o brifysgol yn Wcráin yn ymweld ag Abertawe i gryfhau cysylltiadau ymc

Mae pedwar uwch-arweinydd o brifysgol bartner Abertawe yn Wcráin yn ymweld â Chymru er mwyn helpu i gryfhau'r cydweithrediad rhwng y ddau sefydliad o ran ymchwil, addysgu a chreu cyfleoedd i fyfyrwyr. Daw'r grŵp o Brifysgol Genedlaethol Petro Mohyla'r Môr Du (PMBSNU), yn rhanbarth Mykolaiv, dinas o bwys a chanddi borthladd ac oddeutu 470,000 o bobl yn ne Wcráin.

Darllen mwy

Cofrestrwch i dderbyn y rhifyn diweddaraf o MOMENTUM yn syth i'ch mewnflwch

Drwy lenwi'r ffurflen hon rydych yn cydsynio i dderbyn MOMENTUM drwy e-bost. Gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd trwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio ar waelod e-bost. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein polisi preifatrwydd.