Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Abaty Singleton

Bydd Prifysgol Abertawe, sy'n nodi ei chanmlwyddiant eleni, yn defnyddio cyllid a glustnodwyd yn flaenorol ar gyfer digwyddiadau dathlu er mwyn ymladd yn erbyn Covid-19 a hyrwyddo arloesedd

Gwnaeth Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle, y cyhoeddiad mewn e-bost at aelodau o staff a myfyrwyr, gan ddweud bod pandemig Covid-19 wedi arwain at ohirio'r holl ddigwyddiadau canmlwyddiant corfforol er mwyn cadw cymuned y Brifysgol yn ddiogel. Yn eu lle, cynhelir cyfres o ddigwyddiadau rhithwir i nodi'r achlysur hanesyddol.

Mae'r Brifysgol hefyd wedi ailgyfeirio cyllid gwerth £200,000 a neilltuwyd ar gyfer dathliadau'r canmlwyddiant ynghyd â rhoddion gan gefnogwyr, er mwyn cefnogi myfyrwyr, aelodau o staff ac academyddion talentog drwy ddarparu grantiau i ymchwilio i Covid-19 a rhoi hwb i'r gronfa galedi myfyrwyr i helpu myfyrwyr y mae'r pandemig wedi effeithio arnynt yn uniongyrchol. 

Meddai'r Athro Boyle: “Ers agor ein drysau 100 mlynedd yn ôl rydym wedi arloesi, cydweithredu a datblygu i fod yn sefydliad campws deuol o safon ryngwladol, sy’n gwasanaethu ei gymuned, yn addysgu ei bobl, yn mynd i'r afael â phroblemau byd-eang ac yn darparu cartref i lawer o bobl. Mae ein gorchestion wedi cael effaith ar y byd mewn sawl ffordd, ac rydym yn hynod falch ein bod wedi cyrraedd y garreg filltir arwyddocaol hon yn ein hanes cyfoethog.

“Yn anffodus, ni allwn ddathlu'r gorchestion hyn yn y modd yr oeddem wedi'i gynllunio, felly rydym bellach wedi gwneud y penderfyniad anodd i ohirio pob digwyddiad canmlwyddiant corfforol yn 2020. Er ein bod yn siomedig i beidio â dathlu wyneb yn wyneb â'n staff, ein partneriaid, ein cyn-fyfyrwyr, ein myfyrwyr a'n ffrindiau, rhaid i ni sicrhau diogelwch ein cymunedau a chydnabod bod hwn yn gyfnod anodd iawn i nifer ymhlith teulu Abertawe.

“Yn hytrach, byddwn yn datblygu digwyddiadau rhithwir dros weddill y flwyddyn, yn ogystal â dechrau gweithio ar raglen newydd o ddigwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal unwaith y gallwn ymgynnull yn ddiogel yn y dyfodol.

“Er gwaethaf yr heriau sy'n wynebu'r sector Addysg Uwch ar hyn o bryd, mae hwn yn gam pwysig sy'n tanlinellu ein hymrwymiad i ymchwil effeithiol a gofal dros ein myfyrwyr. Mae'r egwyddorion hyn wedi bod yn rhan o'n hanfod ers 100 mlynedd a bydd hynny'n parhau wrth i ni edrych ymlaen at ein canrif nesaf.”

Rhannu'r stori