Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Y Brifysgol yn cyhoeddi partneriaeth tair blynedd newydd â Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe

Mae'n bleser gan Brifysgol Abertawe gyhoeddi partneriaeth tair blynedd newydd â Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe tan ddiwedd tymor 2022-23.

Mae'r Brifysgol yn cefnogi ei chlwb pêl-droed lleol fel partner cefn siorts a dillad ymarfer swyddogol y clwb, gan gadw ei statws fel yr unig Bartner Addysg Uwch.

Ar gyfer y tri thymor nesaf, bydd logo Prifysgol Abertawe ar siorts cartref ac oddi cartref y clwb, gan gynnwys y rhai a ddefnyddir at ddibenion manwerthu, yn ogystal ag ar flaen yr holl ddillad ymarfer a theithio, megis siacedi cynhesu, crysau polo, crysau-T a siwmperi, y bydd y chwaraewyr a'r staff yn eu gwisgo. Ni roddir y logo ar ddillad ymarfer manwerthu.

Bydd y Brifysgol, yr oedd ei logo ar gefn crys y clwb y tymor diwethaf, hefyd yn parhau i noddi Eisteddle'r Gorllewin yn y stadiwm am y tair blynedd nesaf, yn ogystal ag arddangos ei brand yn ystod gemau ar SwansTV Live a gaiff eu ffrydio i gefnogwyr y clwb, yn rhyngwladol ac yn y DU.

Bydd tîm yr Academi a'r tîm Menywod yn parhau i elwa ar y cysylltiad â'r un asedau brandio â'r tîm cyntaf.

Ychwanegodd Andrew Rhodes, Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredol Prifysgol Abertawe: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi adnewyddu'r bartneriaeth hon â Dinas Abertawe, ar ôl meithrin perthynas lwyddiannus â'r clwb ers nifer o flynyddoedd. Mae hi wedi bod yn berthynas wych i ni, gan fod y ddau sefydliad wrth wraidd y gymuned leol, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio dros y tair blynedd nesaf.

“Mae'r berthynas yn ymwneud â llawer mwy na noddi'r clwb. Mae'n ymestyn i'r chwaraeon o'r radd flaenaf rydym yn eu cynnig a'n rhaglen hyfforddi ryngwladol, yn ogystal â chefnogi'r Brifysgol, ein myfyrwyr a'r ardal leol.

“Hoffem ddiolch i bawb o Ddinas Abertawe am eu cefnogaeth barhaus wrth i ni barhau i atgyfnerthu ein statws fel y brifysgol orau yng Nghymru, yn ogystal â bod yn brifysgol flaenllaw yn y DU ac yn fyd-eang.”

Ychwanegodd cadeirydd Dinas Abertawe, Trevor Birch: “Mae athroniaeth y clwb pêl-droed hwn heddiw yn canolbwyntio ar faterion lleol yn hytrach na rhai byd-eang. Fel clwb, rydym wedi gweithio'n galed iawn dros y 12 mis diwethaf er mwyn ailsefydlu ein cysylltiadau â'r gymuned a busnesau lleol.

“Rydym wedi cael adborth calonogol gan fusnesau lleol drwy ddigwyddiadau ein rhwydwaith busnes (CBN). O ganlyniad, credaf ein bod yn agosach nawr nag y buom ar unrhyw adeg ers blynyddoedd lawer. Mae'r ffaith bod gan Brifysgol Abertawe ddigon o ffydd yn ein hegwyddorion i ymrwymo i'n cefnogi am y tair blynedd nesaf yn cadarnhau hynny.

“Y Brifysgol yw'r partner perffaith i ni. Mae'n cyflawni rhagoriaeth – rhywbeth rydym ni hefyd yn ymdrechu i'w wneud wrth i ni ailadeiladu'r clwb gyda'r gymuned wrth wraidd pob penderfyniad a wnawn.”

Meddai Pennaeth Masnachol Dinas Abertawe, Rebecca Edwards-Symmons: “Rydym wrth ein boddau bod Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i'n cefnogi am y tair blynedd nesaf. Mae'r ffaith y bydd y bartneriaeth yn para am gyhyd ar adeg mor anodd i bawb yn tanlinellu'r berthynas waith gref rydym wedi'i sefydlu dros y blynyddoedd.

“Mae gan y ddwy ochr yr un ymrwymiad i'r gymuned a'r bobl rydym yn eu gwasanaethu, boed yn gefnogwyr neu'n fyfyrwyr. Bydd hirhoedledd y bartneriaeth hon yn ein helpu i atgyfnerthu ein nodau a'n hathroniaeth yn y ddinas a chyrraedd y lefel nesaf.

“Mae'r clwb a'r brifysgol yn ddau o'r sefydliadau mwyaf adnabyddus yn Abertawe ac ymysg y cyfranwyr mwyaf at economi'r ddinas, ac rydym hefyd yn rhannu llawer o werthoedd a breuddwydion tebyg.

“Mae'r clwb pêl-droed yn hynod ddiolchgar i'r brifysgol am ein cefnogi – ac rwy'n siŵr y bydd ein cefnogwyr o'r un farn.”

Hoffai pawb ym Mhrifysgol Abertawe ddiolch i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe am barhau i'n cefnogi.

 

Rhannu'r stori