Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Adeiladau ynni gweithredol, sy'n cynhyrchu, yn storio ac yn rhyddhau eu hynni eu hunain.

Adeiladau ynni gweithredol, sy'n cynhyrchu, yn storio ac yn rhyddhau eu hynni eu hunain.

Gall dur wedi'i gaenu ddefnyddio ynni solar a lleihau allyriadau carbon, yn ôl darlith gyhoeddus ar-lein gan arbenigwr o Brifysgol Abertawe, a gynhelir i nodi'r ffaith bod y Sefydliad Deunyddiau, Mwynau a Mwyngloddio (IOM3) wedi dyfarnu Medal Aur Bessemer iddo.

Mae'r Athro Dave Worsley yn gweithio yng Ngholeg Peirianneg y Brifysgol. Yn ogystal, mae'n un o gyd-gyfarwyddwyr SPECIFIC, prosiect a arweinir gan Brifysgol Abertawe sy'n dylunio ac yn adeiladu adeiladau ynni gweithredol, sy'n cynhyrchu, yn storio ac yn rhyddhau eu hynni eu hunain.

Mae'r Athro Worsley wedi ennill y wobr uchel ei bri o ganlyniad i'w wasanaeth rhagorol i'r diwydiant dur, yn ystod gyrfa ym Mhrifysgol Abertawe sydd wedi para am 30 mlynedd. Enwir y wobr ar ôl Syr Henry Bessemer, a arloesodd ddulliau gwneud dur modern.

Mae'r enillydd yn rhoi darlith flynyddol, a gyflwynir ar-lein eleni ar Zoom.

Cynhelir y ddarlith ar 21 Hydref am 4pm ac mae ar agor i bawb. Cofrestrwch yma.

Amlinellodd yr Athro Worsley gynnwys ei ddarlith:

“Bob blwyddyn, mae Tata Steel yn y DU yn cynhyrchu 100 miliwn metr sgwâr o gladin a ddefnyddir ar wynebau a thoeon adeiladau. Mae technolegau caenu arloesol yn golygu bod y rhain wedi'u gwarantu am hyd at 40 mlynedd. Mae'r cynhyrchion hyn yn sefydlog ond yn fud gan nad ydynt yn gwneud dim ond edrych yn braf a chadw'r glaw allan!

Fodd bynnag, gallai'r deunyddiau hyn fod yn glyfar. Gellid ymgorffori technoleg cynhyrchu ynni ynddynt, er mwyn amsugno ynni'r haul a chynhyrchu ynni.

Yn y ddarlith, byddaf yn disgrifio'r cynnydd hyd yn hyn tuag at gyflawni'r nod hwn. Byddaf yn trafod y DU, yn ogystal ag India a Mecsico, lle rydym yn gweithio gyda chymunedau lleol, gan ddefnyddio argraffweisg syml i wneud celloedd solar yn y man a'r lle.

Byddaf yn siarad am enghreifftiau go iawn o adeiladau ynni solar. Byddaf hefyd yn trafod sut gallwn ddefnyddio'r ynni dros ben y maent yn eu cynhyrchu, boed hynny er mwyn gwefru ein cerbydau trydan neu ddarparu ynni i gymunedau nad oes ganddynt fynediad at y grid.”

Gan drafod ennill Medal Aur Bessemer, meddai'r Athro Worsley:

“Mae'n deyrnged i ymdrechion gwych ein tîm yng Nghymru, sydd wedi darparu technolegau newydd ardderchog a all newid y byd.”

Arloesedd Dur - Prifysgol Abertawe

Rhannu'r stori