Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Yr Athro Mike Charlton

Mae'r Sefydliad Ffiseg wedi rhoi anrhydedd uchel ei fri i ffisegydd o Brifysgol Abertawe am ei arweinyddiaeth dros 30 mlynedd ym maes gwyddor gwrthfater.

Mae'r Athro Mike Charlton, sy'n ffisegydd atomeg arbrofol, wedi derbyn Medal Syr Joseph Thomson, a gyflwynir am gyfraniadau nodedig at ffiseg atomig neu foleciwlaidd.

Roedd Joseph Thomson (1856-1940) yn wyddonydd o Brydain a ddarganfu'r electron, a arloesodd sbectrosgopeg màs ac a ddaeth o hyd i'r dystiolaeth gyntaf o fodolaeth isotopau elfen sefydlog.

Rhoddwyd y fedal i'r Athro Charlton gan y Sefydliad Ffiseg (IOP), y corff proffesiynol a'r gymdeithas ddysgedig ar gyfer ffiseg yn y DU ac Iwerddon.

Esboniodd yr IOP fod yr Athro Charlton wedi cael y wobr am y rheswm canlynol:

“Oherwydd arweinyddiaeth wyddonol ym maes gwyddor gwrthfater, yn enwedig o fewn cydweithrediadau ATHENA ac ALPHA, a ffurfio ac astudio gwrth-hydrogen, gan gynnwys sbectrosgopeg dau ffoton fanwl gywir y trosiad 1S – 2S.”

Mae gwrthfater yn ddirgroes i fater arferol. Mae gan ronynnau is-atomig gwrthfater nodweddion dirgroes i fater arferol – er enghraifft, mae eu gwefr drydanol o chwith. Cafodd yr un maint o wrthfater ei greu â mater ar ôl y Glec Fawr, ond mae'n brin yn y bydysawd heddiw, ac mae gwyddonwyr yn ymchwilio i'r rhesymau am hynny.

Mae'r Athro Charlton, sydd wedi bod yn rhan o Adran Ffiseg o'r radd flaenaf Prifysgol Abertawe ers 1999, wedi arloesi maes ffiseg gwrth-hydrogen.

Roedd yn ddylanwadol wrth sefydlu cydweithrediad ALPHA, prosiect rhyngwladol yn CERN yn y Swistir, cartref y Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr. Nod ALPHA yw creu, dal a llywio gwrth-hydrogen.

Mae'r Athro Charlton a thîm ALPHA hefyd wedi cynnal sawl arbrawf ar wrth-hydrogen, gan gynnwys mesuriadau sbectrosgopig yn ymwneud â chyflyrau isaf a chynhyrfol, gan lansio oes ffiseg fanwl gywir gyda gwrthfater atomig.

Meddai'r Athro Charlton:

“Rwy'n hynod falch o dderbyn yr anrhydedd hwn gan yr IOP ac o gydnabod yr ymdrech wych a wnaed gan y tîm yn Abertawe ar y gwaith. Rwy'n meddwl y byddai Thomson ei hun wedi ymddiddori yn ein prosiect!”

Mae dau gysylltiad arall â ffiseg yn Abertawe yng ngwobrau IOP eleni. Caiff yr Athro John Collier, a raddiodd yn Abertawe ac sydd wedi bod yn Athro er Anrhydedd yn yr adran ers 2009, Fedal Aur am ei ymdrechion a'i arweinyddiaeth ym maes ffiseg laser. Caiff un o bartneriaid diwydiannol yr adran, Dr Drew Nelson, Fedal Aur am ei ymdrechion diwydiannol ynghylch lled-ddargludyddion.

Dyma'r anrhydeddau diweddaraf i Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe. Yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diwethaf, barnwyd bod dros 80% o allbynnau ymchwil yr adran yn arwain y ffordd yn fyd-eang neu'n rhyngwladol ardderchog.

Yng Nghanllaw Prifysgolion 2020 The Guardian, roedd yr Adran Ffiseg ar frig y safleoedd yn y DU am foddhad myfyrwyr ac yn yr ail safle am addysgu.

Astudiwch Ffiseg yn Abertawe

Rhannu'r stori