Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Astudiaeth newydd yn dangos sut gallai mân algâu fod yn hollbwysig i economi gylchol

Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe wedi datgelu y gallai mân algâu chwarae rôl hollbwysig wrth ailddefnyddio gwastraff bwyd a ffermydd yn llwyddiannus ar raddfa fawr, yn ogystal â chreu miloedd o swyddi. 

Mae mân algâu yn gelloedd ffotosynthetig microsgopig a geir yn naturiol mewn cefnforoedd a llynnoedd. Fodd bynnag, mae grŵp ymchwil ALG-AD y Brifysgol yn esbonio mewn erthygl newydd sut gellir defnyddio maetholion dieisiau o wastraff bwyd i dyfu algâu.

Mae'r algâu'n trawsnewid y maetholion yn brotein y gellir ei fwydo i anifeiliaid yn lle protein soia llai cynaliadwy.

Un o nodau allweddol prosiect ALG-AD, dan arweiniad y Coleg Gwyddoniaeth, yw ymchwilio i'r broses economi gylchol hon sy'n defnyddio maetholion i gynhyrchu adnodd gwerthfawr arall – gan ddefnyddio gwastraff i greu cyfoeth.

Meddai Dr Claudio Fuentes-Grünewald, prif awdur y papur:

“Mae rhoi dulliau cylchol ar waith ym maes diwydiant drwy leihau gwastraff ac ailddefnyddio adnoddau i'r eithaf yn hollbwysig i'r amgylchedd.

“Mae meithriniadau mân algâu'n arbennig o dda o ran adfer gwastraff ac maent hefyd yn anhygoel o hyblyg o ran prosesu a defnyddio'r biomas a gynhyrchir.”

Mae'r erthygl, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn uchel ei fri Bioresource Technology, yn manylu ar waith yr ymchwilwyr i ddangos y gall mân algâu dyfu ac adfer gwastraff organig mewn ffordd newydd.

Hyd yn hyn, mae gallu mân algâu i ddatrys problemau amgylcheddol wedi cael ei ddangos ar raddfa gymharol fach yn unig. Gall mân algâu dyfu a chynhyrchu biomas mewn ffyrdd gwahanol, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, ac mae ALG-AD wedi llwyddo i ddangos cyfuniad o ddau ddull tyfu gwahanol ar raddfa fawr yn ei gyfleuster treialu yn y DU yn Langage AD, Plymouth, Lloegr.

Nod nesaf y tîm yw prosesu'r biomas algaidd ar gyfer porthiant anifeiliaid a chynhyrchion gwerthfawr eraill.

Mae gwaith dadansoddi ar y biomas hwn wedi datgelu ei fod yn meddu ar fwy o brotein na'r cynnyrch cyfatebol sy'n cael ei dyfu'n fasnachol, ac mae'n ddiddorol nodi hefyd fod carotenoidau – moleciwlau â gallu hysbys i hybu iechyd – yr algâu yn cynyddu.

Ar hyn o bryd, mae biotechnoleg ym maes mân algâu yn dal i ddatblygu, ond fe’i defnyddir yn fwy helaeth ledled y byd, mewn meysydd sy'n amrywio o nwyddau fferyllol a chosmetigau i borthiant a biosymbylwyr.

Ychwanegodd Dr Fuentes-Grünewald:

“Mae ein gwaith ar ALG-AD wedi profi y gellir defnyddio mân algâu ar raddfa briodol i gynhyrchu biomas o safon sy'n cael ei dyfu'n gynaliadwy ac sy'n gallu cael ei ddefnyddio at sawl diben masnachol.

“Rydym yn credu y gallai'r dechnoleg hon adfer miloedd o dunelli o weddillion treuliad anaerobig, heb beryglon llygredd sy'n gysylltiedig â storio'r gweddillion neu eu dychwelyd i'r tir. Yn y pen draw, gallai dull diwydiannol newydd economi gylchol gynhyrchu llawer o fiomas ar gyfer porthiant anifeiliaid, yn ogystal â chreu miloedd o swyddi cynaliadwy newydd.”

Mae ALG-AD yn brosiect pedair blynedd a ariennir gan Interreg NWE sy'n dod â gwyddonwyr a pheirianwyr at ei gilydd o 11 o bartneriaid gwahanol mewn pedair gwlad ledled Gogledd-orllewin Ewrop. 

Mae'r tîm bob amser yn awyddus i siarad ag unrhyw un sydd am archwilio dulliau o dyfu algâu. Ceir rhagor o wybodaeth drwy gysylltu â rheolwr y prosiect Louise Hall, neu Dr Fuentes-Grünewald

Rhannu'r stori