Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Mam a merch yn defnyddio gluniadur sydd ar wefan Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe

Bydd Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe yn dychwelyd ym mis Hydref, gyda llu o westeion arbennig, gan gynnwys yr Athro Brian Cox, Steve Backshall, Konnie Huq, Iolo Williams a Lyn Evans.

Bydd Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, yn cynnal yr Ŵyl am ddim eleni rhwng 21 a 31 Hydref a chyflwynir rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau ar-lein am y tro cyntaf, gan ganiatáu i bobl ledled y byd gael mynediad at yr Ŵyl.

Bydd mwy na 30 o ddigwyddiadau byw a rhai a recordiwyd ymlaen llaw, a bydd oedolion a phlant yn gallu mwynhau gweithgareddau a fydd yn archwilio mannau pellaf ein planed, dyfodol y bydysawd, teithio drwy amser, breuddwydion, peiriannau, a rhai o anifeiliaid mwyaf peryglus y byd. Hefyd, ceir taith rithwir o gwmpas Plantasia yn Abertawe, gan gynnig cip agos ar drigolion rhyfedd a rhyfeddol y sŵ trofannol.

Bydd yr Ŵyl yn agor ar 21 Hydref gyda straeon gan Steve Backshall, y naturiaethwr, y fforiwr, y llenor a'r cyflwynydd teledu o Loegr sydd wedi bod yn fuddugol yng ngwobrau BAFTA ac sydd wedi bod yn arwain cyrchoedd i rannau anhysbys o'r byd ers bron 20 mlynedd.

Ar 24 Hydref, bydd yr awdur llyfrau plant a'r digrifwr David Baddiel yn sgwrsio â'r astroffisegydd Edward Gomez am deithio drwy amser. Drannoeth, bydd yr Athro Brian Cox, sy'n arbenigwr ar esbonio rhai o gysyniadau anoddaf ffiseg a seryddiaeth, yn sgwrsio ag un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, yr Athro Lyn Evans, y dyn â chyfrifoldeb am adeiladu peiriant mwyaf y byd – Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear – sy'n astudio'r gronynnau lleiaf ym myd natur.

Bydd Konnie Huq, cyflwynydd mwyaf profiadol Blue Peter, yn cynnal sesiynau adrodd straeon, tynnu lluniau ac arbrofion dŵr, a bydd Grace Webb o CBeebies yn archwilio peirianwaith, nodweddion, rhannau a phrosesau rhai o'i hoff beiriannau, yn uniongyrchol o'i garej gartref.

Bydd y cyflwynydd gwyddoniaeth Jon Chase yn cyflwyno gweithdy byw a fydd yn dangos i bobl sut i gynnal arbrofion gwyddoniaeth gartref drwy ddefnyddio gwrthrychau pob dydd, a bydd y sylwedydd natur a'r cyflwynydd teledu poblogaidd Iolo Williams yn cynnal sesiwn drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.

Meddai'r Athro Martin Stringer, Dirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Abertawe: “Ers ei blwyddyn gyntaf fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Prydain a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Abertawe yn 2016, mae Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe wedi bod yn ddigwyddiad allweddol i'r ddinas, un sy'n llwyddo i ddod â'r holl gymuned at ei gilydd drwy hoffter cyffredin o wyddoniaeth.

“Rydym yn falch iawn o chwarae rôl flaenllaw yn yr Ŵyl ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd digwyddiadau fel hyn ar adeg pan fo angen yn fwy nag erioed i ni deimlo fel cymuned. Er bod yr Ŵyl ar ffurf rithwir eleni, ni fydd yn colli unrhyw atyniad yn ein barn ni. Yn wir, rydym yn gobeithio y bydd mynd ar-lein yn rhoi mwy o hyblygrwydd i bobl fwynhau'r digwyddiadau sydd ar gael, yn ehangu atyniad yr Ŵyl ac yn cyrraedd cynulleidfa ehangach nag erioed o'r blaen.”

Ceir rhagor o wybodaeth drwy fynd i wefan Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe.

Rhannu'r stori