Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Logo Tafwyl Digidol

Mae partneriaeth Academi Hywel Teifi a Tafwyl yn parhau unwaith eto eleni wrth i’r ŵyl boblogaidd symud ar-lein yn sgil pandemig coronafeirws.

Bydd holl ddigwyddiadau Tafwyl Digidol yn cael eu ffrydio'n fyw ddydd Sadwrn 20 Mehefin, gydag Academi Hywel Teifi yn cynnal sesiynau yn ardal rithwir Llais yr ŵyl.

Yn Tu hwnt i'r Terfyn am 1pm, bydd yr anturiaethwr a rhedwr marathonau eithafol Lowri Morgan yn sgwrsio am ei chyfrol hunangofiannol newydd, Beyond Limits, yng nghwmni Beti George. Yn ystod y sgwrs mi fydd Lowri, sy’n gymrawd er anrhydedd Prifysgol Abertawe, yn esbonio beth sydd wedi galluogi ei chryfder a'i gwydnwch i wynebu rhai o amgylchfydoedd anoddaf y byd a sut gwthiodd ei meddwl a'i chorff trwy'r poen a'i disgwyliadau ei hun.

Yn Stomp y Ganrif am 3pm mi fydd yr Athro Brifardd Tudur Hallam yn arwain stomp arbennig i ddathlu canmlwyddiant Prifysgol Abertawe yn 2020, gyda’r timau yn fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Adran y Gymraeg. Yn eu plith mae’r canwr Huw Chiswell a raddiodd yn 1982; Aneirin Karadog a gwblhaodd ei PhD yn gynharach eleni; y llenor a’r darlledwr Gwennan Evans; yr actor Andrew Teilo sy’n dilyn MA Ysgrifennu Creadigol; Laura Hughes; Matthew Tucker ac eraill.

Meddai Dr Gwenno Ffrancon, cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: "Mae Academi Hywel Teifi yn falch iawn o gefnogi gŵyl ddigidol Tafwyl gan gyfrannu sesiynau yn ardal rithiol Llais yr ŵyl. Dyma'r bumed flwyddyn o'r bron i ni weithio mewn partneriaeth gyda’r ŵyl arbennig hon er mwyn hybu’r iaith ac i rannu gwaith ac arbenigedd llenorion, ysgolheigion, cyn-fyfyrwyr a chyfeillion disglair Prifysgol Abertawe." 

Rhannu'r stori