Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Cant y cant i gwrs cydymaith meddygol yr Ysgol Feddygaeth unwaith eto . Myfyrwyr llwyddiannus yn dathlu ar ôl graddio o'r cwrs cydymaith meddygol yn 2019.

Myfyrwyr llwyddiannus yn dathlu ar ôl graddio o'r cwrs cydymaith meddygol yn 2019. 

Mae cwrs cydymaith meddygol Prifysgol Abertawe yn dathlu camp anhygoel – llwyddodd cant y cant o'i fyfyrwyr i basio'r arholiadau cydymaith meddygol cenedlaethol am y drydedd flwyddyn yn olynol. 

Dim ond yn 2016 y lansiwyd y cwrs MSc mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol ond mae eisoes wedi bod yn llwyddiannus iawn, gan gael ei wobrwyo drwy gael cyllid i gynnig lleoedd ychwanegol.

Mae cymdeithion meddygol yn rhan gynyddol bwysig o system gofal iechyd sy'n datblygu. Ar ôl cael eu hyfforddi fel meddygon yn ystod cwrs gradd sy'n para am ddwy flynedd, maent yn helpu meddygon mewn ymarfer clinigol. Mae cydymaith meddygol yn cyflawni tasgau tebyg i feddyg, gan gynnwys cynnal archwiliadau, rhoi diagnosis a rheoli cleifion.

Ar ôl sicrhau eu cymwysterau, mae eu harbenigedd meddygol cyffredinol yn golygu y gallant ddilyn gyrfa mewn amrywiaeth o arbenigaethau mewn ysbyty neu bractis cyffredinol.

Roedd cyfradd basio'r garfan ddiweddaraf o fyfyrwyr sy'n cael eu hyfforddi yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn gant y cant yn yr arholiadau cydymaith meddygol cenedlaethol a gynhaliwyd ym mis Medi, un o bedwar cwrs yn unig yn y DU i gyflawni'r gamp honno.

Meddai'r Athro Wyn Harris, cyfarwyddwr y rhaglen: “Y flwyddyn academaidd ddiwethaf oedd yr un fwyaf heriol erioed, ond gwnaeth pawb sy'n gysylltiedig â'r cwrs hwn helpu i barhau i addysgu ein myfyrwyr ac, yn bwysicach byth, i gynnal ansawdd yr addysg honno.

“Mae'r canlyniadau gwych yn yr arholiadau hyn yn destun clod i'n myfyrwyr, yn ogystal â'r ymdrech a wnaed gan y tîm i'w galluogi i lwyddo. Rydym mor falch o'n myfyrwyr a'u heffaith gadarnhaol ar weithlu'r GIG.”

Yn ôl yr Athro Keith Lloyd, Deon y Gwyddorau Bywyd ac Iechyd, mae'r MSc yn un o straeon llwyddiant yr Ysgol Feddygaeth.

Meddai: “Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu a chefnogi gweithlu gwyddorau bywyd ac iechyd y dyfodol ac mae ein cymdeithion meddygol yn rhan bwysig yn hyn o beth.

“Rydym wrth ein boddau gyda'r canlyniadau gwych hyn unwaith eto. Rhaid llongyfarch pawb sydd wedi chwarae rhan wrth sicrhau bod y cwrs hwn mor llwyddiannus.”

Meddai Dr Lisa Williams, gastroenterolegydd ymgynghorol yn Ysbyty Singleton ac un o'r clinigwyr sy'n cyfrannu at yr hyfforddiant: “Yn glinigol, mae'r cymdeithion meddygol yn ardderchog – maent yn ychwanegiad gwych at ein timau.”

Gellir cael mwy o wybodaeth am y cwrs MSc cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais, sef 31 Ionawr, drwy fynd i dudalen y cwrs ac mae manylion cofrestru ar gyfer diwrnod agored rhithwir ar gael hefyd.

Rhannu'r stori