SARA PAN ALGARRA - DEILIAD YSGOLORIAETH HERIAU BYD-EANG

Bydd Sara astudio am PhD mewn Addysg Ryngwladol a Chymharol ym Mhrifysgol Columbia ym mis Medi 2022 fel Cymrawd Doethurol.

Yn ddiweddar, cwblhaodd Sara yr MA mewn Heriau Byd-eang: Cyfraith, Polisi, ac Ymarfer yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe gan ennill y rhagoriaeth uchaf. Gwnaeth ei thraethawd ymchwil ystyried effaith dadleoliad a mudo sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd ar fynediad merched at addysg yn Guatemala a Honduras. Yn fwyaf diweddar, dilynodd y maes ymchwil hwn gyda UNICEF UK ac mae wedi bod yn gweithio fel rhan o Dîm Cyfreithiol Child Rights Connect yn y Swistir.  Child Rights Connect yw'r rhwydwaith mwyaf o sefydliadau anllywodraethol sy'n ymroddedig i hawliau plant.

Graddiodd Sara Summa Cum Laude o Brifysgol Efrog Newydd (campws Abu Dhabi) â gradd BA gydanrhydedd mewn Ymchwil Gymdeithasol a Pholisi Cyhoeddus, a Theatr, ac arbenigedd mewn Gwyddor Wleidyddol.

Mae ganddi brofiadau proffesiynol cysylltiedig yn y Swistir, Ecwador, Venezuela, Canada, India, yr Eidal, yr Unol Daleithiau, yr Emiradau Arabaidd Unedig, a'r Deyrnas Unedig.

Cafodd ei hethol yn Faer Ieuenctid ym Mwrdeistref Chacoa Venezuela lle bu'n gweithio ym maes llywodraethu ieuenctid lleol rhwng 2010 a 2014. Hefyd, astudiodd yng Ngholeg United World India a dyfarnwyd cymrodoriaeth y Dalai Lama iddi gan Brifysgol Virginia.

CEFNDIR ADDYSGOL A GYRFA

  • Cymrawd Doethurol, Prifysgol Columbia. PhD mewn Addysg Ryngwladol a Chymharol (2022-26)
  • Deiliad Ysgoloriaeth Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton (Anrhydedd Uchaf), Prifysgol Abertawe. MA mewn Heriau Byd-eang Cyfraith, Polisi ac Ymarfer (2021-22)
  • Gradd Baglor anrhydedd dosbarth cyntaf Honors mewn Ymchwil Gymdeithasol a Pholisi Cyhoeddus a Theatr, gydag arbenigedd mewn Gwyddor Wleidyddol, Prifysgol Efrog Newydd (campws Abu Dhabi) (2016-20)
  • Addysg ryngwladol: Bu'n astudio am ddau semester yn Llundain ac Efrog Newydd, gan fynychu dosbarthiadau mewn Polisi Addysg yn Ysgol Diwylliant, Addysg a Datblygiad Dynol Steinhardt Prifysgol Efrog Newydd, a dosbarthiadau mewn Gwleidyddiaeth Ewropeaidd ym Mhrifysgol Efrog Newydd, Llundain. Hefyd, cwblhaodd gwrs dwys mewn gwleidyddiaeth hunaniaeth ym Mhrifysgol Efrog Newydd, Sydney.
  • Bagloriaeth Ryngwladol (Anrhydedd Uchaf), Coleg Unedig y Byd India (UWC India) (2014-16)

MEYSYDD ARBENIGEDD

Mae ymchwil ddiweddar Sara yn cynnwys:

  • Effaith pandemig COVID-19 ar fudwyr o Venezuela yn Ecuador, gwerthuso patrymau mudwyr sy'n dychwelyd drwy astudiaeth ansoddol.
  • Y newid i ddysgu ac addysgu ar-lein yn Ecuador oherwydd pandemig COVID-19.
  • Sut gall fod angen diwygio cwricwla polisi cyhoeddus yn Asia i ystyried y Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol, Argyfwng yr Hinsawdd a phandemig COVID-19.

Mae ei hymchwil flaenorol yn cynnwys:

  • Assessing Motivators and Barriers to Intercollegiate Sports among Women Athletes: The UAE Case (2018), Cyd-awdur.
  • Music Concerts: Cultural Consumption among NYUAD Students in Abu Dhabi and Dubai (2019), Awdur.
  • Female Sexual Violence and jus post bellum in the Rwandan Genocide (2017), Awdur.

UCHELGEISIAU A GOBEITHION AM Y DYFODOL

Ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe, bydd Sara yn astudio am PhD mewn Addysg Ryngwladol a Chymharol fel Cymrawd Doethurol ym Mhrifysgol Columbia.

CYDWEITHREDIADAU SARA A PHROSIECTAU MAE HI WEDI GWEITHIO ARNYNT