Coronafeirws: y diweddaraf
Golwg Abertawe - bae a dinas

Dinas a bae Abertawe: yn annisgwyl o bosib, gan fod yr ardal yn un drefol, ond y tonnau a'r llanwau sy'n cael yr effaith fwyaf ar ecoleg Bae Abertawe.

Mae astudiaeth newydd gynhwysfawr – a oedd yn cwmpasu dros 170 o rywogaethau o bysgod a chreaduriaid morol eraill megis crancod, môr-lewys a sêr-bysgod – wedi datgelu bod tonnau a llanwau'n cael mwy o effaith na gweithgarwch pobl ar fywyd morol ym Mae Abertawe.

Gan gyfuno data am rywogaethau, effeithiau pobl a phatrymau tonnau a llanwau, mae'r astudiaeth gan dîm o Brifysgol Abertawe'n rhoi'r darlun mwyaf cynhwysfawr hyd yn hyn o'r ffactorau sy'n ysgogi newidiadau ym Mae Abertawe.

Bydd yn rhoi dealltwriaeth well i gynllunwyr o'r Bae ac o effeithiau posib datblygiadau newydd ar ei ecosystem.

Gyda dwy ganolfan drefol yn Abertawe a Phort Talbot, mae Bae Abertawe'n gartref i oddeutu 290,000 o bobl ac yn gadarnle i ddiwydiant, gan gynnwys gwaith dur mawr a dau borthladd. Mae ganddo'r amrediad llanw uchaf ond un yn y byd, wrth i lanwau'r Iwerydd gulhau ym Môr Hafren cyn gwasgaru ar draws y bae bas.

Mae ardaloedd arfordirol trefol iawn fel Bae Abertawe'n peri problem i wyddonwyr sy'n astudio'r hyn sy'n digwydd i'r amgylchedd. Gan fod cynifer o ddylanwadau naturiol a dynol gwahanol ar yr amgylchedd, gall fod yn anodd eu gwahanu, neu nodi pa rai sydd bwysicaf.

Ond heb yr ymwybyddiaeth hon o'r darlun cyflawn, ni all cynllunwyr a rheolwyr amgylcheddol wneud y penderfyniadau gorau ar unrhyw effaith ecolegol.

Yn hyn o beth y mae'r ymchwil newydd yn ddefnyddiol. Casglodd y tîm o Brifysgol Abertawe, a oedd yn cynnwys biolegydd a pheirianwyr, ddata am rywogaethau, effeithiau pobl a phatrymau tonnau a llanwau a'i fwydo i mewn i fodel ystadegol. O ganlyniad i hyn, roeddent yn gallu asesu arwyddocâd ffactorau gwahanol.

Roedd eu casgliadau fel a ganlyn:

• Roedd y tonnau a'r llanwau'n cael mwy o effaith na gweithgarwch pobl ar y Bae
• Roedd tonnau a llanwau'n gyfrifol am dros hanner yr holl amrywiadau o ran y rhywogaethau a welwyd
• Roedd ffactorau gwahanol yn effeithio ar rywogaethau gwahanol, ac i raddau amrywiol – er enghraifft, roedd gwasgaru baw treillion yn cael yr effaith fwyaf ar bysgod, ond nid oedd gollwng dŵr gwastraff yn effeithio ar fywyd morol.

Ysgogwyd yr astudiaeth hon gan brosiect y morlyn llanw, a ddatgelodd fod bylchau yn ein dealltwriaeth o Fae Abertawe, sy'n ecosystem arfordirol drefol, uchel ei defnydd. Felly, daeth y tîm o Brifysgol Abertawe, a fu'n gweithio ar astudiaethau ar wahân, ynghyd i lunio'r ymchwil newydd hon fel rhan o SEACAMS, menter a ariennir gan yr UE sy'n canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy'r môr.

Meddai Dr Ruth Callaway o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, a fu'n arwain y gwaith:

“Yn annisgwyl o bosib, gan fod yr ardal yn un drefol, ond y tonnau a'r llanwau sy'n cael yr effaith fwyaf ar ecoleg Bae Abertawe. Dengys ein hymchwil fod y ffactorau naturiol hyn yn llunio'r bywyd morol yn fwy na gweithgarwch pobl, megis gollwng dŵr gwastraff a gwaredu deunydd sydd wedi'i dreillio.

Fodd bynnag, mae Bae Abertawe'n parhau i fod yn ecosystem gymhleth sydd wedi cael ei newid yn ddramatig dros y canrifoedd diwethaf, ac mae angen i ni gael darlun mor gyflawn â phosib o'r hyn sy'n effeithio arni. Bydd canfyddiadau ein hymchwil yn helpu i ddarparu hynny.”

Yr ymchwilwyr eraill a gymerodd ran oedd Dr Iain Fairley a Dr Jose Horrillo-Caraballo o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe.

Cyhoeddwyd yr ymchwil yn Science of the Total Environment”.

Rhannu'r stori