Deiliad Ysgoloriaeth Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton, Sara M. Pan Algarra yw cydawdur papur ar waith newydd gyda Phwyllgor y Deyrnas Unedig ar gyfer UNICEF (UNICEF UK), gan adeiladu ar y gwaith y mae wedi ei wneud yn ystod ei hamser ar y cwrs MA mewn Heriau Byd-eang:  Cyfraith, Polisi ac Ymarfer a lleoliad gwaith ymchwil gyda UNICEF UK.

Mae'r papur ar waith hwn yn archwilio effeithiau dadleoli a mudo sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd ar blant, yn enwedig merched. Mae'r papur yn nodi elfennau allweddol er mwyn deall sut mae rhwystrau i addysg ar sail rhywedd wedi'u cysylltu â dadleoli a mudo sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd:

“Climate change is a child rights crisis, putting the lives, futures, and opportunities of millions of children and young people around the world at risk. Though millions are affected, the impacts are not felt equally by all children. Girls face unique additional barriers to accessing their rights – such as their right to education – in a changing climate, including when they or their families are displaced or forced to migrate.”

Mae'r papur ar waith hwn hefyd yn cyflwyno argymhellion ar gyfer Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch sut gall - a sut dylai - fynd i'r afael â dadleoli a mudo sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd er mwyn cyflawni ei hymrwymiad i gefnogi addysg o safon i bob merch am gyfnod o 12 mlynedd. Mae'r argymhellion polisi a'r ymchwil yn cyd-fynd ag adroddiad helaeth a gyhoeddodd UNICEF UK yn ddiweddar ynghylch dadleoli a mudo sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd a hawliau plant sy'n symud.

Wrth ganmol Sara am ei gwaith gydag UNICEF UK, meddai Anja Neilsen, Uwch-ymgynghorydd Polisi ar gyfer Addysg ac Ieuenctid:

"Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda Sara, ac mae ei hymchwil a'i gwaith ysgrifennu diwyd wedi gwneud y papur hwn yn bosibl. Bydd yn arf defnyddiol ar gyfer eirioli yn y maes hwn, wrth symud ymlaen.

"Siaradodd Sara am ei hymchwil mewn digwyddiad ymylol yn yr Uwch-gynhadledd Addysg Fyd-eang ddiweddar, a gynhaliwyd ar y cyd gan UNICEF UK, Plan International, Cronfa Malala ac eraill. Gwnaeth Sarah waith gwych , gan amlygu'r ffactorau pwysig a'r ffactorau gwaethygu sy'n rhwystro mynediad at addysg i ferched sy'n symud oherwydd newid yn yr hinsawdd. Roedd ei chyfraniad yn rhan hanfodol o'r digwyddiad."

Gan ystyried 26ain Gynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd (COP26) a gynhelir yn Glasgow rhwng 1 a 2 Tachwedd 2021, mae'n hanfodol hyrwyddo trafodaethau gwybodus ynghylch dadleoli a mudo sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd, a sut mae'n peri her wrth wireddu hawliau merched a hawliau pob plentyn.

Mynediad at y papur ar-lein:

Futures at risk: How the UK can support education for girls on the move in a changing climate

Rhannu'r stori