Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Mae systemau modern ar gyfer monitro glwcos ar y pryd bellach ar gael gan y GIG neu drwy eu prynu, felly gall pobl reoli lefelau glwcos wrth wneud ymarfer corff

Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi helpu i lunio cytundeb arloesol rhwng arbenigwyr rhyngwladol ar gyfarwyddyd safonol cyntaf y byd ynghylch sut gall pobl â diabetes ddefnyddio dyfeisiau monitro glwcos modern er mwyn eu helpu i wneud ymarfer corff yn ddiogel.

Bydd y cyfarwyddyd yn adnodd hollbwysig i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled y byd, fel y gallant helpu pobl â diabetes math 1.

Cafodd y cyfarwyddyd, a gymeradwywyd gan lu o arbenigwyr diabetes a sefydliadau, ei lunio gan dîm a oedd yn cynnwys Dr Richard Bracken o'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, y Coleg Peirianneg a'r Uned Ymchwil Diabetes, a leolir yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.

Mae ymarfer corff yn rhan bwysig o reoli diabetes math 1 ar gyfer pobl o bob oedran. Fodd bynnag, gall fod yn anodd rhagweld yr ymateb o ran siwgr gwaed gan fod ymarfer corff weithiau'n cynyddu'r perygl y bydd lefelau siwgr gwaed yn gostwng – sef hypoglycaemia. Ar adegau eraill, mae'n cynyddu siwgr gwaed. Felly, rhaid monitro lefelau glwcos yn agos.

Mae ofnau cael pwl “hypo”, a all arwain at benysgafnder, dryswch, gorbryder a llawer o symptomau eraill, yn un o'r prif bethau sy'n rhwystro pobl â diabetes rhag cynnwys ymarfer corff yn eu bywyd pob dydd.

Yn ffodus, mae systemau modern ar gyfer monitro glwcos ar y pryd bellach ar gael gan y GIG neu drwy eu prynu, felly gall pobl reoli lefelau glwcos wrth wneud ymarfer corff. Fodd bynnag, y broblem yw y gall y rhain fod yn gymhleth, a gall fod yn anodd i gleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol eu dehongli.

Bydd y cyfarwyddyd newydd yn amhrisiadwy yn hyn o beth. Mae'n ystyried technoleg monitro glwcos ac yn ei defnyddio fel y sylfaen ar gyfer cyfarwyddyd clir o ran ymarfer corff gan oedolion, plant a phobl ifanc â diabetes math 1.

Mae'r cyfarwyddyd yn trafod meysydd fel carbohydradau a throthwyon glwcos diogel. Y syniad yw y dylai fod yn adnodd ar gyfer cyfarwyddyd cychwynnol, y gellir ei deilwra wedyn i'r claf unigol wrth ymgynghori â gweithwyr iechyd proffesiynol.

Cafodd y cyfarwyddyd, a geir mewn datganiad sefyllfa, ei gyhoeddi gan Gymdeithas Ewrop ar gyfer Astudio Diabetes a'r Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc â Diabetes. Fe'i cymeradwyir hefyd gan yr elusen fyd-eang Juvenile Diabetes Research Foundation a chan Gymdeithas Diabetes America.

Meddai un o'r awduron, Dr Richard Bracken, sy'n arbenigwr diabetes o'r tîm ymchwil A-STEM (Meddygaeth a Thechnoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff Cymhwysol) ac sy'n arwain y grŵp ymchwil i ffyrdd o fyw yn Uned Ymchwil Diabetes yr Ysgol Feddygaeth:

“Mae'r cyfarwyddyd hwn yn gytundeb arloesol a allai wneud gwahaniaeth go iawn i bobl â diabetes math 1.

Mae'n seiliedig ar flynyddoedd o ymchwil i gryfderau a chyfyngiadau dyfeisiau monitro glwcos modern. Ar sail y dystiolaeth honno, gallwn bellach argymell sut i ddefnyddio'r dyfeisiau hyn a chefnogi pobl â diabetes math 1 yn ddiogel. Bydd yn eu helpu i sicrhau'r buddion iechyd sy'n deillio o ymarfer corff, gan leihau'r amrywiadau eithafol yn lefel y glwcos yn eu gwaed.”

Cyhoeddwyd y cyfarwyddyd ar yr un pryd yn y cyfnodolion ymchwil blaenllaw Diabetologia a Pediatric Diabetes.

Arloesi ym maes iechyd - darllenwch fwy

Rhannu'r stori