Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Mwg o danau Awstralia a arsylwyd gan ESA Copernicus Sentinel-3 ar gyfer y cyfnod rhwng 1 a 9 Ionawr 2020. (Ffynhonnell: Prifysgol Abertawe / Gwasanaeth Newid yn yr HinsawddEU Copernicus.)

Mae data newydd gan Brifysgol Abertawe wedi dangos bod y tanau gwyllt yn Awstralia yn debygol o lygru ansawdd aer dros ardal ddaearyddol fawr a allai gael effaith andwyol ar iechyd cyhoeddus.

Mae Peter North, Athro Daearyddiaeth yng Ngholeg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, wedi datblygu adferiad atmosfferaidd o ddelweddau lloeren ar y cyd â’i gydweithwyr Andreas Heckel a Dr Kevin Pearson, gyda chefnogaeth Menter Newid yn yr Hinsawdd Asiantaeth Ofod Ewrop.

Mae’r tanau, sydd wedi llosgi ardal 10 miliwn hectar yn Awstralia yn ystod y tymor tanau hwn, sef ardal oddeutu pum gwaith maint Cymru, wedi dilyn y flwyddyn boethaf a sychaf a gofnodwyd erioed i Awstralia a’r ail flwyddyn boethaf yn fyd-eang.

Canfu’r tîm fod plu dwys o fwg o danau gwyllt sy’n gorchuddio de-ddwyrain Awstralia wedi teithio dros 4,000 o gilomedrau dros y Môr Tawel a Seland Newydd.

Yn ogystal, ystyrion nhw gyfanswm colofn dwysedd mwg a roddir drwy Ddyfnder Optegol Erosol (AOD), sef mesuriad o ddal golau’r haul, gan ganfod er bod lefelau cyffredinol Awstralia dan 0.2, mae delweddau’r lloeren yn dangos bod hanner y cyfandir yn mynd ymhell y tu hwnt i’r lefel hon ac yn codi i dros 0.7 mewn ardaloedd mawr. 

Meddai’r Athro North: “Amcangyfrifwyd bod 3.7 miliwn o farwolaethau cynnar ledled y byd yn flynyddol o ganlyniad i ddwysâd uchel o ronynnau sy’n troelli yn yr atmosffer o’n cwmpas, ac mae rhai o’r rhain yn dod o ffynonellau megis llygredd trefol, llwch mwynol a thanau gwyllt. Mae’r data a gesglir gennym drwy astudio’r delweddau lloeren hyn yn bwysig gan y gall ein helpu i gyhoeddi rhybuddion cynnar ynghylch peryglon ansawdd aer sy’n deillio o’r tanau gwyllt hyn.”

Daeth y delweddau o’r ardal o’r lloeren Sentinel-3, sy’n rhan o lu o loerenni pwrpasol y mae’r UE yn berchen arnynt ac a ddyluniwyd i gyflwyno gwybodaeth weithredol i raglen amgylcheddol Copernicus yr Undeb Ewropeaidd.

Dyluniwyd y system lloerenni i ddarparu delweddau dibynadwy o arwynebau tir llachar megis Awstralia, sy’n anodd i’r rhan fwyaf o loerenni, gan alluogi ymchwilwyr i weld mwg yn cael ei gludo ar draws rhanbarthau o anialwch, yn ogystal â phlu yn codi o danau yn Tasmania a gorllewin Awstralia.

Mae gweithrediad a datblygiad Sentinelau Copernicus yn cael eu cynnal ar y cyd gan Asiantaeth Ofod Ewrop (ESA) a Sefydliad Ewrop dros Ddefnydd Lloerenni Meteorolegol (EUMETSAT). Mae Prifysgol Abertawe yn gweithio gydag EUMETSAT i gyflwyno delweddau erosol cyflym y mae eu hangen er mwyn cyhoeddi rhybuddion gwell am beryglon ansawdd aer.

Rhannu'r stori