Ronan Lyons, Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn cydnabod Athro Iechyd Cyhoeddus

Mae arbenigwr iechyd cyhoeddus a gydnabuwyd gan y Frenhines yn dweud bod ei anrhydedd yn adlewyrchu enw da Banc Data SAIL Prifysgol Abertawe. 

Penodwyd yr Athro Ronan Lyons yn OBE am ei wasanaethau i ymchwil, arloesi ac iechyd cyhoeddus.

Ac yntau'n Athro Clinigol Iechyd Cyhoeddus yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac yn un o ddau gyfarwyddwr Gwyddor Data Poblogaethau, mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddefnydd eilaidd gwybodaeth am iechyd i helpu i glustnodi a gwerthuso ymyriadau'r gwasanaeth iechyd ac ymyriadau eraill er mwyn gwella gwaith atal, gofal ac iacháu.

Ers dechrau'r pandemig, mae'r Athro Lyons a'r tîm wedi defnyddio gwersi'r data iechyd helaeth ym Manc Data SAIL i gefnogi llywodraethau – gan ddarparu gwybodaeth i Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru, ac yn sgîl hynny SAGE (sef Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau) y DU. Mae eu gwaith hefyd wedi helpu'r GIG a chymunedau sy’n agored i niwed i fynd i'r afael ag argyfwng Covid-19, fel y gallant ddiogelu ac achub bywydau nawr yn y DU ac yn fyd-eang.

Ac yntau'n Brif Ymchwilydd ar y cyd ac yn Gyd-gyfarwyddwr Banc Data SAIL (a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru), meddai: “Mae'r dyfarniad hwn yn destun balchder a phleser i mi.

“Heb os, mae'n adlewyrchu'r ffaith bod cyfraniad cymdeithasol yr ymchwil a wnaed gennym drwy ddefnyddio Banc Data SAIL yn cael ei werthfawrogi'n gyffredinol. Dyma gydnabyddiaeth wych o'n hymagwedd gwyddoniaeth tîm wych a'n mentrau cydweithredol cenedlaethol a rhyngwladol.”

Ac yntau'n feddyg iechyd cyhoeddus ac yn epidemiolegydd sydd wedi cael mwy na 30 o flynyddoedd o brofiad o feddygaeth glinigol, iechyd cyhoeddus a gwybodeg iechyd yn Iwerddon ac yn y DU, mae diddordeb parhaus yr Athro Lyons mewn atal, trin ac iacháu anafiadau yn deillio o weithio mewn adrannau achosion brys.

Ef yw cyfarwyddwr safleoedd Cymru a Gogledd Iwerddon, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Arweinydd Cenedlaethol dros Wella Iechyd Cyhoeddus Health Data Research UK (HDR UK), sef buddsoddiad gwerth mwy na £50m gan gyllidwyr ymchwil yn y DU a arweinir gan y Cyngor Ymchwil Feddygol.

Yn ogystal, yr Athro Lyons yw Cyfarwyddwr Cysylltiol Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol), Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan Iechyd y Boblogaeth, Cyfarwyddwr Cysylltiol Porth Data DPUK (Dementias Platform UK) y Cyngor Ymchwil Feddygol a Chyd-gyfarwyddwr technoleg atebion data uwch SeRP (Secure eResearch Platform). Ar hyn o bryd, mae ganddo bortffolio o grantiau gwerth mwy na £45 miliwn.

Mae ei swyddi uwch eraill yn cynnwys: Athro Cynorthwyol ym Mhrifysgol Monash, Awstralia; Ymgynghorydd er Anrhydedd gydag Ymddiriedolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru’r GIG; a Chadeirydd yr Ymgais Gydweithredol Ryngwladol ar Ystadegau a Dulliau sy'n Ymwneud ag Anafiadau (CDC – Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau'r Unol Daleithiau).

Rhannu'r stori