Mae pobl ifanc â hanes o broblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio alcohol a chyffuriau yn fwy tebygol o farw na'r rhai sydd â phroblem iechyd meddwl yn unig neu sy'n camddefnyddio sylweddau yn unig. 

Mae ymchwil newydd hefyd wedi datgelu bod gwrywod a'r rhai sy'n hanu o ardaloedd difreintiedig yn wynebu'r perygl mwyaf.

Gwnaeth astudiaeth gan y Llwyfan Data Iechyd Meddwl Arddegwyr ym Mhrifysgol Abertawe, dan arweiniad yr Athro Ann John, edrych ar gofnodion meddygon teulu a derbyniadau i ysbytai o 2008 i 2017 ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru rhwng 11 a 25 oed.

Gwnaeth yr ymchwilwyr amcangyfrif bod oddeutu un o bob 500 o achosion newydd bob blwyddyn lle roedd problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau yn cyd-ddigwydd, a bod y cyfraddau yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru oddeutu teirgwaith yn uwch nag yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Canfu'r astudiaeth, sydd newydd gael ei chyhoeddi ar-lein yn y cyfnodolyn Clinical Epidemiology, fod data iechyd mwy na 70 y cant o bobl ifanc a oedd yn camddefnyddio cyffuriau hefyd yn cofnodi problem iechyd meddwl.

Canfu'r ymchwilwyr fod y gyfradd o bobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau yn eu data derbyn i'r ysbyty wedi parhau i fod yn sefydlog. Fodd bynnag, yn ôl cofnodion meddygon teulu, roedd y gyfradd wedi gostwng yn y rhannau mwyaf difreintiedig o Gymru ac wedi cynyddu yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Efallai fod nifer y bobl ifanc â'r problemau hyn yn gostwng yn yr ardaloedd difreintiedig hynny; fel arall, efallai fod llai o bobl ifanc yn yr ardaloedd hyn yn defnyddio gwasanaethau neu fod yr wybodaeth hon yn cael ei nodi'n llai aml yn eu cofnodion meddygol.

Meddai'r dadansoddwr ymchwil Sarah Rees, y prif awdur: “Yn aml, nid yw'r wybodaeth am y defnydd o alcohol a chyffuriau yn cael ei chofnodi mewn cofnodion iechyd, yn enwedig cofnodion pobl ifanc, felly mae'n debygol bod gan lawer mwy o bobl ifanc yng Nghymru broblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy’n cyd-ddigwydd na'r hyn a geir yn ein canlyniadau – dylid trin ein hamcangyfrifon fel lleiafswm.”

Ychwanegodd yr Athro John: “Mae pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau sy'n cyd-ddigwydd yn cael y canlyniadau iechyd a chymdeithasol gwaethaf. Mae ein hastudiaeth yn dangos yn glir eu bod yn agored i niwed.

“Gall y problemau hyn wneud bywyd beunyddiol yn heriol. Maent yn effeithio'n fawr ar lwybrau bywyd pobl ifanc ac yn amharu ar eu gallu i astudio a gweithio, i ryngweithio â'u teulu a'u ffrindiau, ac i gyflawni eu potensial.

“Ni ddylai ein canlyniadau fod yn annisgwyl. Er ei bod hi'n bwysig meithrin dealltwriaeth glir o raddau'r broblem, mae'n hanfodol cyflwyno gwasanaethau integredig ag adnoddau digonol sy'n benodol i arddegwyr er mwyn mynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, yn ogystal ag ymyrryd yn gynnar a chanolbwyntio ar atal.”

Meddai Janet Keauffling, nyrs arbenigol ar gyfer oedolion digartref a diamddiffyn, sy'n gweithio yn Abertawe: “Rwyf wedi bod yn gweithio ym maes digartrefedd a chamddefnyddio sylweddau ers blynyddoedd lawer ac rwyf wedi gweld o lygad y ffynnon yr effeithiau negyddol pan fo problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau yn cyd-ddigwydd, a'r canlyniadau hirdymor i blant a phobl ifanc sy'n dioddef ohonynt.”

Darllenwch y papur Incidence, mortality and survival in young people with co-occurring mental disorders and substance use: a retrospective linked routine data study in Wales yn ei gyfanrwydd

Rhannu'r stori