Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Berlin, Fernsehturm (368m): bydd y gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar y cyflenwad ynni i synwyryddion symudiadau mewn adeiladau ac adeileddau uchel.

Berlin, Fernsehturm (368m): bydd y gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar y cyflenwad ynni i synwyryddion symudiadau mewn adeiladau ac adeileddau uchel.

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe'n datblygu dull arloesol o ddylunio adeiladau clyfar.  Bydd model amgylcheddol gynaliadwy, mwy diogel a chost-effeithlon newydd yn cynnig system well ar gyfer cyflenwi ynni i synwyryddion mewn adeileddau clyfar. Dylunnir y model yn y Sefydliad Deunyddiau, Prosesu a Thechnolegau Rhifyddol Arloesol (IMPACT).

Defnyddir synwyryddion yn gyffredin i fonitro a rheoli tymheredd a lleithder adeilad, yn ogystal â monitro symudiadau, ansawdd aer a cheryntau trydan.

Ar hyn o bryd, caiff synwyryddion eu pweru drwy'r prif gyflenwad neu fatris mewn adeiladau clyfar. Bydd y prosiect newydd hwn yn cynnig dewis amgen sy'n lleihau ymhellach yr effaith amgylcheddol a'r costau sy'n gysylltiedig â gosod synwyryddion a'u cynnal a'u cadw – gan na fydd angen newid/gwaredu batris na defnyddio ceblau eithafol mwyach.

Bydd y gwaith ymchwil newydd hwn, sy'n dwyn yr enw SMART-UP, yn canolbwyntio ar y cyflenwad ynni i synwyryddion symudiadau mewn adeiladau ac adeileddau uchel.

Gall y synwyryddion hyn ddatgelu daeargrynfeydd a helpu i gynnal a chadw adeiladau: er enghraifft, drwy ddarganfod unrhyw graciau neu ddifrod mewn tyrbinau gwynt ar ôl gwyntoedd cryfion. Mae'r math hwn o fonitro iechyd adeileddol yn cynnig lefel newydd o ddiogelwch a dibynadwyedd i adeiladau.

Caiff model adeiladu unigryw, sy'n defnyddio effaith piesodrydanol, ei ddylunio i ddangos y posibilrwydd o ddefnyddio pŵer sy'n deillio o ddirgryniadau adeilad.

Mae effaith piesodrydanol yn deillio o drydan sy'n cronni mewn deunyddiau solet penodol mewn ymateb i wasgedd mecanyddol. Defnyddir y ffynhonnell ynni hon wrth ddylunio adeiladau uchel a chaiff ei storio mewn batris sy'n gwefru eu hunain a ddosberthir yn strategol, gan gynnig lefel newydd o hunangynhaliaeth drwy system fonitro sy'n pweru ei hun.

Meddai'r Athro Sondipon Adhikari o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe, sy'n arwain y prosiect hwn yn sefydliad IMPACT:

“Bydd y system newydd hon sy'n pweru ei hun yn cynnig ffynhonnell ynni ddibynadwy. Felly, pe bai daeargryn, er enghraifft, yn achosi i'r pŵer fethu mewn adeilad, byddai effaith piesodrydanol yn parhau i'w bweru.

Bydd ein tîm yn gosod dyfeisiau arloesol newydd o'r enw damperau piesodrydanol mewn adeiladau uchel modern er mwyn cysylltu elfennau adeileddol a chasglu ynni ar yr un pryd.

Mae'r damperau'n ddyfeisiau newydd a fydd yn lleihau nifer y dirgryniadau mewn adeiledd cynhaliol ac yn defnyddio'r dirgryniadau y mae'n eu hamsugno i gynhyrchu ynni ar yr un pryd. Maent yn elfennau cyfansawdd sy'n defnyddio effaith piesodrydanol a pholymer yn y cysylltiadau rhwng rhannau adeileddol adeiladau ac osgiliadau a achosir gan wynt i drawsnewid ynni cinetig yr adeiledd sy'n osgiliadu yn drydan.

Yn y pen draw, bydd y gwaith ymchwil hwn yn arwain, mewn modd dibynadwy, at adeileddau ac adeiladau mwy diogel, heb yr effaith ar yr amgylchedd.”

Ariennir SMART-UP drwy Gymrodoriaeth Unigol Marie Skłodowska-Curie Actions (drwy Horizon 2020). Ariennir gweithrediad IMPACT yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe.

Dyfodol cynaliadwy, ynni a'r amgylchedd - ymchwil Prifysgol Abertawe

Rhannu'r stori