Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Yr Ysgol Feddygaeth yn penodi dau Athro er Anrhydedd mewn Fferylliaeth - Mair Davies a Dr Neil Hartman

Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi penodi dau aelod allweddol o staff wrth iddi baratoi i lansio ei chwrs fferylliaeth newydd. 

Penodwyd Mair Davies, Cyfarwyddwr diwethaf Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru, a Dr Neil Hartman, pennaeth meddygaeth niwclear yn Ysbyty Singleton, yn Athrawon er Anrhydedd cyn dechrau'r radd MPharm newydd yn 2021.

Meddai'r Athro Andrew Morris, Pennaeth Fferylliaeth: “Rwy'n falch iawn o gael cymorth dau unigolyn mor flaenllaw yn y maes er mwyn helpu i lywio datblygiad ein cwrs.”

Pwysleisiodd fod yr argyfwng presennol wedi dangos rôl bwysig fferyllwyr yn y frwydr yn erbyn Covid-19 a pham mai'r proffesiwn yn hanfodol i ofal iechyd.

“Mae fferylliaeth yn sicrhau y gall y cyhoedd gael gafael ar feddyginiaethau a chyngor ar ofal iechyd. Mae hon wedi bod yn rôl bwysig erioed, ond mae wedi profi'n hanfodol yn ystod y pandemig.

“Yn y dyfodol, bydd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru'n parhau i roi mwy o bwyslais ar atal salwch, ar helpu pobl i reoli eu hiechyd a'u lles eu hunain, ac ar alluogi pobl i fyw'n annibynnol am gyhyd â phosib – bydd y fferyllwyr y byddwn yn eu hyfforddi yma yn Abertawe yn chwarae rhan allweddol yn hyn o beth.”

Yn ystod pedair blynedd Mair Davies fel Cyfarwyddwr Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru, bu datblygiadau sylweddol yn y proffesiwn, gan arwain at ryddhau'r ddogfen weledigaeth Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach.

Meddai: “Mae'n bleser ymuno â Phrifysgol Abertawe ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Tîm Fferylliaeth a rhanddeiliaid ehangach er mwyn helpu i ddatblygu rhaglen fferylliaeth newydd arloesol.”

Ymunodd Dr Hartman ag Ysbyty Singleton yn 2018 o Ysbyty St Bartholomew lle bu'n bennaeth radiofferylliaeth. Yn flaenorol, roedd wedi dal swyddi academaidd cyswllt ym
Mhrifysgol Caergrawnt, Prifysgol y Frenhines Fair yn Llundain a Phrifysgol Purdue.

Mae adran radiofferylliaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cynhyrchu deunyddiau radiofferyllol ar gyfer yr holl adrannau meddygaeth niwclear lleol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau diagnostig yn parhau'n ddi-dor yn ystod y pandemig.

Meddai Dr Hartman: “Rwyf wrth fy modd i gael y penodiad hwn, sy'n fy ngalluogi i barhau i gyfrannu at addysg fferylliaeth a'r broses o ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o radiofferyllwyr.”

Ychwanegodd ei fod yn gweld bod gan ei rôl newydd bedair rhan:
• Helpu'r ysgol fferylliaeth newydd i sefydlu cwricwlwm cyffrous;
• Addysgu darpar fferyllwyr ynghylch yr agweddau dylunio, fferyllol a ffarmacoleg ginetig ar feddyginiaethau diagnostig ym meysydd radioleg a meddygaeth niwclear;
• Recriwtio graddedigion i gynorthwyo a gwella ein gwybodaeth am ddeunyddiau radiofferyllol newydd a'r defnydd ohonynt;
• Darparu cyfleuster (yn Ysbyty Singleton) er mwyn rhoi profiad cysgodi ym maes radiofferylliaeth i fyfyrwyr fferylliaeth (o Brifysgol Abertawe a'r tu hwnt).

Ceir mwy o wybodaeth am y cwrs newydd drwy gymryd rhan yn ein Diwrnod Agored Rhithwir nesaf ar 20 Mehefin

 

Rhannu'r stori