Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Mae'r broses hon yn defnyddio golau'r haul i ladd feirysau a thrawsnewid gwastraff na ellir ei ailgylchu yn danwydd hydrogen glân

Mae'r broses yn defnyddio golau'r haul i ladd feirysau a thrawsnewid gwastraff na ellir ei ailgylchu yn danwydd hydrogen glân.

Gellid defnyddio golau'r haul i drawsnewid gwastraff meddygol peryglus yn danwydd hydrogen glân, gan ddefnyddio techneg newydd sy'n cael ei datblygu gan dîm rhwng Cymru ac India ar y cyd dan arweiniad ymchwilwyr Prifysgol Abertawe. Mae'r prosiect newydd gael cyllid gwerth £47,000 gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r GIG eisoes yn gwario £700m y flwyddyn wrth waredu gwastraff meddygol. Mae pandemig Covid-19 yn creu swm mawr o wastraff ychwanegol, megis masgiau ac eitemau eraill o gyfarpar diogelu.

Mae'r tîm dan arweiniad Abertawe'n datblygu proses newydd o'r enw ffotoailffurfio (photoreforming). Mae'r broses hon yn defnyddio golau'r haul i ladd feirysau a thrawsnewid gwastraff na ellir ei ailgylchu yn danwydd hydrogen glân. Mae'r broses yn defnyddio lled-ddargludyddion â nanostrwythur i ysgogi diraddiad gwastraff a phathogenau dan olau'r haul.

Ar hyn o bryd, llosgir gwastraff meddygol. Yn wahanol i hynny, nid yw ffotoailffurfio yn cynhyrchu nwyon tŷ gwydr ac mae'n gweithio ar dymheredd amgylchol. Yn ogystal â chynhyrchu tanwydd hydrogen, gall y broses hefyd gynhyrchu defnydd crai organig ar gyfer y diwydiant cemegol.

Mae'r ymchwil newydd hon yn adeiladu ar waith blaenorol y tîm ar gynhyrchu hydrogen o blastigion gwastraff.

Mae'r tîm yn cynnwys arbenigwyr epidemioleg o Sefydliad Meddygaeth Ataliol ac Ymchwil King a Phrifysgol Thiruvalluvar yn India. Maent yn helpu i archwilio gweithgarwch gwrthfeirysol ffotogatalyddion yn erbyn pathogenau gwahanol, gan gynnwys SARS-CoV-2, sef y feirws sy'n achosi Covid-19. Mae'r grŵp nanoddeunyddiau yn Sefydliad Technoleg India yn ardal Mandi yn un o bartneriaid eraill y prosiect.

Mae'r ymchwilwyr wrthi'n chwilio am bartneriaid diwydiannol i fasnacheiddio eu technoleg.

Meddai Dr Moritz Kuehnel, arweinydd y prosiect ac uwch-ddarlithydd Cemeg ym Mhrifysgol Abertawe:

“Ers dechrau pandemig Covid-19, rydym wedi gweld cynnydd byd-eang yn swm y gwastraff meddygol a'r cyfarpar diogelu personol untro sy'n llygru'r amgylchedd, megis masgiau wyneb untro'n cael eu taflu ar draethau. Mae'r GIG eisoes yn gwario mwy na £700m bob blwyddyn ar waredu gwastraff, heb gyfrif gwastraff Covid-19. Byddai defnyddio ein technoleg i ailbrosesu 1% yn unig o'r gwastraff hwn yn arbed miliynau ac yn lliniaru llygredd ar yr un pryd.”

Ychwanega Dr Sudhaghar Pitchaimuthu, cyd-ymchwilydd ac un o gymrodorion Sêr Disglair rhaglen Sêr Cymru II yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe:

“Gan fod y broses yn syml ac yn rhad, bydd yn haws rhoi ffotoailffurfio ar waith mewn gwledydd heb system ailgylchu sefydledig. Drwy drawsnewid y gwastraff peryglus hwn yn adnodd, ein nod yw cynnig cymhelliant masnachol i gasglu gwastraff o'r amgylchedd a'i atal rhag cael ei daflu yn y lle cyntaf.”

Meddai Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru:

“Rwy'n falch bod ein cynllun Sêr Cymru yn gallu cefnogi'r rhaglen hon ym Mhrifysgol Abertawe, a fydd yn helpu yn y frwydr yn erbyn coronafeirws, gan ddarparu buddion amgylcheddol ac economaidd ar yr un pryd.”

Dyfodol Cynaliadwy, Ynni a'r Amgylchedd - darllenwch fwy

 

Rhannu'r stori