Dafydd Cotterell

Dafydd Cotterell

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
PhD Rheoli Busnes

Ar hyn o bryd, rwy'n fyfyriwr PhD yn yr Ysgol Reolaeth, Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. Caiff fy PhD ei oruchwylio gan yr Athro Paul Jones, yr Athro Cysylltiol Louisa Huxtable-Thomas a Dr Robert Bowen.

Des i i Brifysgol Abertawe fel myfyriwr israddedig ar gynllun gradd BSc (Anrh.) Rheoli Busnes. Roedd Abertawe bob amser yn ddewis naturiol i mi, ac roedd hi'n brifysgol yr oeddwn wedi dyheu cael mynd iddi.

Graddiais i o’m cwrs gradd israddedig yn 2020. Ar yr adeg honno, roeddem yng nghanol anterth pandemig Covid-19 ac roedd effaith yr argyfwng ar fusnesau'n derbyn sylw mawr yn y cyfryngau. Teimlais y byddai cyflwyno fy PhD i werthuso profiadau busnesau manwerthu yn ystod y pandemig yn astudiaeth ystyrlon ac yn creu effaith.

Fel cymdeithas, rydym yn wynebu amrywiaeth o faterion sy'n cynnwys Newid yn yr Hinsawdd a Chysylltiadau Rhyngwladol tanllyd. Mae'r ddau fater eisoes wedi creu heriau i arweinwyr busnes, a byddant yn parhau i greu heriau wrth i ni symud tua'r dyfodol. Mae busnes bob amser wedi canolbwyntio ar bwysigrwydd elw, ac rwy'n siŵr y bydd yn parhau i wneud hynny. Serch hynny, mae gwytnwch elw cwmnïau bellach yn gynyddol bwysig. Mae damcaniaeth academaidd yn y maes hwn yn wan, ac rwy'n gobeithio bydd yr ymchwil hon yn cyfrannu at wybodaeth ychwanegol ystyrlon i'r corff cynyddol o ymchwil ar Wytnwch Sefydliadol.

Mae fy nhraethawd ymchwil yn gwerthuso Gwytnwch Sefydliadol yng nghyd-destun y diwydiant manwerthu yn ystod pandemig Covid-19. Mae'r traethawd ymchwil wedi cynnwys cyfweld â busnesau ar draws amrywiaeth o wytnwch, gan gynnwys;  y rhai hynny a fethodd, y rhai hynny a wnaeth oroesi a'r rhai hynny a wnaeth ffynnu yn ystod y pandemig.

Nod y traethawd ymchwil yw deall ymddygiad cwmnïau gwahanol a arweiniodd at y canlyniadau masnachol gwahanol hyn gan werthuso rôl y cyfryngau cymdeithasol fel galluogwr gwytnwch sefydliadol.

Y peth gorau am astudio ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn fwy penodol yn yr Ysgol Reolaeth, yw'r bobl. Mae'r gyfadran yn yr Ysgol Reolaeth yn hollol wych. Dim ond cefnogaeth a chyfleoedd rwyf wedi'u cael fel myfyriwr yn yr Ysgol Reolaeth a byddwn yn argymell y brifysgol i unrhyw un sy'n ystyried astudio yma.

Fy nghynlluniau ar gyfer y dyfodol yw cyhoeddi fy ymchwil mewn Cyfnodolyn Rheoli Rhyngwladol o bwys. Hoffwn i weld yr ymchwil hon yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i drafodaethau academaidd ym maes Gwytnwch Sefydliadol a Rheoli Dilyniant Busnes yn fwy cyffredinol.