Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Tîm Menywod Cymru'n paratoi i wynebu'r Alban ym Mhrifysgol Abertawe

Mae Tîm Menywod Cymru'n defnyddio cyfleusterau chwaraeon Prifysgol Abertawe wrth iddynt baratoi i wynebu'r Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. 

Mae carfan o 35 o fenywod yn ymarfer yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol yn Lôn Sgeti cyn y gêm a gynhelir ddydd Sul, 1 Tachwedd.

Bydd Menywod Cymru'n ceisio gorffen y flwyddyn galendr ar nodyn uchel cyn Cwpan y Byd y flwyddyn nesaf, a gynhelir yn Seland Newydd.

Gwnaeth Cymru herio'r Alban ddiwethaf ym mis Tachwedd 2019, gan sicrhau buddugoliaeth o 17-3 yn Glasgow.

Meddai capten Menywod Cymru a Phennaeth Rygbi Prifysgol Abertawe, Siwan Lillicrap: “Mae'n wych bod yn Abertawe a chael dod â'r merched i'm milltir sgwâr. Rwy'n treulio'r rhan fwyaf o'm hamser yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ac mae gennym bopeth y mae ei angen arnom yma – dau faes, y gampfa ac ardaloedd ymarfer a chyfarfod dan do.

“Rydym i gyd wrth ein boddau i fod yn ôl yn ymarfer gyda'n gilydd ac yn paratoi i orffen ymgyrch Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn yr Alban.

“Dyma ddechrau blwyddyn fawr i ni gyda Chwpan Rygbi'r Byd yn Seland Newydd – bydd yr hyn rydym yn ei wneud nawr yn cael effaith fawr ar y flwyddyn i ddod.”

Ychwanegodd prif hyfforddwr dros dro Menywod Cymru, Darren Edwards: “Mae gennym rywle gwych i ymarfer yma ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym i gyd wrth ein boddau i fod yn ôl gyda'n gilydd yn gosod y cerrig sylfaen ar gyfer y gêm yn erbyn yr Alban.”

 

Rhannu'r stori